Afon Ddu, Dolbenmaen
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.968°N 4.228°W ![]() |
![]() | |
Mae Afon Ddu yn afon sy'n llifo yng nghymuned Dolbenmaen, Gwynedd ac sy'n un o lednentydd Afon Henwy (Afon Cwmystradllyn) sydd yn ei thro yn un o lednentydd Afon Dwyfor. Llyn Du yw tarddle'r afon, mewn corsdir brwynog tua hanner ffordd rhwng Llyn Cwmystradllyn a pentref Tremadog. Mae'n llifo i Afon Henwy ger hen blasdy Clenennau. Ei hyd yw tua 2 filltir.
Mae Afon Ddu wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SSSI) ers 11 Mawrth 2011 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 7.38 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Natur[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle oherwydd agweddau biolegol er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd biolegol fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.
Mae gan Afon Ddu un nodwedd arbennig iawn, sef, poblogaeth o fisglod perlog (Margaritifera margaritifera) - un o'r ychydig boblogaethau yng Nghymru sy'n dal i atgenhedlu.
Hynafiaethau[golygu | golygu cod]
Ceir sawl heneb yn ardal yr afon. Gerllaw ei chymer yn Afon Henwy mae'n llifo rhwng dau blasdy hynafol (ffermydd heddiw), sef Clenennau a'r Gesail Gyfarch.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013