John Evans (I. D. Ffraid)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Adda Jones)
John Evans
FfugenwI. D. Ffraid Edit this on Wikidata
Ganwyd23 Gorffennaf 1814 Edit this on Wikidata
Llansanffraid Glan Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1875 Edit this on Wikidata
Llansanffraid Glan Conwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Geiriadurwr a chyfieithydd Cymreig oedd John Evans (23 Gorffennaf 1814 - 4 Mawrth 1875), sy'n fwy adnabyddus wrth ei lysenw I. D. Ffraid (hefyd: Adda Jones).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd John Evans yn y Tŷ Mawr Llansanffraid Glan Conwy ar 23 Gorffennaf 1814 yn fab hynaf i David Evans, siopwr, a Grace (née Roberts) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys y plwyf ar 27in o'r un mis.[2]. Cafodd rhywfaint o addysg yn ysgol Thomas Hughes Abergele yn ystod 1824 ond erbyn 1825 roedd wedi ddychwelyd i Lansanffraid i weithio yn siop ei ewythr. Ym 1830 fe fu am dymor yn ddisgybl yn ysgol y Parch John Hughes yn Wrecsam, ysgol oedd yn rhoi rhywfaint o hyfforddiant i ddarpar weinidogion Methodistaidd yn y cyfnod cyn bod gan yr enwad athrofa swyddogol,[3] ond ni ddechreuodd pregethu tan 1840. Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1853 (er na fu'n weinidog ar gapel erioed).

Priododd am y tro cyntaf ar y 9fed o Dachwedd 1836 ag Ann Williams a bu iddynt chwech o blant. Bu farw Ann ym 1850. Fe briododd am yr ail waith a Hanna (1812-1896) ym 1853.[4]

Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid, Glan Conwy

Bu farw ar 4ydd Mawrth 1875 yn ei gartref yn Llansanffraid Glan Conwy a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys y plwyf[5]. Cafwyd tanysgrifiad cenedlaethol o dan arweinyddiaeth Thomas Gee i godi cofadail ar ei fedd.[6]

Bywyd Cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfieithydd Paradise Lost John Milton (Coll Gwynfa, 1865).[1] Roedd hwn yn llyfr dylanwadol iawn yn ei gyfnod a ysbardunodd sawl bardd i gyfansoddi cerddi ar y mesur moel di-odl.[7]

Cefnogai'r ymgyrch dros ryddid addoliad ac ysgrifennodd gyfres hir o dros 500 o lythyrau ar hyn a phynciau eraill dan y llysenw "Adda Jones" a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru rhwng 1869 ac 1874.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Hanes yr Iddewon (1831)
  • (cyfieithydd) Hanes yr erledigaeth ar grefydd a fu yn diweddar yn Jamaica (1833)
  • (cyfieithydd) Bywyd Turpin Leidr (John Jones, Llanrwst 1835). Hanes Dick Turpin.
  • Geiriadur Saesneg-Cymraeg (1847)
  • (golygydd a chyfrannydd) Difyrrwch Bechgyn Glan Conwy (1855)
  • (cyfieithydd) Coll Gwynfa (1865)
  • Pennau Teuluol a'r Ysgol Sabothol (1870)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. Cofnodion bedydd plwyf Llansanffraid blwyddyn 1814 rhif 54 (yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych)
  3. MARWOLAETH Y PARCH JOHN T EVANS (I. D. FFRAID) yn Seren Cymru 19 Mawrth 1875 adalwyd 19 Chwef 2014
  4. Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau yn Y Cymro 11 Mehefin 1896 adalwyd 19 Chwef 2014
  5. Cofrestr Claddu Llansanffraid Glan Conwy tudalen 39 Rhif 311(yng ngofal Archifdy Sir Ddimbych)
  6. The late I D Ffraid yn y Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 19 Mawrth 1875 adalwyd 19 Chwef 2014
  7. D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922), tud. 89.