Adar ffrigad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Aderyn ffrigad)
Jump to navigation Jump to search
Aderyn Ffrigad
Amrediad amseryddol: Eosen cynnar i'r presenol 50–present Miliwn o fl. CP
Aderyn ffrigad gwych
(Fregata magnificens) ar Ynysoedd y Galapagos.
Dosbarthiad gwyddonol
Species
Cynefin y Ffrigad

Teulu o adar morol yw'r adar ffrigad neu aderyn ffrigad (Saesneg: Frigatebird) a elwir yn Lladin yn Fregatidae, sydd yn urdd y Suliformes (cyn y 1990au, fe'i rhoddwyd yn urdd y Pelecaniformes).[1] Ceir pum rhywogaeth o fewn y teulu, ac mae nhw'n cael eu grwpio mewn un genws, sef y Fregata.

Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, gyda lled yr adenydd agored yn aml yn fwy na 2.30 metr. Mae gan bob un o'r 5 rhywogaeth blu lliw du, cynffonau hir a fforchiog a phigau tro. Er gwaethaf eu maint maent yn adar ysgafn iawn, gyda phwysau ychydig gannoedd gram. Mae gan y menywod foliau gwyn ac mae gan y gwrywod fagiau gwynt coch-llachar yn y gwddf er mwyn dennu'r fenyw. Gallant aros yn yr awyr am fwy nag wythnos a gallant gyrraedd 400 km / h.

Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall aderyn y ffrigad esgyn am wythnosau ar gerhyntau gwynt, mae adar y ffrigad yn treulio'r rhan fwyaf o'r dydd yn hela am fwyd, ac yn clwydo ar goed neu glogwyni yn y nos. Eu prif ysglyfaeth yw pysgod a ystifflog/môr-lawes, wedi'u dal wrth i ysglyfaethwyr mawr fel tiwna eu dal ar wyneb y dŵr. Cyfeirir at adar Ffrigad fel kleptoparasitiaid gan eu bod weithiau'n dwyn oddi ar adar y môr eraill ar gyfer bwyd, ac yn wybyddus eu bod yn cipio cywion adar môr o'r nyth. Mae adar unffurf un -amous, frigateb yn nythu yn y wlad. Mae nyth garw wedi'i adeiladu mewn coed isel neu ar y ddaear ar ynysoedd anghysbell. Gosodir wy sengl bob tymor magu. Mae hyd gofal rhieni ymhlith yr un rhywogaeth adar hiraf; dim ond bob yn ail flwyddyn y gall adar frigateb fridio.

Mae'r Fregatidae yn chwaer grŵp i Suloidea sy'n cynnwys mulfrain, dartiau, huganod a bŵts. Mae tair o'r pum rhywogaeth o frigatebwyr sydd eisoes yn bodoli yn gyffredin, (yr adar godidog, mawr a llai o frigatebwyr) tra bod dau ohonynt mewn perygl (adar frigateb yr Ynys Nadolig ac Ynys y Dyrchafael) ac yn cyfyngu eu cynefin magu i un ynys fach yr un. Mae'r ffosilau hynaf yn dyddio o'r Eocene cynnar, tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Wedi'i ddosbarthu yn y genws Limnofregata,[2] roedd gan y tair rhywogaeth filiau byrrach, llai bachog a choesau hwy, ac roeddent yn byw mewn amgylchedd dŵr croyw.

Rhywiogaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir pum rhywogaeth i'r ffrigad:

Aderyn ffrigad gwych (Fregata magnificens)
Aderyn ffrigad Ynys y Dyrchafael (Fregata Aquila)
Aderyn ffrigad Ynys y Nadolig (Fregata andrewsi)
Aderyn ffrigad mawr (Fregata minor)
Aderyn ffrigad bach (Fregata ariel)

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynefin aderyn y ffrigad yw moroedd cynnes o gylch y cyhydedd, sef, yn fras, oddi fewn i Trofan yr Afr (Tropic of Capricorn) a Throfan Cancr, ond ym Môr yr Iwerydd mae ond yn gyffredin o gylch Ynys Asencion yng nghanol y cefnfor ac o gylch yr ynysoedd oddi ar gorllewin [{Affrica]].

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r enw Cymraeg ar yr aderyn o'r Saesneg, Frigagebird, sydd ei hun yn dod o'r term gan forwyr Ffrengig ac sy'n rhoi enw'r rhywogaeth, aderyn la frégate sef llongryfel sydyn.[3]

Daeth Christopher Columbus i gyswllt gydag aderyn y ffrigad wrth basio Cabo Verde oddi ar gorllewin Affrica ar ei fordaith gyntaf ar draws yr Iwerydd yn 1492. [4][5] Yn ei ddyddiadur mae'n nodi ar 29 Medi iddo weld rabiforçado, sef, mewn Sbaeneg cyfoes, "rabihorcado" neu 'cynffon fforchiog'. Defnyddiwyd y term Man-of-War birds gan forwyr Saesneg ar adar ffrifad y Caribî hefyd.

Canfod tir[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Ciribati gydag aderyn ffrigad

Defnyddiwyd yr aderyn ffrigad er mwyn canfod tir. Oherwydd gallu'r ffrigar i hedfan am wythnos ar y tro a'i amharodrwydd i wlychu ei blu, gwyddai morwyr cynnar y byddai ffrigad a oedd yn dychwelyd i'r llong heb ganfod tir. Ond, os nad oedd ffrigad yn dychwelyd yna gellid ystyried bod tir wedi ei ganfod. Ceir tystiolaeth anecdotaidd o Polynesia a Micronesia yn y Môr Tawel. Roedd aderyn a fagwyd ar un ynys yn gallu ei chymryd ymaeth gan wybod y byddai'n dychwelyd i'w chynefin, ac felly gellid trosglwyddo neges gydag ef. Ceir tystiolaeth o'r arfer yma yn digwydd ar Ynysoedd Gilbert a Tuvalu.[6]

Baner[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae darlun o'r aderyn ffrigad ar faner Citibari, y wladwarieth o gadwyn o ynysoedd yn y Môr Tawel.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  3. Jobling, James A. (2010). The Helm Dictionary of Scientific Bird Names. London, United Kingdom: Christopher Helm. p. 164. ISBN 978-1-4081-2501-4.
  4. Hartog, J.C. den (1993). "An early note on the occurrence of the Magnificent Frigate Bird, Fregata magnificens Mathews, 1914, in the Cape Verde Islands: Columbus as an ornithologist". Zoologische Mededelingen 67: 361–64. http://www.repository.naturalis.nl/document/149308.
  5. Dunn, Oliver; Kelley, James E. Jr (1989). The Diario of Christopher Columbus's First Voyage to America, 1492–1493. Norman, Oklahoma: University of Oklahoma Press. p. 45. ISBN 0-8061-2384-2.
  6. name="Lewis1994">Lewis, David (1994). We, the Navigators: The Ancient Art of Landfinding in the Pacific. University of Hawaii Press. p. 208. ISBN 978-0-8248-1582-0.
Safonwyd yr enw Adar ffrigad gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]