Llyn Du (Dolbenmaen)
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 695 troedfedd |
| Cyfesurynnau | 52.960244°N 4.141444°W |
![]() | |
- Erthygl am y llyn yn ardal Dolbenmaen yw hon. Gweler hefyd Llyn Du (gwahaniaethu).
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Du. Fe'i lleolir yng nghymuned Dolbenmaen, yn ardal Eifionydd.

Saif y llyn bychan hwn 695 troedfedd[1] i fyny, tua dwy filltir i'r gogledd o bentref Tremadog, i gyfeiriad Llyn Cwmystradllyn. Saif mewn cwm ar lethrau gorllewinol Mynydd Gorllwyn, sef ysgwydd deheuol Moel-ddu.[2]
Llifa Afon Ddu o ben gorllewinol y llyn i lifo i Afon Cwmystradllyn yn is i lawr, ger Clenennau.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
- 1 2 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
