Neidio i'r cynnwys

Cymru Fydd

Oddi ar Wicipedia
Cymru Fydd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1886 Edit this on Wikidata

Cymru Fydd yw enw mudiad gwladgarol a sefydlwyd gan rai o Gymry Llundain yn 1886. [1]

Sefydlu[golygu | golygu cod]

Tom Ellis, â sefydlydd Cymru Fydd yn 1886

Mewn ymateb i'r galw Gwyddelig am "ymreolaeth cartref", cynigiodd prif weinidog Rhyddfrydol y DU, William Gladstone ddau fesur ar ymreolaeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, a fethodd y ddau.[2] Yn 1886, yr un flwyddyn ag y cynigiwyd y mesur cyntaf ar gyfer Iwerddon, sefydlwyd mudiad Cymru Fydd i hybu achos ymreolaeth i Gymru.[3] Dywed ffynhonnell arall y sefydlwyd Cymru Fydd flwyddyn yn hwyarch gan Tom Ellis. Prif amcan y mudiad oedd sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth) ac hefyd er mwyn sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Sefydlwyd hefyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol yr un flwyddyn. Lawnsiwyd gylchgrawn o'r un enw yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[4]

Roedd Lloyd George yn un o brif arweinwyr Cymru Fydd a oedd yn fudiad a grëwyd gyda'r nod o sefydlu Llywodraeth Gymreig[5] a "hunaniaeth Gymreig gryfach".[6] Sefydlwyd cymdeithasau cyntaf Cymru Fydd yn Lerpwl a Llundain yn 1887 ac yn y gaeaf gaeaf 1886-7, sefydlwyd ffederasiynau rhyddfrydol Gogledd a De Cymru.[7]

Elfen ganolog i raglen y mudiad oedd hunanlywodraeth i Gymru. Yr enw Saesneg ar y mudiad oedd Young Wales, sy'n adlewyrchiad bwriadol o'r mudiad Gwyddelig cyfoes dros hunanlywodraeth i Iwerddon Young Ireland. Y pwnc llosg arall gan y mudiad oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Yn y gyfrol Wales (gol. Keidrych Rhys) dywed gwynfor Evans, (Cyfrol V; Rhif 8/9) Roedd y mudiad yn cynnig dyfodol gwell i bobl, a gafaelodd ym meddyliau'r Cymry; trawsnewidiwyd y mudiad yn 1894, a phersonoliaeth byrlymus Lloyd george oedd yn gyfrifol am y trawsnewid hwnnw.'[1]

Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr hanesydd J.E. Lloyd (1861 – 1947), y llenor ac addysgwr O.M. Edwards (1858 – 1920) a'r ddau wleidydd Rhyddfrydol Tom Ellis (1859 – 1899)a David Lloyd George (1863 – 1945)[8]. Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd Beriah Gwynfe Evans (1848 – 1927) a Michael D. Jones (1822 – 1898).

Chwalu[golygu | golygu cod]

Chwalodd mudiad Cymru Fydd yn 1896 ynghanol ymryson personol a rhwygiadau rhwng cynrychiolwyr Rhyddfrydol megis David Alfred Thomas.[3] [9]

Yng Nghas-gwent, yng ngwanwyn 1896, cafodd ergyd farwol, ond erbyn hynny, roedd llawer o ganghennau wedi eu sefydlu ledled Cymru, ac egin annibyniaeth wedi'i sefydlu ym meddyliau pobl. Roedd gan y mudiad aelod o staff llawn amser a thros 10,000 o aelodau yn ne Cymru. Mae'n debygol iawn, yn ôl William George yn ei gyfrol History of the First National Movement (Gwasg y Brython), mai gwrthdaro rhwng aelodau o'r Rhyddfrydwyr, a llwyddiant a ddaeth yn rhy gynnar, yn rhy fuan oedd y rheswm pam y methodd y mudiad. David Alfred Thomas oedd yr arweinydd yn erbyn annibyniaeth. Bu farw 4 o'r arweinyddion hefyd, tua'r un pryd: Thomas Gee (m. 1898), Tom Ellis (m. 1899), Michael D. Jones (m. 1898) a William Ewart Gladstone (m. 1898) - gwleidydd arall Rhyddfrydol a gredai mewn annibyniaeth i Iwerddon.

Er bod Cymru Fydd wedi dymchwel, roedd ymreolaeth yn dal i fod ar yr agenda, gyda’r rhyddfrydwr Joseph Chamberlain yn cynnig “Home Rule All Round” i holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, yn rhannol er mwyn cwrdd â gofynion Iwerddon ond cynnal goruchafiaeth senedd imperialaidd San Steffan. Daeth y syniad hwn a ddisgynnodd o blaid yn y pen draw ar ôl i "de Iwerddon" adael y DU a daeth yn arglwyddiaeth yn 1921 a sefydlwyd gwladwriaeth rydd Iwerddon yn 1922.[10]

Cylchgrawn[golygu | golygu cod]

Roedd cylchgrawn o'r un enw'n bodoli cyn ffurfio'r mudiad (yn debyg i Gymdeithas yr iaith). Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, Cymru Fydd yn Gymraeg a Young Wales yn Saesneg. Bu'r mudiad yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1214989/1216131/107#?cv=107&m=17&h=Cymru+OR+Fydd+OR+OR+OR+&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1214989%2Fmanifest.json&xywh=-2039%2C-215%2C6592%2C4285 llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2020.
  2. "Two home rule Bills".
  3. 3.0 3.1 The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, Cardiff: University of Wales Press, 2008
  4. Jones, Wyn (1986). Thomas Edward Ellis, 1859-1899 (yn WELENG). Internet Archive. [Cardiff?] : University of Wales Press. t. 32. ISBN 978-0-7083-0927-8.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Jones, J G. (1 January 1990). "Alfred Thomas's National Institution (Wales) Bills of 1891-92". Welsh History Review 15 (1): 218–239. Nodyn:ProQuest.
  6. "BBC Wales - History - Themes - Cymru Fydd - Young Wales".
  7. """Home Rule all round": Experiments in Regionalising Great Britain, 1886-1914." Political Reform in Britain, 1886 - 1996: Themes, Ideas, Policies. Eds. Jordan, Ulrike; Kaiser, Wolfram. Bochum: Universitätsverlag Dr. N. Brockmeyer. 169 - 192. Arbeitskreis Deutsche England-Forschung 37" (PDF).
  8. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Archifwyd 2020-11-28 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 4 Rhagfyr 2020
  9. "Wales | Vol, V no. 8/9 | 1945 | Cylchgronau Cymru – Llyfrgell Genedlaethol Cymru". National Library of Wales. Cyrchwyd 4 December 2020.
  10. """Home Rule all round": Experiments in Regionalising Great Britain, 1886-1914." Political Reform in Britain, 1886 - 1996: Themes, Ideas, Policies. Eds. Jordan, Ulrike; Kaiser, Wolfram. Bochum: Universitätsverlag Dr. N. Brockmeyer. 169 - 192. Arbeitskreis Deutsche England-Forschung 37" (PDF).