Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yng Nghymru

Cyfnod yn hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif oedd y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yng Nghymru (1919–1939) oedd yn para o ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf hyd gychwyn yr Ail Ryfel Byd.

Y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Bu farw tua 20,000 o siaradwyr Cymraeg yn ystod brwydro'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ôl Cyfrifiad 1921 gostyngodd nifer y siaradwyr Cymraeg o 43.5% o'r boblogaeth i 37.1% yn ystod y 1910au.[1]

Cafodd y sefyllfa economaidd yn y cyfnod effaith ddirywiol ar ardaloedd amaethyddol Gorllewin Cymru a'u siaradwyr Cymraeg. Mudodd nifer o'r genhedlaeth iau i ardaloedd eraill, gan adael poblogaeth oedd yn heneiddio. Bu effaith hefyd ar ardaloedd diwydiannol trwm y wlad, megis maes glo De Cymru. Rhwng 1925 a 1939 fe adawodd 390,000 o bobl y wlad i chwilio am waith.[1]

Daeth Saesneg yn fwy amlwg yng nghymdeithas Cymru gyda lledaeniad y cyfryngau torfol, gan gynnwys papurau newydd, radio, a'r sinema. Codwyd rheilffyrdd a ffyrdd gan hybu twristiaeth i bob cwr o'r wlad, yn aml gan ymwelwyr o Loegr.[1]

Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Crefyddol
Economaidd
Gwleidyddol
Trychinebau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]