Hanes Cymru Cynhanes
Oes y Celtiaid
Oesoedd Canol
Cyfnod modern cynnar
Cyfnod modern
Teyrnasoedd
Pwnc
Rhestr digwyddiadau
Iaith
Crefydd, mytholeg a symbolau
Llenyddwyr yn ôl cyfnod
Llenyddiaeth yn ôl cyfnod
Arweinwyr Cymru
Deddfau pwysig
Hanesyddiaeth
WiciBrosiect Cymru
Y deunydd mytholegol y gwelir ei olion yn llenyddiaeth gynnar a chanoloesol Cymru a hefyd, i ryw raddau, yn ei chwedlau gwerin yw mytholeg Gymreig . Mae'n rhan o draddodiad hynafol Cymru ond mae'n perthyn hefyd i fyd ehangach mytholeg Geltaidd a mytholeg ryngwladol.
Ceir y deunydd hwn mewn sawl ffynhonnell, yn gerddi cynnar (yn Llyfr Taliesin , er enghraifft), yn chwedlau Cymraeg cynhenid yr Oesoedd Canol (yn enwedig yn Culhwch ac Olwen a Pedair Cainc y Mabinogi ), mewn cyfeiriadau yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr , yn y casgliad o ddeunydd mnemonig a elwir Trioedd Ynys Prydain , ac mewn chwedlau gwerin, diweddar yn eu ffurf bresennol ond sydd o darddiad hynafol.
W. J. Gruffydd , Folklore and Myth in the Mabinogion (Caerdydd, 1958)
W. J. Gruffydd, Rhiannon (Caerdydd, 1953)
Alwyn D. Rees a Brinley Rees, Celtic Heritage (Llundain, 1961). Da am y cefndir mytholegol rhyngwladol.
Anne Ross, Pagan Celtic Britain (Llundain, 1967; sawl adargraffiad ers hynny).
Cyffredinol Rhanbarthau a lleoliadau Tirffurfiau Bywyd gwyllt