Hanes modern Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o 21ain ganrif yng Nghymru)

Mae hanes modern Cymru yn cynnwys hanes Cymru ar ôl 1800 tan y presennol.

Addysg[golygu | golygu cod]

Dyma glawr casgliad o ysgrifau ysgolheigaidd 'Brad y Llyfrau Gleision' yn trafod adroddiad1847 (cyhoeddwyd 1991)

Yn y cyfnod hwn, bu ymdrech eang i warthnodi'r Gymraeg gan ddefnyddio'r Welsh Not. Mewn ymateb i bryder dyn busnes Cymreig ac aelod San Steffan am anfantais y Cymry o beidio â allu siarad Saesneg; bu adroddiad y Llyfrau Gleision. Yn yr adroddiad hwn, disgrifiwyd y Gymraeg fel iaith gyda "evil effects". Disgrifiwyd y Cymry fel pobl anfoesol tu hwnt a bu teimladau o gywilydd ymysg y Cymry yn dilyn yr adroddiad. Er gweathaf hyn, bu cyfres o ymatebion chwyrn gan gynnwys y ddrama enwog, Brad y Llyfrau Gleision gan Robert Jones Derfel.[1]

Sefydliadau cenedlaethol[golygu | golygu cod]

Ganwyd cenedlaetholdeb o'r math amddiffynnol yng Nghymru. Ffurfiwyd sefydliadau cenedlaethol megis Cymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1846, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Undeb Bedyddwyr Cymru. Daeth Hen Wlad fy Nhadau yn amlwg ac roedd ar ei ffordd at ddod yn anthem genedalethol Cymru.[1] Ar ddiwedd y 19g ffurfiwyd nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill; 1861 - Eisteddfod Genedlaethol Cymru,[2] 1876 - Cymdeithas Bêl-droed Cymru,[3] 1881 - Undeb Rygbi Cymru[4] ac yn 1893 - Prifysgol Cymru.[5]

Deddf Cau ar y Sul (Cymru) 1881 oedd y ddeddfwriaeth gyntaf i gydnabod statws Cymru ar wahan i Lloegr ers y Deddfau 1536-43 ac erbyn 1889 bu Deddf Addysg Ganolraddol Cymru 1889 a wnaeth hi'n bosib i ffurfio ysgolion uwchradd wladol.[6][1]

Yn Ebrill 1887 sefydlodd Tom Ellis fudiad Cymru Fydd yn Llundain gyda phrif amcan o sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth). Nôd arall y mudiad oedd sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Yn yr un flwyddyn sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol. Lawnsiwyd gylchgrawn Cymru Fydd yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[7]

Ar ddechrau'r 20g gwelwyd hefyd ffurfiant parhaus nifer o sefydliadau cenedlaethol Cymreig: 1911 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru,[8] 1915 - Gwarchodlu Cymreig,[9] 1919 - Bwrdd Iechyd Cymru,[10] 1920 - Yr Eglwys yng Nghymru ar ôl annibyniaeth yr Eglwys yng Nghymru yn dilyn Deddf Eglwysi Cymru 1914.[11] Ym 1925 sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru; fe’i hailenwyd Plaid Cymru yn 1945. Egwyddorion y blaid a ddiffiniwyd yn 1970 oedd (1) hunanlywodraeth i Gymru, (2) diogelu diwylliant, traddodiadau, iaith a sefyllfa economaidd Cymru a (3) sicrhau aelodaeth i wladwriaeth Gymreig hunanlywodraethol yn y Cenhedloedd Unedig.[12]

Datganoli[golygu | golygu cod]

Rali ymgyrch Senedd i Gymru 1949

Ar 1 Hydref 1949, bu rali ym Machynlleth er mwyn hybu Ymgyrch Senedd i Gymru, cyn ei lawnsio'n swyddogol ar 1 Gorffennaf 1950 mewn rali arall yn Llandrindod. Arweiniodd hyn at gyflwyno deiseb 240,652 o enwau i Dŷ’r Cyffredin yn 1956. Helpodd yr ymgyrch sefydlu Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Methodd y refferendwm 1979 ond cafwyd Cynulliad Cenedlaethol yn 1997.[13] Pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 a ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Trosglwyddodd y ddeddf bwerau o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad (Senedd Cymru bellach).[14]

Agorwyd adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi yn 2006. Yn yr un flwyddyn pasiwyd ddeddf yn gwahaniaethu Llywodraaeth Cymru oddi wrth y Cynulliad. Caniataodd y ddeddf i aelodau cynulliad i greu deddfwriaeth sylfaenol am y tro cyntaf.[15]

Yn 2011, pleidleisiodd etholwyr Cymru mewn refferendwm o blaid pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Pasiwyd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a oedd yn cynnwys trethu a benthyca a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Roedd Deddf Cymru 2017 yn gwneud y Cynulliad Cenedlaetholo yn rhan barhaol o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Ar ôl pasio'r  Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiwyd enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.[15]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 175–189. ISBN 978-1-84990-373-8.
  2. "BBC Wales - Eisteddfod - Guide - A brief history of the Eisteddfod". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-02-04.
  3. "FAW / Who are FAW?". www.faw.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
  4. "140 Years of the Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
  5. "History of the University of Wales - University of Wales". www.wales.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-04. Cyrchwyd 2022-02-04.
  6. Jones, Gareth Elwyn (1994-10-28). Modern Wales: A Concise History (yn Saesneg). Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-46945-6.
  7. Jones, Wyn (1986). Thomas Edward Ellis, 1859-1899 (yn WELENG). Internet Archive. [Cardiff?] : University of Wales Press. t. 32. ISBN 978-0-7083-0927-8.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "History of the Building | The National Library of Wales". www.library.wales. Cyrchwyd 2022-02-04.
  9. "Welsh Guards". www.army.mod.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-04.
  10. Records of the Welsh Board of Health (yn English). Welsh Board of Health. 1919–1969.CS1 maint: others (link) CS1 maint: unrecognized language (link)
  11. "Welsh Church Act 1914".
  12. Lutz, James M. (1981). "The Spread of the Plaid Cymru: The Spatial Impress". The Western Political Quarterly 34 (2): 310–328. doi:10.2307/447358. ISSN 0043-4078. https://www.jstor.org/stable/447358.
  13. "Watch Rali Senedd i Gymru, Machynlleth 1949 online - BFI Player". player.bfi.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-25.
  14. Watkin, Thomas Glyn (2007). The Legal History of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 197. ISBN 0-7083-2064-3.
  15. 15.0 15.1 "Hanes datganoli yng Nghymru". senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-08-31.