Manuel Scorza
| Manuel Scorza | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Medi 1928 Lima |
| Bu farw | 27 Tachwedd 1983 Madrid, Mejorada del Campo |
| Dinasyddiaeth | Periw |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, bardd, nofelydd, indigenist |
| Mudiad | Generation of '50 (Perú), magic realism, Indigenismo |
Nofelydd, bardd, ac ymgyrchydd o Beriw oedd Manuel Scorza (9 Medi 1928 – 27 Tachwedd 1983).
Ganwyd yn Lima, prifddinas Periw. Yn 1949 ymunodd â'r ymgyrch yn erbyn unbennaeth y Cadfridog Manuel Odría. Cafodd holl gopïau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Actas de la remota lejanía (1949), eu cymryd gan yr heddlu. Fe'i alltudiwyd am gyfnod a bu'n byw mewn sawl gwlad. Enillodd glod am ei gasgliad o gerddi Las imprecaciones (1955). Yn 1956 ymunodd â'r Movimiento Comunal a chefnogodd gwrthryfel y gwerinwyr yn y Cerro de Pasco.[1]
Ysgrifennodd Scorza bum nofel yn ymwneud ag hanes Periw yn y cyfnod 1955–62, gyda phwyslais ar brofiadau'r brodorion: Redoble por Rancas (1970), Historia de Garabombom, el invisible (1972), El jinete insomne (1978), Cantar de Agapito Robles (1978), a La tumba del relámpago (1979). Ymsefydlodd ym Mharis ac addysgodd yn yr École Normale Supérieure. Bu farw mewn damwain awyren ym Madrid, Sbaen, yn 55 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Manuel Scorza. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.