Cyflafan y beirdd

Oddi ar Wicipedia
Y Bardd, Thomas Jones, 1774

Traddodiad yw Cyflafan y Beirdd am y modd y gorchmynodd Edward I, brenin Lloegr ladd holl feirdd Cymru ar ôl goresgyn Tywysogaeth Cymru yn 1283. Bu'r hanesyn hwn dros y blynyddoedd yn destun nifer o gerddi gan gynnwys y gerdd The Bard gan Thomas Gray a cherdd hynod boblogaidd y bardd János Arany (1817—1882), un o feirdd mwyaf Hwngari, sef A Walesi Bárdok ('Beirdd Cymru') ac a sgwennwyd ganddo yn 1857.

Datblygiad y traddodiad[golygu | golygu cod]

Ym Mhorth Wygyr neu Benofer, adeiladodd Edward I, brenin Lloegr Gastell a enwodd yn Biwmares. Yn 1296 gorffenwyd yr adeilad a bu "Ffrau Ddu yn Biwmares" pan apwyntiwyd geidwad castell a llywydd y dref a lladdwyd rhai o Gymru. Dywedir mai yn i'r castell y gwahoddwyd feirdd ar gyfer math o Eisteddfod gan Edward cyn iddo orchymun i'w filwyr ruthro arnynt a'u lladd. Mae'r farn ar hanesrwydd y digwyddiad yn gymysg ymysg awduron a haneswyr.[1]

Teulu Gwydir[golygu | golygu cod]

Ceir cyfeiriad gan Syr John Wynn o Wydir yn ei gyfrol History of the Gwydir Family, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1580. Yn ôl Syr John, sy'n ceisio esbonio prinder y cerddi i'w hynafiaid yn Eifionydd:

This (cerdd gan Rhys Goch Eryri) is the most ancient song that I can find extant to any of my ancestors since the reign of Edward the First who caused our bards all to be hanged by martial law as stirrers of the people to sedition; whose example, being followed by the governors of Wales, until Henry the Fourth's time was the utter destruction of that sort of man.[2]

Ysbrydoli darluniau a cherddi[golygu | golygu cod]

Ailymddangosodd y chwedl yn y llyfr History of England (1747-55) gan y hanesydd o Sais Thomas Carte. Cydiodd yr hanesyn yn nychymyg beirdd ac artistiaid Rhamantaidd dros Glawdd Offa. Daeth hanes y 'gyflafan' yn enwog diolch i'r gerdd Y Bardd (yn Saesneg) gan Thomas Gray lle mae'r bardd olaf yn melltithio Edward I ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifennwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed Edward Jones (Bardd y Brenin) yn canu alawon Cymreig ar ei delyn.[3]

Ymledodd yr hanesyn i sawl gwlad. Un o'r beirdd a ysbrydolwyd oedd yr Hwngariad János Arany (1817—1882), a gyhoeddodd ei gerdd hynod boblogaidd A Walesi Bárdok ('Beirdd Cymru') yn 1857. Dywed i 500 o feirdd gael eu llosgi gan y Sais.[4]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evans, E. Vincent (1802). Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddogol Eisteddfod Bangor, 1890. tt. 188–192.
  2. Syr John Wynn, History of the Gwydir Family and Memoirs, gol. J. Gwynfor Jones (Gwasg Gomer, 1990), tud. 24.
  3. Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981), tud. 120.
  4. "Cyflafan Beirdd Cymru". BBC Cymru Fyw. 2017-03-02. Cyrchwyd 2024-05-29.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]