Ángel Rama
Ángel Rama | |
---|---|
Ganwyd | Ángel Antonio Rama Facal ![]() 30 Ebrill 1926 ![]() Montevideo ![]() |
Bu farw | 27 Tachwedd 1983 ![]() Mejorada del Campo ![]() |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, academydd, beirniad llenyddol, Rhufeinydd, actor ![]() |
Priod | Ida Vitale ![]() |
Plant | Claudio Rama Vitale ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim ![]() |
Bardd, dramodydd, a nofelydd Wrwgwaiaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Ángel Rama (30 Ebrill 1926 – 27 Tachwedd 1983) sy'n nodedig fel un o brif ddeallusion a beirniaid diwylliannol America Ladin yn yr 20g.
Ganed ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái, i fewnfudwyr o Sbaen. Astudiodd y dyniaethau yn Mhrifysgol y Weriniaeth ac yn 1945 dechreuodd weithio i Agence France-Presse. Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol yn ysgrifennu cerddi, dramâu, a nofelau, a fe'i cydnabyddir yn aelod blaenllaw o La Generación del 45. Sefydlodd Rama a Carlos Maggi y cwmni cyhoeddi Fábula yn 1950, a chyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf dan enw'r wasg honno. Priododd â'r bardd Ida Vitale yn 1950. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr y gyfres o lyfrau Biblioteca Artigas o 1951 i 1958, ac yn y swydd honno golygydd 28 cyfrol yn y casgliad Clásicos Uruguayos. Rheolodd y cyfnodolyn Entregas de la Licorne o 1953 i 1956, a chyfrannodd yn aml at y papur newydd El País a'r cylchgrawn dylanwadol Marcha nes i unbennaeth Wrwgwái ei derfynu yn 1974.[1]
Yn 1962, sefydlodd Ángel Rama a'i frawd Germán y cwmni cyhoeddi Arca. Gweithiodd yn Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái o 1949 i 1965, ac addysgodd mewn ysgol uwchradd, yn yr Instituto de Profesores Artigas, ac ym Mhrifysgol y Weriniaeth o 1966 i 1974. Roedd yn aelod o fwrdd golygyddol Casa de las Américas (Ciwba) o 1964 i 1971, pryd ymddiswyddodd mewn ymateb i erledigaeth wleidyddol y bardd Heberto Padilla. Yn sgil ei ysgariad oddi ar Vitale, priododd Rama â'r beirniad celf Marta Traba yn 1969 a symudasant i ynys Puerto Rico. Aethant i Caracas, Feneswela, yn 1974 ac yno sefydlodd y fenter gyhoeddi Biblioteca Ayacucho.[1] Bu'n olygydd cyffredinol ar lyfrau Biblioteca Ayacucho, yn olygydd y cylchgrawn llenyddol Escritura, ac yn academydd ym Mhrifysgol Ganolog Feneswela.
Symudodd yn ddiweddarach i Unol Daleithiau America a fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Maryland yn 1981.[1] Bu'n rhaid iddo adael yr Unol Daleithiau wedi i'r Adran Wladol amau ei fod yn gomiwnydd.[2] Treuliodd diwedd ei oes yn Ewrop, a bu farw mewn damwain awyren ym Madrid, Sbaen, yn 57 oed, yn yr un drychineb a laddodd ei wraig Marta a'r llenorion Jorge Ibargüengoitia o Fecsico a Manuel Scorza o Beriw.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Rama, Angel (1926–1983)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2019.
- ↑ Magdalena García Pinto, "Rama, Angel" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 468.
- Academyddion Wrwgwaiaidd
- Beirniaid llenyddol Wrwgwaiaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Beirdd Wrwgwaiaidd yr 20fed ganrif
- Beirdd Wrwgwaiaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Dramodwyr Wrwgwaiaidd yr 20fed ganrif
- Dramodwyr Wrwgwaiaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Genedigaethau 1926
- Marwolaethau 1983
- Nofelwyr Wrwgwaiaidd yr 20fed ganrif
- Nofelwyr Wrwgwaiaidd yn yr iaith Sbaeneg
- Pobl o Montevideo
- Pobl fu farw mewn damweiniau awyrennau