Mary O'Hara

Oddi ar Wicipedia
Mary O'Hara
Ganwyd12 Mai 1935 Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethtelynor, canwr Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Soprano a thelynores Wyddelig yw Mary O'Hara (ganwyd 12 Mai 1935). Mae hi'n enwog fel cantores ers yr 1950au. Ysgrifennodd y cerddor Liam Clancy, yn ei hunangofiant Memoirs of an Irish Troubadour (2002), sut yr ysbrydolodd a dylanwadodd ei cherddoriaeth ef yn ystod y "Diwygiad Gwerin".

Cafodd Mary O'Hara ei geni yn Sir Sligo, yn ferch i'r milwr John Charles O'Hara, swyddog yng Nghorfflu'r Peirianwyr Brenhinol Prydeinig, a'i wraig, Mai (née Kirwan). Mae hi'n modryb i'r dramodydd/awdur Sebastian Barry[1].

Priododd y bardd Americanaidd Richard Selig ym 1956; bu farw Selig 15 fis ar ol y priodas.[2] Daeth O'Hara yn lleian ym 1962, yn yr Abaty Stanbrook, Lloegr. Ym 1974, pan adawodd y fynachlog er mwyn ei hiechyd, dychwelodd i berfformio cerddoriaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ricorso: Digital materials for the study and appreciation of Anglo-Irish Literature". Ricorso.net (yn Saesneg).
  2. Woodward, Martha; Moulton-Gertig, Suzanne L. (4 Hydref 2012), "American Harp Society" (yn en), Oxford Music Online (Oxford University Press): pp. 38-39, http://dx.doi.org/10.1093/gmo/9781561592630.article.a2227061, adalwyd 8 Mehefin 2022