Neidio i'r cynnwys

Alf Morgans

Oddi ar Wicipedia
Alf Morgans
Ganwyd17 Chwefror 1850 Edit this on Wikidata
Machen Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 1933 Edit this on Wikidata
South Perth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Awstralia Awstralia
Galwedigaethgwleidydd, buddsoddwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Gorllewin Awstralia, Aelod o Gynulliad Deddfwriaethol Gorllewin Awstralia Edit this on Wikidata

Roedd Alfred Edward Morgans (17 Chwefror 1850 - 10 Awst 1933) yn Gymro a wasanaethodd fel pedwerydd Prif Weinidog Gorllewin Awstralia, gan wasanaethu am ychydig dros fis, o 21 Tachwedd i 23 Rhagfyr 1901.[1]

Bywyd a gyrfa gynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Alf Morgans yn yr Ochr Chwith, Machen, Sir Fynwy. Fe'i haddysgwyd mewn ysgolion preifat ac yna mynychodd Ysgol Mwyngloddiau Bryste.[2] Ar ôl cwblhau ei astudiaethau, cafodd brentisiaeth i gwmni peirianneg fecanyddol yng Nglynebwy.

Ar 19 Mawrth 1872, priododd Fanny Ridler yng Nghaerloyw. Ym 1878, anfonodd cyflogwyr Morgans ef i Fecsico i oruchwylio eu mwyngloddiau aur ac arian. Bu'n gweithio yng Nghanol America am gyfnod o 18 mlynedd, yn cynrychioli buddsoddiadau Prydeinig mewn mwyngloddio a rheilffyrdd, yn enwedig yn Gwatemala a Nicaragwa, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe ddysgodd siarad Sbaeneg yn rhugl, a datblygodd ddiddordeb mewn archeoleg Astec a Maya ac anfonodd arteffactau i amgueddfeydd ym Mhrydain.[3]

Cyrhaeddodd Morgans Albany, Gorllewin Awstralia ar RMS Himalaya o Lundain ar 18 Mawrth 1896, fel cynrychiolydd Morgans Syndicate Ltd i archwilio eiddo mwyngloddio i fuddsoddwyr yn Llundain a oedd yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi cadarn. Caffaelodd ar nifer o fuddiannau eiddo a mwyngloddio ledled y wladwriaeth, gan gynnwys Westralia Mount Morgans,[4] ac ystyrir ef, yn gyffredinol, yn awdurdod blaenllaw ar fuddsoddiadau mwyngloddio.[5][6]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Ar 4 Mai 1897 etholwyd Morgans i sedd Cynulliad Deddfwriaethol Coolgardie.

Yn y senedd, roedd yn gefnogwr i'r Prif Weinidog Syr John Forrest. Wedi i Forrest ymddiswyddo o wleidyddiaeth y wladwriaeth, bu cyn cefnogwyr Forrest yn parhau i gydweithio; cyfeiriwyd at y grŵp fel y ministerialists. Ym mis Tachwedd 1901, fe wnaeth y gweinidogion drechu olynydd Forrest i'r arweinyddiaeth, George Leake, ar bleidlais diffyg hyder, ac fe'i gorfodwyd i ymddiswyddo. Fodd bynnag, ni allent gytuno ar enwebai ar gyfer olynydd iddo. Gwahoddodd y llywodraethwr Frederick Henry Piesse i lunio llywodraeth ond ni allai gael digon o gefnogaeth.[7]

Yn y pen draw, cytunodd y ministerialists ar Morgans fel ymgeisydd cyfaddawd, a chymerodd swydd Prif Weinidog a Thrysorydd Trefedigaethol ar 21 Tachwedd 1901, er nad oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol o wasanaethu fel gweinidog.

Cyn 1947, roedd yn ofynnol i weinidogion a oedd newydd eu penodi ymddiswyddo a sefyll ar gyfer eu hailethol. Yn yr isetholiad gweinidogol dilynol i godi Morgans yn Brif Weinidog, roedd cefnogwyr Leake yn sefyll yn erbyn y cabinet newydd ei benodi gan Morgans, a chafodd tri o'r chwe gweinidog newydd eu trechu. Heb obaith ffurfio llywodraeth gofynnodd Morgans i Lywodraethwr y dalaith i ddiddymu'r Cynulliad a galw etholiad cyffredinol, ond gwrthodwyd y cais. Ymddiswyddodd Morgans fel Prif Weinidog ar 23 Rhagfyr 1901, ac ail benodwyd Leake, y tro hwn gyda chefnogaeth glir. Ni safodd Morgans yn yr etholiad deddfwrfa ddilynol.[1][

Gyrfa ddiweddarach

[golygu | golygu cod]

Roedd bywyd Alf Morgans ar ôl gwleidyddiaeth yn cynnwys nifer o apwyntiadau consylaidd yng Ngorllewin Awstralia. O 1910 i 1917, roedd yn Gonswl Awstria-Hwngari yng Ngorllewin Awstralia; Ym 1915 bu'n Is-gonswl i Sbaen hefyd. Ym 1921 penodwyd ef yn Asiant Consylaidd yn Perth a Fremantle dros Unol Daleithiau America, gan aros yn y swydd tan 1930, pan ymddiswyddodd oherwydd afiechyd.[8]

Bu farw ar 10 Awst 1933 yn Ne Perth yng Ngorllewin Awstralia.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd
George Leake
Prif Weinidog Gorllewin Awstralia
1901
Olynydd
George Leake