Alan Stivell
Alan Stivell | |
---|---|
Alan Stivell mewn cyngerdd, gyda'i Delyn Geltaidd | |
Ganwyd | Alan Cochevelou 6 Ionawr 1944 Riom |
Man preswyl | Lanvezhon / Bezhon, Roazhon |
Label recordio | Fontana Records, Keltia 3, Mouez Breiz, Universal Music France, Philips Records, Disques Dreyfus, World Village, Harmonia Mundi, Play It Again Sam, Sony Music, Disc'AZ, Warner Music Group, Coop Breizh |
Dinasyddiaeth | Llydaw |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, arweinydd, telynor, canwr, ymgyrchydd, cerddor, cynhyrchydd recordiau, trefnydd cerdd, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, offerynnau amrywiol, artist recordio |
Swydd | cadeirydd anrhydeddus |
Arddull | cerddoriaeth Lydewig, cerddoriaeth Celtaidd, asiad Geltaidd, trawsnewid, cerddoriaeth yr oes newydd, roc Geltaidd, roc gwerin, cerddoriaeth electroawcwstig, roc Llydewig |
Math o lais | bariton |
Prif ddylanwad | dawnsio Llydewig, Sœurs Goadec, Frères Morvan, Jef Le Penven, Seán Ó Riada, Roger Abjean, Mary O'Hara, Turlough O'Carolan, pìobaireachd, Cerddoriaeth Iwerddon |
Tad | Georges Cochevelou |
Mam | Fanny Julienne Dobroushkess |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres, Urdd y Carlwm, Gwobr Imram, Premio Tenco |
Gwefan | http://www.alanstivell.bzh |
Cerddor Llydewig yw Alan Stivell (ganed Alan Cochevelou 6 Ionawr, 1944). Mae ei enw llwyfan "Stivell" yn golygu "ffynnon" yn Llydaweg. Roedd ei deulu o Gourin ond treuliodd ei blentyndod ym Mharis. Magodd ddiddordeb yng ngherddoriaeth Llydaw ac ym 1953 dechreuodd ganu'r delyn. Ef yn anad neb arall sy'n gyfrifol am boblogrwydd y delyn Geltaidd. Dysgodd Lydaweg a bu'n cystadlu mewn gwyliau gwerin yn Llydaw. Dechreuodd recordio ym 1959, ac ymddangosodd yr LP Telenn Geltiek ym 1960. Daeth yn adnabyddus iawn yn ystod y 1970au gyda'r adfywiad mewn canu gwerin, a bu ar daith i nifer o wledydd, gan gynnwys Cymru (mae ei fersiwn o 'Mae gen i ebol melyn' yn arbennig o Geltaidd).
Ieuenctid
[golygu | golygu cod]Yn 1953 cerfiodd ei dad (Georges Cochevelou) delyn Geltaidd i'w fab, a honno wedi ei llunio ar delynau traddodiadol Llydewig. Dysgodd siarad Llydaweg yn sydyn iawn; dysgodd hefyd llawer am ddawnsio traddodiadol Llydaw. Dysgodd hefyd sut i chwythu'r pibgorn a'r bombarde Llydewig. Recordiodd sengl yn 1953 ac yna Telenn Geltiek yn 1963.
Arweinydd y Mudiad Cerddoriaeth Geltaidd
[golygu | golygu cod]Perfformiodd ar y cyd gyda'r Moody Blues yn Llundain yn (1968). Yn 1970, lansiodd y sengl "Broceliande" a Reflets, y ddau ar label Philips. Roedd lansio'r albwm hwn yn faniffesto dros ei ymgyrch dros Cerddoriaeth y Byd (neu 'World Music').
Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y symudiad Llydewig o 'fynd yn ôl at y gwreiddiau', drwy recordio albwm (yn 1971) o'r enw Renaissance de la Harpe Celtique.
Teithiodd led-led yn byd yn canu mewn gwledydd megis Canada, UDA, Gwledydd Prydain a Ffrainc.
Yn 1976 cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth Llydewig.
Yn 1979 impiodd nifer o genres wrth ei gilydd i greu Symphonie Celtique: roc, elfenau 'Berber' y lleisydd Djouha a'r sitarydd Narendra Bataju. Roedd y perfformiad cyntaf o'r Symffoni Celtaidd ym maes pêl-droed enfawr Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant o flaen deg mil o gynulleidfa. Chwarter awr cyn y diwedd, daeth cawod ysgafn o law ac ni orffennwyd y symffoni. Rhoddwyd y cyfan ar ddisg, fodd bynnag.
Ym 1980 enillodd Wobr Goffa Nansi Richards fel prif delynor Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau
Yn yr 1980au trodd y canu gwerin yn fath arall roedd wedi ei ragweld flynyddoedd ynghynt, sef Cerddoriaeth y Byd. Cydweithiodd dro ar ôl tro gyda Kate Bush.
Bu'n ddylanwad ar, a pherfformio gyda, cantorion Llydewig eraill, megis Yann-Fañch Kemener.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Telenn Geltiek / Harpe celtique (1964)
- Reflets / Reflections (1970)
- Renaissance de la Harpe Celtique (1971-72)
- A l'Olympia - Live (1972)
- Chemins de Terre (1973)
- E Langonned (1974)
- E Dulenn / Live In Dublin (1975)
- Trema'n inis / Vers l’île (1976)
- Roak Dilestra / Avant d'accoster / Before Landing (1977)
- Un Dewezh 'barzh gêr / Journée a la maison (1978)
- International Tour / Tro ar Bed - Live (1979)
- Symphonie Celtique - Tir na-nOg (1979)
- Terre des vivants / Tir an dud vew (1981)
- Legend / Mojenn (1983)
- Harpes du Nouvel Âge / Telenn a' Skuilh-dour (1985)
- The Mist Of Avalon (1991)
- Again (1993)
- Brian Boru (1995)
- 1 Douar / 1 Earth (1998)
- Back To Breizh (1999)
- Beyond Words / En tu-hont d'ar c'homzoù (2002)
- Explore (2006)
- Emerald (2009)
- AMzer: seasons (2015)
- Human~Kelt (2018)
Albums viuen col·lectiu
[golygu | golygu cod]- Bretagnes à Bercy (1999)
- Nuit Celtique II au Stade de France (2003)
- 40th Anniversary Olympia 2012 (2013)
Casgliadau
[golygu | golygu cod]- Grand Succès d'Alan Stivell (c 1975)
- 70/95 Zoom (1997)
- Ar pep gwellan (2012)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Stivell yn perfformio, ar youtube