Yann-Fañch Kemener

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yann-Fañch Kemener
Festival de Cornouaille 2017 - Ossian - 04.jpg
Ganwyd Jean-François Quémener Edit this on Wikidata
7 Ebrill 1957 Edit this on Wikidata
Sant-Trifin Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Mawrth 2019 Edit this on Wikidata (61 oed)
Achos: Canser Edit this on Wikidata
Tremeven-Kemperle Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Llydaw Llydaw
Galwedigaeth Canwr, ethnomiwsigolegydd, canwr-gyfansoddwr, Ysgrifennwr, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Arddull songs of Brittany, music of Brittany Edit this on Wikidata
Gwobr/au Order of the Ermine, ‎chevalier des Arts et des Lettres Edit this on Wikidata
Gwefan http://yfkemener.com Edit this on Wikidata

Roedd Yann-Fañch Kemener (7 Ebrill 195716 Mawrth 2019) yn ganwr ac yn gasglwr caneuon traddodiadol o Lydaw. Ganed ef yn Sant-Trifin, yn département Aodoù-an-Arvor, Llydaw.[1]

Chwaraeodd ran bwysig yn atgyfodiad y traddodiad canu gwerin Llydaweg, Kan-ha-diskan ('cân a gwrthgan') yn yr 1970au ac 1980au, yn enwedig gydag Erik Marchand. Bu'n casglu caneuon ei hun o draddodiad llafar yr iaith Lydaweg.[2]

Roedd yn berfformiwr a chanwr mynych mewn Festoù Noz ar draws Llydaw.

Bu farw Kemener yn Tremeven-Kemperle, département Penn-ar-Bed, ar 16 Mawrth 2019 yn 61 oed. Dywedodd Maer Tremeven fod ei farwolaeth 'yn golled enfawr i'r byd diwylliannol Llydewig, ac i Lydaw.'

[3]

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bedyddiwyd Yann-Fañch Kemener yn Jean-François Quémener yn Sant-Trifin sydd yn ardal Kreiz-Breizh ('Craidd Llydaw, hynny yw, canol y wlad). Bu'n gwrando ar dreftadaeth gerddorol Llydaw o oedran ifanc iawn. Trosglwyddwyd y traddodiad iddo drwy linach ei fam o genhedlaeth i genhedlaeth. Roedd ei fam, Maria, yn gantores ac yn ddawnswraig eithriadol a magodd hi ef gyda chariad at y gwerz, math o faled a ysbrydolid gan chwedlau Llydaweg, ac at Kan-ha-diskan, canu dawnsio a cappella. Bu Yann-Fañch yn canu fel rhan o'r teulu i gychwyn ac yn 15 oed dechreuodd berfformio ar y llwyfan, gan deithio trefi a phentrefi Llydaw i boblogeiddio'r repertoire hwn. Yn y 1970au, yn ymwybodol o'r bygythiad i dreftadaeth gerddorol draddodiadol Llydaw, dechreuodd wneud casgliad ethnogerddorol gyda'r henoed er mwyn achub y caneuon cyn iddynt fynd ar ddifancoll.

Roedd ei wybodaeth am repertoire traddodiadol Llydaw a'i lais eithriadol yn agor drysau i wyliau a digwyddiadau rhyngwladol. Yn ystod gyrfa o 45 mlynedd, yn cynnwys deg ar hugain o recordiadau a chant o gyngherddau, poblogeiddiodd Yann-Fañch gerddoriaeth draddodiadol Llydaw ledled y byd. Roedd yn westai rheolaidd yn y llu o wyliau rhyngwladol, ac yn 2005 cymerodd ran yn y 'Noson Geltaidd' yn y Stade de France, Paris o flaen torf o 100,000 o bobl.[4]

Cefnogaeth i'r Iaith a'r Diwylliant Llydaweg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â'i gyfraniad at gerddoriaeth Lydewig, roedd Yann-Fañch yn gefnogol iawn i'r iaith ac ymdrechion i'w hadfer. Cefnogodd y mudiad ysgolion Llydaweg, Diwan, a'r ras flynyddol dros yr iaith Lydaweg, y Redadeg. Darlledodd eiriau o gefnogaeth ac ysbrydoliaeth i redwyr a chefnogwyr Redadeg 2018 pan oedd wedi colli ei wallt yn sgil effeithiau canser.[5]

Marwnad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yann-Fañch Kemener yn perfformio yn Gwenrann gyda'r grŵp Barzaz

Cyfansoddwyd marwnad i Yann-Fañch Kemener gan y bardd , Aneirin Karadog.[6]

Canu'r Daith
A weli di 'i geffyl, dwed,
a ddaw, a ddaw, cyn ddued
â brain boreuau Annwfn?
A glywi di ei lais dwfn
yn dod i ganu ei dân,
gwae'r cof, i losgi'r cyfan?
Llosga Ysgolan gynghanedd
ein byd a'i gollwng mewn bedd.
Ai llwch düwch yw'r diwedd?
Na! Yann-Fañch! Cana a ffo
o'i afael hyd nes safo
dy lais yn fflam hyd y wlad
yn alawon o oleuad.
Nid mewn lludw mae'n Llydaw;
ti'r bardd, fe'i llusgaist o'r baw
a'i chanu yn iach unwaith
eto. Kenavo, gof iaith
ceni di amcan dy daith.

Disgograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yann-Fañch Kemener ac ar y dde, Erik Marchand yn Villarceaux, Ffrainc, 2011
  • Chants profonds et sacrés de Bretagne, 1977
  • Chants profonds et sacrés de Bretagne 2, 1978
  • Chants profonds et sacrés de Bretagne 3, 1982
  • Kan ha diskan, 1982, with Marcel Guilloux
  • Chants profonds et sacrés de Bretagne 4, 1983
  • Chants profonds de Bretagne, 1983
  • Dibedibedañchaou, 1987, golygwyd eto gan Dastum yn 1999 (caneuon Llydaweg i blant)
  • Gwerziou et soniou, 1988
  • Ec'honder, 1989, yn y band, Barzaz
  • Chants profonds de Bretagne, 1991
  • Un den kozh dall, 1992, yn band, Barzaz
  • Roue Gralon Ni Ho Salud , 1993, gyda Anne Auffret
  • Chants profanes et sacrés de Bretagne - Roue Gralon ni ho salud, 1993
  • Enez eusa, 1995, gyda Didier Squiban
  • Ile-exil, 1996, gyda Didier Squiban
  • Karnag / Pierre Lumière,, 1996
  • Carnet de route, 1996 (casglwyd ymysg yr henoed)
  • Kan ha diskan, 1997, gyda Valentine Collecter, Erik Marchand, Marcel Guilloux, Annie Ebrel, Claudine Floc'hig, Patrick Marie, Ifig Troadeg
  • Kimiad, 1998, gyda Didier Squiban
  • Barzaz Breiz, 1999, gyda La Maîtrise de Bretagne
  • An Eur Glaz, 2000, gyda Aldo Ripoche
  • An dorn, 2004, gyda Aldo Ripoche
  • Dialogues, 2006, gyda Aldo Ripoche a Florence Pavie
  • Si je savais voler, chants de Bretagne et d'Occitanie, 2010, avec Laurent Audemard, François Fava and Renat Sette
  • Requiem d'Anne de Bretagne, 2011, CD gyda recordiad o Renaissance Requiem, gydag Ensemble Doulce Mémoire a Denis Raisin-Dadre
  • YFK~2016, 2016, gyda'r band ba.fnu
  • 2008 : Noël en Bretagne, gyda Aldo Ripoche Buda Musique
  • 2008 : Bientôt l'été / Tuchant e erruo an hañv, gyda Aldo Ripoche, Florence Rouillard a Ruth Weber Buda Musique
  • 2009 Dièse 3
  • 2009 : livre Comptines et berceuses de Bretagne
  • 2010 : Si je savais voler gyda Laurent Audemard, François Sava a Renet Sette Buda Musique
  • 2011 : Vive la liberté gyda Eric Menneteau
  • 2012 : Toujours l'hiver / Gouañv Bepred, gyda Damien Cotty, Aldo Ripoche et Hervé Merlin. Buda Musique
  • 2013 ar Roue Pri
  • 2015 Kan ar Basion, les chants de la Passion
  • 2016 YFK~2016, avec groupe ba.fnu
  • 2017 Yann-Fañch Kemener trio, Dañs ! gyda Erwann Tobie a Heikki Bourgault
  • 2017 Ar Baradoz, chants sacrés de Basse-Bretagne, avec Aldo Ripoche et Florence Rousseau, prix de l’académie Charles-Cros
  • 2019 Roudennoù / Traces, hommage à la poésie bretonne, barzhoniezh Breizh.

Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1977 : Euroskol Diwan, 33T
  • 1989 : C'hoazh ha Adane, Brazaz Breizh
  • 1989 : Les Sources du Barzaz Breiz Aujourd'hui de Donatien Laurent
  • 1991 : Kerzh'Ba'n Dañs de Skolvan
  • 1991 : La Passion Celtique de Christian Desbordes
  • 1991 : An Tri Breur gyda Erik Marchand
  • 1993 : Again gydag Alan Stivell
  • 1994 : Swing and tears de Skolvan
  • 1994 : Héritage des Celtes de Dan Ar Braz
  • 1995 : l'Heritage des Celtes en Concert de Dan Ar Braz
  • 1995 : La Seule Aventure d'Yvon le Men
  • 1996 : Brest 96 de Didier Squiban a An Tour Tan
  • 1997 : An Tour Tan live de Didier Squiban a An Tour Tan
  • 1997 : La Broella / Finisterres de Dan ar Braz et L'Héritage des Celtes
  • 1998 : Le Grand Encrier d'Alain Genty
  • 1999 : Skoulad ar Gouroug de Marthe Vassallo
  • 1999 : L'Archipel des Musiques Bretonnes cydymaith i lyfr d'Yves Defrance
  • 2000 : Autre Chemins tome 1 et 2 de Cœur de Celte
  • 2000 : Chenchet n'eus an Amzer de Skolvan
  • 2000 : Les Grands Airs Celtiques
  • 2004 : Le Petite Lanterne d'Alain Genty
  • 2008 : Ar Bisig Kollet cydymaith i lyfr de Natacha
  • 2008 : Istorioù Rozenn ha Fanch al Laer de Maryvonne Berthou
  • 2011 : Requiem d'Anne de Bretagne d'Antoine de Févin
  • 2016 : Participation CD y grŵp Ossian

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.