Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Yn hanes Cymru, roedd yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru yn adeg pan ddaeth annibyniaeth wleidyddol y Cymry i ben. Ar ôl i Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, gael ei fradychu a'i ladd yn Nghilmeri yn 1282 daeth y wlad dan reolaeth Edward I, Brenin Lloegr. Adeiladodd Edward gestyll ar hyd arfordir Cymru mewn cylch haearn o gwmpas y wlad â chafodd ei fab Edward ei arwisgo yn Dywysog Cymru.

Yn y 15g cafwyd gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond ni lwyddodd i ailsefydlu teyrnas annibynnol ond am gyfnod byr. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno cafwyd Rhyfeloedd y Rhosynnau yn Lloegr a effeithiodd yn fawr ar Gymru. Yn 1485 ddaeth Harri Tudur i'r orsedd ar ôl curo Rhisiart III ym Mrwydr Maes Bosworth a dechreuodd cyfnod y Tuduriaid.

Uchafbwyntiau[golygu | golygu cod]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cofeb Madog ap Llywelyn, Eglwys yr Holl Saint ger Wrecsam.

Bu gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294 ac yn 1295. Yr un flwyddyn pasiwyd y cyntaf o'r Deddfau Penyd yn erbyn Cymru. Yn 1316, bu gwrthryfel Llywelyn Bren. Bu dau gyfnod newyn yn hanner cyntaf y ganrif ac yna daeth tair afiechyd i'r byd gorllewinol yn 1347-51 gan gynnwys 'Y Farwolaeth Fawr' lle bu farw chwarter o boblogaeth Cymru yn 1349-50. Yn 1300, poblogaeth Cymru oedd tua 300,000, ond erbyn diwedd y ganrif roedd tua 200,000.[1]

Cerflun Owain Glyn Dŵr, Corwen

Cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yn Glyndyfrdwy gyda 300 o gefnogwyr. Cefnogwyd Glyndŵr gan Rhys ap Tudur Fychan, Gwilym ap Tudur, Rhys Ddu, Rhys Gethin, Gwilym Gwyn ap Rhys Llwyd ac yn 1401, Henry Dunn a roddodd gyngor ar frwydro. Enillodd Gwilym ap tudur Conwy yn 1401 ac enillodd Glyndŵr Frwydr Hyddgen. Lladdwyd un o gefnogwyr Glyndŵr, Llywelyn ap Gruffudd Fychan gan y brenin yn 1401 a dechrewyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402Cynhaliwyd Seneddau ym Machynlleth yn 1404 ac yn Harlech yn 1405 ac ysgrifenwyd Lythyr Pennal yn 1406 gan gynnwys ei weledigaeth am Eglwys annibynnol Cymru a'i chanolbwynt Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ogystal a chreu prifysgolion yn Ne a Gogledd Cymru. Yn 1408 collwyd castellau Aberystwyth a Harlech a llosgwyd ei gartref Sycharth a bu brwydrau ola'r gwrthryfel yn 1412. Bu farw ei fab Gruffudd yn 1411 yn nhŵr Llundain ac hefyd yn hwyrach ei wraig Margaret Hanmer a'i ferched Alys a Catrin.[2] Roedd Llythyr Pennal a Sêl Fawr Owain yn symbolau o hyder y cyfnod. Fe wrthododd Maredudd ab Owain Glyn Dŵr bardwn swyddogol tan 1421.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • A. D. Carr, Owain of Wales : the End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991)
  • R. R. Davies, The Age of Conquest. Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0198201982
  • R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 124–129. ISBN 978-1-84990-373-8.
  2. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 137–144. ISBN 978-1-84990-373-8.
  3. Williams, Gruffydd Aled (2015). Dyddiau olaf Owain Glyndŵr. Y Lolfa. tt. 13–14, 20. ISBN 978-1-78461-156-9.