Alex Davies

Oddi ar Wicipedia
Alex Davies
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Cenedlaetholwr croenwyn o Gymro yw Alex Davies (ganwyd 1994 neu 1995). Ef yw un o sefydlwyr National Action, y grŵp adain dde eithafol gyntaf i'w gwahardd yn y Deyrnas Unedig ers yr Ail Ryfel Byd.[1]

Yn 2011, pan oedd yn 16 oed, fe gafodd ei gyfeirio at raglen Prevent, cynllun llywodraethol i ymwneud ag eithafwyr.[2] Ymunodd ag adain ieuenctid y British National Party, ond fe gafodd ei siomi gan "anhrefn" (disarray) y blaid honno. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Warwick, ac yno fe geisiodd hyrwyddo'i daliadau gwleidyddol ar y campws. Yn 2012, sefydlwyd National Action gan Alex Davies a Benjamin Raymond, myfyriwr o Brifysgol Essex. Nod y grŵp oedd i greu mudiad ieuenctid Sosialaeth Genedlaethol, neu neo-Natsïaeth, yng ngwledydd Prydain. Mewn gorymdaith National Action yn Lerpwl, datganodd Davies, "We’re like the BNP but more radical".[3] Gadawodd y brifysgol ar ddiwedd blwyddyn gyntaf ei gwrs, yn sgil erthygl yn y Sunday Mirror ym Mehefin 2014 a oedd yn datgelu ei ran yn National Action.[4] Dychwelodd i dde Cymru i weithio mewn canolfan ffôn, ac yn 2018 roedd yn byw yn Abertawe.[2]

Yn 2016, fe anerchodd y Welsh Forum ar bwnc "Saunders Lewis and Militant Welsh Nationalism". Ym Mai 2016, cafodd Davies ffrae â merch o hil cymysg a'i mam yng Nghaerfaddon, ac aeth y fideo yn "firaol".[5] Cafodd National Action ei gwahardd gan yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd yn Rhagfyr 2016 am fod yn "sefydliad hiliol, gwrth-Semitaidd a homoffobaidd".[1]

Yn 2021 cyhuddwyd Davies o fod yn aelod o National Action rhwng Rhagfyr 2016 a Medi 2017, wedi i'r grŵp gael ei wahardd.[6] Ar 17 Mai 2022 fe'i cafwyd yn euog o sefydlu grŵp o'r enw NS131 o fewn National Action, wedi i'r mudiad gael ei wahardd,[7] ac ar 7 Mehefin 2022 fe'i dedfrydwyd i garchar am wyth mlynedd a hanner.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Far-right group National Action to be banned under terror laws", BBC (12 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
  2. 2.0 2.1 "Founding father of banned white supremacist group National Action identified as being at risk of radicalisation at 16", ITV (25 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
  3. "Exposed: Rise of Hitler-loving National Action group who want to 'ethnically cleanse' the UK", Mirror Online (7 Mehefin 2014). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
  4. "Fascist leader leaves Warwick", The Boar (18 Mehefin 2014). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
  5. "Family threatened after Bath racism video goes viral", BBC (12 Mai 2016). Adalwyd ar 25 Awt 2018.
  6. (Saesneg) "National Action: Neo-Nazi group co-founder to stand trial", BBC (25 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 25 Mehefin 2021.
  7. "Dyn yn euog o ffurfio grŵp cysylltiedig â mudiad eithafol", BBC (17 Mai 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mai 2022.
  8. "Carcharu dyn o Abertawe am barhau yn aelod o fudiad Natsïaidd", BBC (7 Mehefin 2022).