Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Mae'r Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru yn ymestyn o tua 600 hyd at 1067 pan ddechreuodd ymosodiadau'r Normaniaid ar ororau Cymru.

Yn nechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig Powys, yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr Eingl-Sacsoniaid, yn enwedig teyrnas Mersia. Collodd Powys cryn dipyn o'i thiriogaeth, oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol, gan gynnwys yr hen ganolfan, Pengwern. Efallai fod adeiladu Clawdd Offa, yn draddodiadol gan Offa, brenin Mersia yn yr 8g, yn dynodi ffin wedi ei chytuno.

Prif deyrnasoedd y Gymru gynnar

Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, yn wreiddiol yn frenin Teyrnas Gwynedd, a daeth yn frenin Powys a Ceredigion hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, Hywel Dda, ffurfio teyrnas Deheubarth trwy uno teyrnasoedd llai y de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio Cyfraith Hywel trwy alw cyfarfod yn Hendy-gwyn ar Daf. Pan fu ef farw yn 950 gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.

Erbyn hyn roedd y Llychlynwyr yn ymosod at Gymru, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymeryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn 987, a thalodd brenin Gwynedd, Maredudd ab Owain, swm fawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed.

Gruffudd ap Llywelyn oedd y teyrn nesaf i allu uno'r teyrnasodd Cymreig. Brenin Gwynedd ydoedd yn wreiddiol, ond erbyn 1055 roedd wedi gwneud ei hun yn frenin bron y cyfan o Gymru ac wedi cipio rhannau o Loegr ger y ffin. Yn 1063 gorchfygwyd ef gan Harold Godwinson a'i ladd gan ei ŵyr ei hun. Rhannwyd ei deyrnas unwaith eto, gyda Bleddyn ap Cynfyn a'i frawd Rhiwallon yn dod yn frenhinoedd Gwynedd a Phowys.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g a ffurfwyd teyrnasoedd Powys, Ystrad Tywi, Gwent, Dyfed, Gwynedd, Morgannwg, Ceredigion, Brycheiniog ac eraill llai. Yn y 5g symudodd Cunedda o Moryd Forth i lawr i Wynedd a gyrru i ffwrdd setlwyr Gwyddelig o Ben Llŷn.[1]

Gwahanwyd y Cymry a'r Cernywiaid ar ol brwydr ger Dyrham yn 577 OC. Curwyd Rheged a Manaw Gododdin yn yr Yr Hen Ogledd ond fe lwyddodd teyrnas Ystrad Clud i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y bardd Aneirin yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw gododdin sef Din Eidyn (Caeredin). Ysgrifenodd y gerdd enwog, Y Gododdin, yn sôn m frwydro y llwyth Gododdin yn yr Hen Ogledd yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au;

Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu

Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu

Trichant mewn peiriant yn catau

Ac wedi elwch tawelwch fu...

Teyrnasoedd cynnar y Brythoniaid
(Ffynhonnell: "The Story of Wales", John Gower)

Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia ac fe godwyd Croes Eliseg gan Cyngen ap Cadell i goffau ymdrechion Elisedd ap Gwylog (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân." Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia, Glawdd Wat ac yna cododd ei olynydd Offa, Glawdd Offa i gadw Brythoniaid Powys allan.[1]

Ymdrechion i uno Cymru[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Brenin Cymru

Ar ol i Dŷ Gwynedd gael ei sefydlu gan Cunedda, daeth Rhodri Mawr yn frenin arni yn 844 OC a daeth Powys dan ei reolaeth yn yr un flwyddyn ar ôl marwolaeth ei wncl.[2] Bu farw Cyngen ap Cadell yn Rhufain yn 854 a nodir darostyngiad olaf Powys i Wynedd yn 881-6. Ar oôl hyn, bodolodd y ddau fel un teyrnas Gogledd Cymru. Daw'r sôn nesaf am Bowys fel teyrnas annibynol yn 1102. [3] Priododd Rhodri Mawr Angharad ferch Meurig gan ennill rheolaeth dros teyrnasoedd Ceredigion ac Ystrad Tywi (unwyd dan yr enw Seisyllwg). Rhodri oedd y cyntaf i uno rhannau arwyddocaol o Gymru tan y rhannwyd ei diroedd rhwng ei feibion ar ôl ei farwolaeth.[2]

Yn y flwyddyn 930, galwodd frenin yr Eingl-Sacsoniad Athelstan bron i holl frenhinoedd Cymru i'w lys yn Henffordd a chytunwyd mai'r Afon Gwy fyddai'r ffin yno. Gorfodwyd termau gwaradwyddus ar y Cymry a phwysleisiwyd statws israddol y frenhiniaeth Gymreig. Dywedir mai hyn ysbrydolodd y gerdd Armes Prydein.[4]

Hywel Dda

Yn y 10g, etifeddodd Hywel Dda dde Seisyllwg ac yn 942 fe lwyddodd i uno Cymru gyfan heblaw Morgannwg. Roedd Hywel yn gyfrifol am greu Cyfraith Cymreig Hywel a bu'r unig frenin Cymreig i gynhyrchu ei arian ei hun gyda "Hywel rex" arnynt. Ar ôl ei farwolaeth yn 950, rhannodd y teyrnasoedd unwaith eto.[2]


Erbyn 1039, fe lwyddodd Gruffudd ap Llywelyn i gymryd Gwynedd a Phowys.[2] Yn 1053, mewn cyfarfod gyd Gruffudd ap Llywelyn yn Beachley ac Edward y Cyffeswr wrth lan Clogwyn Aust ar ochr arall yr afon Hafren. Cydnabyddodd Gruffudd oruwch-arglwyddiaeth Edward y Cyffeswr ond doedd dim termau eraill i'w cwrdd.[4] Yn 1057 fe yrrodd ymaith deyrn Morgannwg ac wrth wneud, unodd Cymru gyfan am y tro cyntaf tan y lladdwyd ef yn 1063 gan Cynan ab Iago.[2]Yr un flwyddyn, gorfodwyd hanner brodyr Gruffudd, Bleddyn ap Cynfyn a Rhiwallon ap Cynfyn i dalu gwrogaeth mwy costus i Edward.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 53–66. ISBN 978-1-84990-373-8.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 67–82. ISBN 978-1-84990-373-8.
  3. Davies, Sean (2016-10-20). The First Prince of Wales?: Bleddyn ap Cynfyn, 1063-75 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 2. ISBN 978-1-78316-937-5.
  4. 4.0 4.1 4.2 Davies, Sean (2016-10-20). The First Prince of Wales?: Bleddyn ap Cynfyn, 1063-75 (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 23–26. ISBN 978-1-78316-937-5.