Y Ddraig Goch

Oddi ar Wicipedia

Mae'r Ddraig Goch yn symbol herodrol sy'n cynrychioli Cymru ac yn ymddangos ar faner genedlaethol Cymru.

Defnyddiwyd y sarff neu'r ddraig fel symbol gan y Brythoniaid brodorol ar gleddyfau, bathodynnau a cheiniogau ac mae tystiolaeth archaeolegol o hyn. Roedd y sarff neu'r ddraig yn bwysig i'r Celtiaid fel symbol, ac mae hyd yn oed awgrymiad fod y meini hynafol yn demlau addoli'r haul a'r sarff. Mae'n bosib fod y Rhufeiniaid wedi dylanwadu ar ddefnydd y Brythoniaid o'r symbol a'u hysgogi i'w ddefnyddio ar faner. Mae tystiolaeth i ddweud y gwnaeth filwyr Celtiadd ddefnyddio'r faner tra'n ymladd fel carfan dan arweiniad y Rhufeiniad.

Ymhlith arweinwyr hynafol y Brythoniaid Celtaidd sy'n cael eu personoli fel dreigiau mae Maelgwn Gwynedd, Mynyddog Mwynfawr ac Urien Rheged. Mae hefyd yn bosib y defnyddiwyd draig ar faner yn y cyfnod hwn yn ôl dehongliad o'r gerdd Gwarchan Maelderw yn Llyfr Aneirin.

Mae’r ddraig goch i’w gweld yn stori hynafol y Mabinogi am Lludd a Llefelys lle mae wedi’i charcharu, yn brwydro â draig wen yn Ninas Emrys. Mae'r stori yn parhau yn Historia Brittonum, a ysgrifennwyd tua 829 OC, lle mae Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid yn rhwystredig yn ei ymdrechion i adeiladu caer yn Ninas Emrys. Mae'r bachgen, Emrys, yn dweud wrtho am gloddio am ddwy ddraig sy'n ymladd o dan y castell. Mae'n darganfod y ddraig wen s'yn cynrychioli'r Eingl-Sacsoniaid, a fydd yn cael ei threchu'n fuan gan ddraig goch Cymru.

Ymhlith y "dreigiau" Cymreig yn Oes y Tywysogion mae Owain Gwynedd, Llywelyn ap Gruffydd ac Owain Glyndŵr. Defnyddiwyd y ddraig aur ar faner gan Owain Glyndŵr wrth ymladd yn erbyn y Saeson dros annibyniaeth i Gymru yn y 15g.

Ar ôl concwest Cymru, ychwanegodd Harri Tudur y tir gwyrdd i'r faner wrth geisio argyhoeddi ei gysylltiad Cymreig at Cadwaladr Fendigaid wrth frwydro dros goron Lloegr.

Daeth y ddraig goch yn symbol poblogaidd yng Nghymru tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g mewn Eisteddfodau er enghraifft. Mae’r ddraig goch bellach yn cael ei hystyried yn symbol o Gymru ac mae'n ymddangos ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.

Hanes y Ddraig Goch[golygu | golygu cod]

Mabinogi[golygu | golygu cod]

Yn un o straeon y Mabinogi, Lludd a Llefelys, mae'r ddraig goch yn ymladd â Draig Wen ymosodol. Mae pla yn cael ei achosi gan y frwydr rhwng draig goch a draig wen estron. Mae'n rhaid i Lludd osod trap iddynt yn union ganol yr ynys a elwir Rhydychen, eu rhoi i gysgu gyda medd, ac yna eu claddu dan ddaear mewn cist garreg. Mae'r trydydd pla yn cael ei achosi gan ddewin nerthol, sy'n taflu swyn i wneud i'r holl lys syrthio i gysgu tra ei fod yn ysbeilio eu hystordai. Rhaid i Lludd ei wynebu, gan gadw ei hun yn effro gyda llond dwrn o ddŵr oer.[1] Yna, mae Lludd yn dychwelyd adref i Brydain; mae'n dinistrio'r Coraniaid gyda'r cymysgedd pryfed ac yn caethiwo'r dreigiau yn Ninas Emrys. Yn olaf mae'n ymladd yn erbyn y dewin, sy'n ymostwng i Lludd ac yn dod yn was ffyddlon iddo.[1]

Baner cynnar o ddraig coch[golygu | golygu cod]

Baner Gorsedd y Beirdd. Mae'n cynnwys y ddraig goch a'r haul

Mae'r gerdd "Gorchan Maelderw" yn Llyfr Aneirin yn dyddio o tua 600 O.C. ac yn cyfeirio at "rud dhreic" a all ei chyfieithu fel "draig goch". Mae'r gerdd hefyd yn cyfeirio at "pharaon", hen enw Dinas Emrys a ddefnyddir yn Lludd a Llefelys gan gynnwys stori am y ddwy ddraig ar Yr Wyddfa. Yn ôl y chwedl, "Dinas Ffaraon Dandde" y gaer ger Beddgelert a adnabyddwyd yn hwyrach fel "Dinas Emrys". Defnyddir yr un enw hefyd yn Trioedd Ynys Prydain (rhif 13). Mae hyn yn awgrymu fod y ddraig goch genedlaethol o leiaf mor hen a 600 O.C..[2] Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru a all gael ei dyddio mor gynnar a'r 6g.[3]

Er fod y gerdd yn ymddangos yn Llyfr Aneirin, dywed un awdur mae cerdd gan Taliesin ydyw. Yn y gerdd, fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn ystod Brwydr Catraeth yn ogystal a'r haul a'r Duw "Hu". Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, a fu'n arweinydd ar y lluoedd brodorol; ac hefyd er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[4][5] Yn ôl awdur arall, mae'r faner yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine" gyda'r haul arno.[6]

Baner fodern Wyddelig o'r haul

Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldderw (a chyfieithiad Cymraeg o'r cyfieithiad Saesneg):[7][4]

Molawt rin rymidhin rymenon.

(Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.)

Dyssyllei trech tra manon.

(Syllai'r buddugol tra teg.)

Disgleiryawr ac archawr tal achon

(Disgleiro ac amlwg tal flaen.)

ar rud dhreic fud pharaon.

(a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.)

Kyueillyawr en awel adawaon.

(Cyfeilir ar awel ei bobl.)

Historia Brittonum[golygu | golygu cod]

Mae Gwrtheyrn ac Emrys yn gwylio'r frwydr rhwng y dreigiau coch a gwyn: darluniad o lawysgrif o'r 15fed ganrif o Historia Regum Britannaiae gan Sieffre Mynwy.

Erbyn i Historia Brittonum egael i hysgrifennu gan Nennius tua 800 O.C., roedd y ddraig goch wedi esblygu o fod yn bersonoliad o arwienwyr milwrol i fod yn symbol o annibyniaeth genedlaethol yn ogystal a symbol o wrthwynebiad milwrol i'r Sacsoniaid, a gynrychiolir gan y ddraig wen.[2]

Ail-ddechreir y stori ym mhenodau 40–42 o'r Historia Brittonum, lle mae brenin Gwrtheyrn yn ffoi i Gymru i ddianc rhag y goresgynwyr Eingl-Sacsonaidd. Yno mae'n dewis bryngaer fel safle ei encil brenhinol, ac yn ceisio adeiladu cadarnle, ond mae'r castell yn cwympo dro ar ôl tro. Dywed ei ddoethion wrtho fod yn rhaid iddo aberthu bachgen ifanc a aned heb dad yn y fan a'r lle i leddfu'r felltith. Anfonodd y Brenin ei filwyr allan ar draws y wlad i ddod o hyd i fachgen o'r fath ac mae'n darganfod bachgen o'r fath, Emrys, ond datguddia Emrys y gwir reswm dros y dymchwel: mae pwll cudd yn cynnwys dwy ddraig, un goch yn cynrychioli'r Brythoniaid ac un wen yn cynrychioli'r Sacsoniaid, sydd wedi'u claddu o dan y sylfaen.[8] Eglura sut y byddai Draig Wen y Sacsoniaid, er ei bod yn ennill y frwydr ar hyn o bryd, yn cael ei threchu gan y Ddraig Goch Gymreig yn fuan. Wedi cwymp Gwrtheyrn, rhoddwyd y gaer i'r Uchel Frenin Ambrosius Aurelianus, a elwid yn Gymraeg yn Emrys Wledig.[8]

Theori Rhufeinig[golygu | golygu cod]

Os oedd tad Emrys Wledig yn ymerawdwr Rhufeinig, yna mae'n bosib cysylltu'r ddraig goch gyda'r symbol rhufeinig.[2] Yn ôl yr awdur Wade-Evans, mae'n bosib olrhain y ddraig goch yn ôl i Macsen Wledig (Magnus Maximus). Mi fyddai ymerawdwr Rhufeinig yn chwifio draig borffor wrth orymdeithio i ryfel, ac mi wnaeth Macsen orymdeithio i ryfel o Gymru.[9]

Uthyr ac Arthur[golygu | golygu cod]

Mae'r gerdd o'r 10 neu 11g "Pa Gwr?" yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cyfeirio at Uthyr Penddraig "Mabon am mydron / Guas uthir pen dragon."[10][11] Mae hefyd cyfeiriad at Uthyr, "hut Uthyr Pendragon" yn Tair Hud Fawr Ynys Prydain (Trioedd Ynys Prydain, 28) sydd yn profi fod y wybir am y stori yn y traddodiad Gymreig cyn cyfnod Sieffre o Fynwy.[11] Er hyn, awgrymir yr awdur Carl Lofmark ei bod yn bosib nad oedd Uthr yn berson go iawn ac mewn gwirionedd ystr Uthr yw "ofnadwy" yn hytrach nag enw tad Arthur, "Arthur mab uthr pen dragon".[12]:52

"Ythr Ben Dragwn" yn "Dare Phrygius & Brut Tysilio" sydd wedi'i chadw yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen [a]

Ailadroddir yr un stori am y dreigiau coch a gwyn yn Hanes Brenhinoedd Prydain gan Sieffre o Fynwy, lle mae'r ddraig goch hefyd yn broffwydoliaeth am ddyfodiad y Brenin Arthur.[14] Roedd ei safon hefyd wedi'i addurno â draig aur.[15][16] Sonnir mewn o leiaf pedair llawysgrif fod Arthur yn gysylltiedig â'r ddraig aur, ac fod safon y ddraig aur yn cael ei defnyddio i hysbysu milwyr clwyfedig am hafan sâff iddynt wrth gefn byddin Arthur.[17] Ymddengys Uthyr hefyd yn Brut y Brenhinoedd, "yn sef yv hynny yn yavn Gymraec Vthyr Bendreic . . . canys Myrdin a’e daroganassei yn urenhin trvy y dreic a welat yn y seren".[11]

Personoliad y Tywysogion[golygu | golygu cod]

Defnyddwyd y term "draig" i gyfeirio at arweinwyr Cymreig gan gynnwys Owain Gwynedd.[18] Cyfeira bardd llys Owain, Cynddelw Brydydd Mawr, ato mewn marwnad fel "Draig aur Eryri o eryrod".[18][19] Disgrifia Cynddelw "dderwyddon a beirdd yn uno i ddathlu y ddraig" mewn cerdd gan gyfeirio at Owain Cyfeiliog hefyd.[20] Yn ogystal, defnyddir ddisgrifiad tebyg gan Gwalchmai ap Meilyri i ddisgrifio mab Owain Gwynedd, Rhodri ab Owain Gwynedd, fel "penn dreic a phenn dragon".[21]

Disgrifir Owain Goch fel draig gan Hywel Foel rhwng 1240 a 1280, "Dinam hael o hîl eryron, Dinag draig dinas Cerddoria(o)n".[22] Defnyddir y term unwaith eto gan Hywel Foel i bersonoli Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), "Dewr dragon berywon borthi, Dreic arveu pebylleu pali"[23] ac unwaith eto yn ei farwnad gan Gruffudd ab yr Ynad Coch, "pen dragon, pen draig oedd arnaw".[24]

Owain Glyndŵr[golygu | golygu cod]

c. 1400- 1416, Y Ddraig Aur, safon frenhinol Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a godwyd yn ystod Brwydr Twthil, Caernarfon, 1401.

Personolwyd Owain Glyndŵr hefyd fel "y ddraig".[25] Ym mis Tachwedd 1401, fe gododd Owain Glyndŵr faner y ddraig yng Nghaernarfon fel symbol o fuddugoliaeth y Brythoniaid. Awgrymir yr hanesydd John Davies fod syniadaeth Owain yn dilyn traddodiad mwy apoclyptaidd Nennius a Siefre o Fynwy ac ei fod ddim eto wedi mabwysiadu syniadaeth mwy pragmatig Llywelyn I a Llywelyn II.[26] Adroddir Adda Brynbuga mai draig aur Glyndwr oedd y defnydd cyntaf o safon draig a ddefnyddiwyd mewn rhyfel gan filwyr Cymru ar y 1 Tachwedd 1401.[27][28] Yn draddodiadol, cysylltir y ddraig aur ar gefndir gwyn hwn gyda'r un ddefnyddiodd Uthyr Penddraig yn ôl Historia Regum Brittaniae Siefre o Fynwy. Yn ogystal, cysylltodd ei hun â "Camber" a Cadwaladr mewn llythyron at Frenin yr Alban ac arglwyddi Iwerddon; ac drwy amlygu'r cysylltiadau hyn drwy farddoniaeth a delweddau, ei nôd oedd argyhoeddi ei statws a'i gyfreithlondeb fel Tywysog Cymru.[29] Ar ei sêl mae Glyndŵr hefyd yn ymddangos gyda ddraig Gymreig ar ei helmed, ar ben ei geffyl ac hefyd ar ei goron.[30] Roedd Sêl Fawr Glyndŵr fel Tywysog Cymru hefyd yn cynnwys draig ar ei frig. [31]

Tuduriaid[golygu | golygu cod]

Safon Harri Tudur, Brwydr Maes Bosworth

Ar feddrod Edmwnd Tudur, mae ei ddelw yn gwisgo coron wedi'i gosod gyda "draig Cadwaladr".[32][33] Defnyddiodd ei fab Harri Tudur, ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd wrth fynd i mewn i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl ar ôl ei fuddiogoliaeth ym Mrwydr Maes Bosworth.[30] Defnyddiodd Harri’r VII fotiff y ddraig fel rhan o herodraeth tŷ Tuduraidd yn hytrach nag i gynrychioli Cymru.[34] Defnyddiwyd "draig Cadwaladr" hefyd fel cefnogwr ar arfbeisiau brenhinol holl sofraniaid Tuduraidd Lloegr ac ymddangosodd hefyd ar safonau Harri VII a Harri VIII.[35]

Defnydd fodern cynnar[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol 1910. Sylwer ar y faner o'r ddraig goch yn y cefndir.

Yn Eisteddfod Lerpwl yn 1840, defnyddiwyd "safon sidan a osodwyd dros gadair y llywydd, ar yr hon a banetiwyd ddraig goch, ar ddaear werdd, gyda ffîn wen - hon, y dywedodd, oedd wedi'i hanfon ato gan Mr Davies o Cheltenham, a oedd o hyd yn barod i gynnal cofiant a dewrder ei ac ein gwlad." Roedd y safon sidan hefyd yn cynnwys yr arwyddair "y ddraig goch ddyle gychwyn".[36] Yn wreiddol awgrymwyd draig aur ac "urdd marchog i Gymru".[37] Dwy flynydd yn ddiweddarach, defnyddiwyd baneri gyda'r ddraig goch yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni,1842.[38]

Bathodyn a ddaeth ar y Mimosa yn 1865

Yn 1865, hwyliodd long y Mimosa i Batagonia gan hedfan baner y ddraig goch.[39] Yna, yna 1893, ymddangosodd lythyr gan 'Arlunydd Penygarn' (TH Thomas) yn y Daily Graphic yn galw am gynrychiolaeth o Gymru ar arian parod newydd. Ar ôl iddo ef ei hun dderbyn ysgogiad mewn llythyr gan IT Jacob, fe dechreuodd Penygarn ymgyrchu dros gael y ddraig goch ar arian, y safon frenhinol, arfbais Caerdydd a'r faner genedlaethol. Fe ddaeth yn awdurdod answyddogol ar y mater erbyn troad y ganrif gan ymgynghori gyda Eisteddfod Llanelli 1902 ar y ddraig goch "cywir" a baner yr Eisteddfod genedlaethol â oedd yn cynnwys y ddraig. Mewn cyfarfod Pan-Geltaidd yn Nulyn yn 1901, "Draig Goch Cymru oedd ar y blaen"; o bosib y tro cyntaf i'r ddraig gael ei weld tu hwnt i Gymru (neu Batagonia).[40]

Ym phasiant cenedlaethol Cymru 1909, ymddangosodd y ddraig goch yn sefyll ar gefndir gwyn. Roedd draig goch oedd ar long Terra Nova Capten Scott hefyd yn ddraig yn sefyll ar gefndir gwyn a gwyrdd. Hyd at y pwynt hwn, nid oedd fersiwn safonol o'r ddraig Gymreig.[41]

Baner Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch, 1908

Defnyddiwyd y ddraig ar faneri yn ystod digwyddiadau'r bleidlais i fenywod yng Nghymru yn y 1900au a'r 1910au. Roedd dogfennau ar gyfer derbyn y faner yn sywddogol yn cynnwys un nodyn gan un o gyn-aelodau “Gweithiwyd y faner gan Mrs Henry Lewis… [hi] hefyd oedd Llywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais Merched De Cymru + bu’n arwain adran De Cymru o’r Bleidlais Fawr Gorymdaith yn Llundain ar 17 Mehefin 1911, yn cerdded o flaen ei baner hardd ei hun… Bu’n achlysur gwych, rhyw 40,000 i 50,000 o ddynion + merched yn cymryd rhan yn y daith gerdded o Whitehall drwy Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly i’r Albert Hall. Denodd y ddraig lawer o sylw – “Dyma’r Diafol” oedd cyfarchiad un grŵp o wylwyr.” [42]

Dydd Gwyl Dewi 1910-33[golygu | golygu cod]

Tŵr yr Eryr, Castell Caernrafon, bellach yn hedfan dwy faner y Ddraig Goch

Rhwng 1910 ac 1916 bu sawl apêl gan gyngor trêf Caernarfon i godi baner y ddraig goch ar ben Tŵr yr Eryr, Castell Caernarfon i gymryd lle baner yr undeb. Dywedodd y maer a dirprwy gwnstabl y castell, Charles A Jones, fod "yr awdurdodau wedi'u cynghori fod dim fath beth â baner Gymreig... dim ond bathodyn".[43][44][45]

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932, wedi gwisgo mewn dillad beic modur, dringodd John Edward Jones (JE Jones) i ben Tŵr yr Eryr gyda thri arall, gan gynnwys nai David Lloyd George, William RP George. Yno fe wnaethon nhw ostwng baner Jac yr Undeb, a chodi’r Ddraig Goch gan hoelio'r rhaffau i’r polyn gyda styfflau a morthwyl. Arweiniodd hyn at ganu Hen Wlad Fy Nhadau gan y dyrfa islaw. Wedi hyn, daeth y gwnstabliaeth leol a rhoi Baner yr Undeb yn ôl i fyny. Yn hwyrach, daeth criw o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor i’r amlwg ar gefn lori, gan dynnu Baner yr Undeb i lawr unwaith eto, a'i rwygo i ddarnau ar y maes.[46][47][48]

Ar Ddydd Gwyl Dewi 1933, codwyd baner y Ddraig Goch ynghyd a Baner yr Undeb a pherfformiwyd y seremoni gan David Lloyd-George. Yn fuan wedyn, chwifiwyd baner Cymru ar holl adeiladau'r llywodraeth ar Fawrth y 1af. Sicrhaodd JE Jones fod canghennau Plaid Cymru ar draws y wlad yn pwyso ar yr awdurdodau lleol i wneud yr un peth. Yna trefnodd i gynhyrchu mwy o faneri, a'u gwerthu gan wneud elw.[46]

Lwmen Eisteddfod yr Urdd, 1930au

Bathodyn frenhinol[golygu | golygu cod]

Erbyn 1748, roedd y ddraig goch (yn ogystal a symbol o'r haul yn codi) yn un o symbolau'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.[49] Ni ddaeth y ddraig goch yn fathodyn herodrol brenhinol swyddogol tan 1800, pan gyhoeddodd Siôr III warant brenhinol yn cadarnhau'r bathodyn.[50]


Yn 1897, 1901, 1910, 1935 ac 1945 mewn ymdrech i gael cydnabyddiaeth genedlaethol bu ceisiadau i gynnwys y Ddraig Goch yn yr arfbais brenhinol, ond gwrthod bob tro a wnaeth y Coleg Arfbais, "There is no such thing as a Welsh national flag", dywedant. Dywedodd y garter marchog arfau wrth y syddfa cartref "There is no more reason to add Wales to the King's style than there would be to add Mercia, Wessex or Northumbria or any other parts of England".[51]

Baner amhoblogaidd 1953-1959

Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.[52] Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig fathodyn brenhinol newydd fel cyfaddawd yn ystod blwyddyn coroni 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron iddo gyda'r arwyddair 'Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN'.[51] Dirmygodd Winston Churchill, y Prif Weinidog ar y pryd, gynllun y bathodyn, fel y datgelir yng nghofnod canlynol y Cabinet o 1953:

Winston Churchill:

"Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.
Words (Red Dragon takes the lead) are untrue and unduly flattering to Bevan."

Gwilym Lloyd George:

"Wd. rather be on R[oyal] Arms. This (dating from Henry VII) will be something.
We get no recognition in Union – badge or flags.[53]"

Baner bresennol[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Aberteifi, gyda thariannau draig goch,1959

Gwrthwynebodd Orsedd y Beirdd y faner â'r bathodyn brenhinol yn 1958 gan ddweud ei bod yn "rhy druenus i arwyddo dim".[51] Dan arweiniad cofrestrydd yr Orsedd, Cynan (Albert Evans-Jones), penderfynwyd mai dim ond baner y ddraig goch boblogaidd a fyddai'r orsedd yn ei hadnabod. Galwodd ar bob sefydliad a chorff cyhoeddus i ddilyn eu harweiniad. Derbyniodd yr alwad gefnogaeth unfrydol gan gynnwys bron pob cyngor lleol. Danfonodd hyn neges clir i lywodraeth Prydain.[54]

Yn Chwefror 1959, cyhoeddodd gweinidog materion Cymreig mai dim ond y faner o'r ddraig (nid y fathodyn) fyddai'n cael ei chwifio ar adeiladau llywodraeth yng Nghymru a Llundain. Daeth baner y ddraig goch yn swyddogol ar 1 Ionawr 1960.[51][55]

[51]Y Ddraig Goch, wedi'i safonni

Parhaodd ddefnydd o'r hen fathodyn gan Swyddfa Cymru[56] a chafodd ei argraffu ar Offerynnau Statudol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[57] Disodlwyd yr hen fathodyn brenhinol gan fathodyn Brenhinol swyddogol newydd yn 2008, a ddileodd y ddraig goch yn gyfan gwbl.[58] Defnyddiwyd yr hen fathodyn hefyd yn logo corfforaethol y Cynulliad nes i'e logo "draig ddeinamig" gael ei ddefnyddio.[59]

Arwyddlun neu logo Llywodraeth Cymru yw'r ddraig Gymreig. Dywed y llywodraeth fod y logo "yn cynnwys draig ac enw Llywodraeth Cymru wedi'u gwahanu gan linell lorweddol, wedi'u gosod gyda'i gilydd mewn perthynas sefydlog na ddylid ei newid. Mae'r elfennau hyn wedi'u halinio'n ganolog â'i gilydd. Mae'r logo bob amser yn ddwyieithog waeth beth fo iaith y deunydd mae'n ymddangos arni"[60] gyda "Cymraeg yn gyntaf, ac yna Saesneg os oes angen".[61] Dywed y llywodraeth fod yn "Rhaid i'r ddraig wynebu i'r chwith bob amser"; mae hyn yn dilyn yr un rheol a ddefnyddir ar y ddraig pan gaiff ei hedfan ar bolyn.[62]

Defnyddiau eraill[golygu | golygu cod]

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Symbol sy'n cynrychioli Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw Tafod y Ddraig.[63]

Pêl droed Cymru[golygu | golygu cod]

Mae'r ddraig Gymreig, "y mwyaf eiconig o arwyddluniau Cymreig", hefyd yn cael ei defnyddio fel arwyddlun neu logo swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a gafodd ei hailgynllunio yn 2019.[64]

Arwyddeiriau[golygu | golygu cod]

Mae'r arwyddair "Anorchfygol Ddraig Cymru" yn gysylltiedig â'r ddraig goch.[65][66]

Defnyddir yr arwyddair "Y ddraig goch ddyry cychwyn".[67] Y mae'r arwyddair hwn yn cynnwys cynghanedd[68] ac yn deillio o gerdd gan Deio ab leuan Du yn diolch i Siôn ap Rhys o Glyn-nedd am iddo roi tarw yn anrheg iddo.[69]

Oriel[golygu | golygu cod]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Gweler y testun hyn yn Brut Tysilio, testun Cymreig sy'n fwy na thebyg yn ail-weithiad hwyr o waith Sieffre o Fynwy, Historia regum Britanniae. Mae'r delwedd yn dod o 1695 ffolio, Coleg yr Iesu MS. 28, ond cafodd ei thrawsgrifio o ysgrif 15g, Coleg yr Iesu MS. 61, gan Hugh Jones, tangeidwad Amgueddfa Ashmolean, yn 1695. [13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 The Mabinogion. Cyfieithwyd gan Gantz, Jeffrey. Harmondsworth: Penguin. 1976. ISBN 0-14-044322-3.
  2. 2.0 2.1 2.2 Lofmark, Carl (1995). A history of the red dragon. Internet Archive. Llanrwst : Gwasg Carreg Gwalch. tt. 46–47. ISBN 978-0-86381-317-7.
  3. "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  4. 4.0 4.1 Davies, Edward (1809). “The” Mythology And Rites Of The British Druids, Ascertained By National Documents; And Compared With The General Traditions And Customs Of Heathenism, As Illustrated By The Most Eminent Antiquaries Of Our Age ; With An Appendix, Containing Ancient Poems And Extracts, With Some Remarks On Ancient British Coins (yn Saesneg). J. Booth. tt. 582–588.
  5. "Gwarchan of Maelderw". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-14.
  6. Cambrian Quarterly Magazine and Celtic Repertory (yn Saesneg). proprietors. 1832. t. 322.
  7. Maclagan, Robert Craig (1882). Scottish Myths: Notes on Scottish History and Tradition (yn Saesneg). Maclachlan and Stewart. t. 70. ISBN 978-0-598-73846-2.
  8. 8.0 8.1 Historia Brittonum by Nennius (translated by J.A.Giles)
  9. Evans, Gwynfor (1983). "MACSEN WLEDIG a Geni'r Genedl Gymreig" (PDF). John Penry. t. 22.
  10. "Pa Gwr?". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-23.
  11. 11.0 11.1 11.2 Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 513. ISBN 978-1-78316-146-1.
  12. Lofmark, Carl (1995). A History of the Red Dragon. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-317-8.
  13. "Jesus College MS. 28". digital.bodleian.ox.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Hydref 2022.
  14. Barber, Richard W.; Barber, Richard William (1999). Myths and Legends of the British Isles (yn Saesneg). Boydell & Brewer. ISBN 978-0-85115-748-1.
  15. Hart, Imogen; Jones, Claire (2020-10-29). Sculpture and the Decorative in Britain and Europe: Seventeenth Century to Contemporary (yn Saesneg). Bloomsbury Publishing USA. ISBN 978-1-5013-4126-7.
  16. The Historia Regum Britanniae of Geoffrey of Monmouth (yn Saesneg). Slatkine. t. 672.
  17. Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
  18. 18.0 18.1 Jones, Elin M (1991). Gwaith Llywarch ap Llywelyn 'Prydydd y moch', Cyfres beirdd y tywysogion 5. Cardiff: University of Wales Press.
  19. Owen, Robert (1891). The Kymry: Their Origin, History, and International Relations (yn Saesneg). W. Spurrell and Son.
  20. Massey, Gerald (1883). The natural genesis: or second part of A book of the beginnings (yn Saesneg). t. 357.
  21. Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 513. ISBN 978-1-78316-146-1.
  22. Davies, Edward (1809). The Mythology and Rites of the British Druids, Ascertained by National Documents; and Compared with the General Traditions and Customs of Heathenism, as Illustrated by the Most Eminent Antiquaries of Our Age. With an Appendix, Containing Ancient Poems and Extracts, with Some Remarks on Ancient British Coins... (yn Saesneg). J. Booth. tt. 16, 23.
  23. Tydfil.), Thomas STEPHENS (of Merthyr (1849). The Literature of the Kymry: Being a Critical Essay on the Language and Literature of Wales, During the Twelfth and Two Succeeding Centuries; Containing Numerous Specimens of Ancient Welsh Poetry in the Original, and Accompanied with English Translations (yn Saesneg). t. 381.
  24. Tydfil.), Thomas STEPHENS (of Merthyr (1849). The Literature of the Kymry: Being a Critical Essay on the Language and Literature of Wales, During the Twelfth and Two Succeeding Centuries; Containing Numerous Specimens of Ancient Welsh Poetry in the Original, and Accompanied with English Translations (yn Saesneg). t. 391.
  25. Hemans, Mrs (1881). The Poetical Works of Felicia Hemans: With Memoir, Explanatory Notes, Etc (yn Saesneg). J. Wurtele Lovell. t. 246.
  26. Davies, John (25 Ionawr 2007). A History of Wales. Penguin. ISBN 9780140284751 – drwy Google Books.
  27. Jones, Francis (1969). The Princes and Principality of Wales (yn Saesneg). University of Wales P. t. 177. ISBN 978-0-900768-20-0.
  28. Ramsay, Sir James Henry (1892). Lancaster and York: A Century of English History (A.D. 1399-1485) (yn Saesneg). Clarendon Press.
  29. Marchant, Alicia (2014). The Revolt of Owain Glyndwr in Medieval English Chronicles (yn Saesneg). Boydell & Brewer Ltd. t. 127. ISBN 978-1-903153-55-0.
  30. 30.0 30.1 Archaeologia Cambrensis (yn Saesneg). W. Pickering. 1853. t. 193.
  31. Kay, Hether (1979). The Land of the Red Dragon (yn Saesneg). Published jointly by the Girl Guides Association of Wales and the University of Wales Press Board. ISBN 978-0-7083-0716-8.
  32. Combe, William (1812). The history of the Abbey Church of St. Peter's Westminster : its antiquities and monuments : in two volumes. London : Printed for R. Ackermann ... by L. Harrison and J.C. Leigh ... Cyrchwyd 17 October 2022.
  33. Meara, David (1983). Victorian memorial brasses. London ; Boston : Routledge & K. Paul. ISBN 978-0-7100-9312-7. https://archive.org/details/victorianmemoria0000mear/page/131/mode/2up. Adalwyd 17 October 2022.
  34. Davies, John (2007-01-25). A History of Wales (yn Saesneg). Penguin Publishing Group. ISBN 978-0-14-028475-1.
  35. Woodward, John (1896). A Treatise on Heraldry, British and Foreign: With English and French Glossaries (yn Saesneg). W. & A.K. Johnston. t. 305.
  36. "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
  37. "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
  38. "The illustrated London news v.1 1842". HathiTrust (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-23.
  39. Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. t. 40. ISBN 978-1-78461-135-4.
  40. Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 51–57. ISBN 978-1-78461-135-4.
  41. Phillips, Elen (1 March 2012). "Captain Scott's Welsh Flag". Amgueddfa Cymru: Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  42. ""Here comes the Devil": Welsh Suffrage and the Suffragettes". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  43. Caernarvon & Denbigh Herald, Friday 20 October 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002967/19161020/096/0006
  44. Western Mail, Friday 07 April 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000104/19160407/130/0004
  45. Liverpool Echo, Thursday 09 April 1914 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000271/19140409/144/0008
  46. 46.0 46.1 "JE – Architect of Plaid Cymru Address by Dafydd Williams – Hanes Plaid Cymru" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-24.
  47. "Carnarvon Castle (National Flag)".
  48. Western Morning News, Wednesday 02 March 1932 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000329/19320302/071/0007
  49. Army, Great Britain (1761). Extract of orders and regulations for garrison and camp duties, from the year 1743. To the conclusion of the peace at Aix La Chapelle, in the year 1748, &c. &c. &c (yn Saesneg). Robert & Andrew Foulis. t. 22.
  50. Maxwell Fyfe, David (9 February 1953). "Arms for Wales; Memorandum by the Secretary of State for the Home Department and Minister for Welsh Affairs" (PDF). nationalarchives.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-08-04. Cyrchwyd 2020-04-15.
  51. 51.0 51.1 51.2 51.3 51.4 Eriksen, Thomas Hylland; Jenkins, Richard (2007-10-18). Flag, Nation and Symbolism in Europe and America (yn Saesneg). Routledge. t. 80. ISBN 978-1-134-06696-4.
  52. "Page 8714 | Issue 27385, 10 December 1901 | London Gazette | The Gazette". www.thegazette.co.uk. Cyrchwyd 2023-09-10.
  53. "Highlights of new Freedom of Information releases in August 2007 > The Cabinet Secretaries' Notebooks (CAB 195/11) > Arms for Wales". The National Archives (United Kingdom). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2007.
  54. Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. t. 78. ISBN 978-1-78461-135-4.
  55. "WELSH FLAG (Hansard, 23 February 1959)". web.archive.org. 2021-05-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-06. Cyrchwyd 2024-01-25.
  56. "Office of the Secretary of State for Wales – GOV.UK". www.walesoffice.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-13. Cyrchwyd 2023-02-15.
  57. "Welsh Statutory Instruments – Town and Country Planning, Wales" (PDF). opsi.gov.uk.
  58. "First Welsh law's royal approval" (yn Saesneg). 2008-07-09. Cyrchwyd 2022-09-22.
  59. "BBC NI – Learning – A State Apart – Intergovernmental Relations – Overview". BBC. 2014.
  60. "Welsh Government logo guidelines 2020" (PDF). GOV.WALES. Welsh Government. 2020. Cyrchwyd 23 September 2022.
  61. "Welsh Language Standards: communication and marketing guidelines [HTML]". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-22.
  62. "Welsh Government logo" (PDF). GOV.WALES. Welsh Government. 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-08-17. Cyrchwyd 23 September 2022.
  63. Hill, Sarah (2017-07-05). 'Blerwytirhwng?' The Place of Welsh Pop Music (yn Saesneg). Routledge. t. 137. ISBN 978-1-351-57346-7.
  64. "FAW / A New Identity for Football in Wales". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-22.
  65. The Cambrian Journal (yn Saesneg). 1864. t. 148.
  66. Rhys, Ernest (1911). The South Wales Coast from Chepstow to Aberystwyth (yn Saesneg). T. Fisher Unwin. t. 257.
  67. Thomas, M. Wynn (2016-05-20). The Nations of Wales: 1890-1914 (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-1-78316-839-2.
  68. Ball, Martin J.; Muller, Nicole (2012-11-12). The Celtic Languages (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-136-85472-9.
  69. Stephens, Meic (1986). The Oxford Companion to the Literature of Wales (yn Saesneg). Oxford University Press. tt. 507. ISBN 978-0-19-211586-7.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]