Cenedlaetholdeb croenwyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cenedlaetholdeb sydd yn arddel taw cenedl yw'r bobl wynion, naill ai mewn cyd-destun rhanbarthol neu ryngwladol, a bod angen llywodraeth wen i sicrhau eu hawliau, hunaniaeth a diwylliant yw cenedlaetholdeb croenwyn. Fel mudiad byd-eang, neu ffurf ar holl-genedlaetholdeb, mae'n pwysleisio etifeddiaeth gyffredin yr hil wen. Ar ei ffurfiau rhanbarthol mae'n galw am ddatblygu a chynnal hunaniaeth genedlaethol y bobl wynion o fewn gwlad benodol, gan amlaf gwlad a chanddi boblogaeth wen yn disgyn o sawl gwahanol grŵp ethnig Ewropeaidd, er enghraifft Unol Daleithiau America neu Dde Affrica. Mae nifer o genedlaetholwyr croenwyn yn cefnogi cysyniad yr ethno-wladwriaeth wen, sef cenedl-wladwriaeth a fyddai'n neilltuo dinasyddiaeth ar gyfer gwynion ac yn diogelu eu buddiannau.[1]

Nid yw goruchafiaeth y gwynion yn gyfystyr â balchder croenwyn, goruchafiaeth y gwynion, ymwahaniaeth groenwen, nac hunaniaeth groenwen, er bod y cysyniadau a'r creodau hyn i gyd yn cydgyffwrdd yn aml.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rothì, Despina M.; Lyons, Evanthia; Chryssochoou, Xenia (February 2005). "National attachment and patriotism in a European nation: a British study". Political Psychology 26 (1): 135–55. doi:10.1111/j.1467-9221.2005.00412.x.