William John Parry

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
W.J. Parry

Awdur a golygydd, a ffigwr blaenllaw yn y Blaid Ryddfrydol oedd William John Parry, neu W.J. Parry, (28 Medi 18421 Medi 1927), ef oedd prif sylfaenydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.

Bywgraffiad[golygu]

Ganed W.J. Parry ym Methesda, yn fab i John ac Elizabeth Parry. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llanrwst, ac wedyn bu'n gweithio mewn swyddfeydd ym Bangor a Chaernarfon. Yn dilyn ei briodas a Jane Roberts yn 1864 aeth i fusnes drosto'i hun fel cyfrifydd a deliwr mewn ffrwydron ar gyfer y chwareli.

Cymerai Parry ddiddordeb mawr yn hynt y chwarelwyr, a gwnaeth ei hun yn awdurdod ar agweddau economaidd y diwydiant llechi. Ef oedd prif ysgogydd sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, ac apwyntiwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol i'r undeb. Yn ddiweddarach bu'n Llywydd yr undeb. Yn 1879 ymwelodd a'r Unol Daleithiau ar gais yr undeb i astudio'r diwydiant llechi yno. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am negodi cytundeb i ddiweddu anghydfod 1896-7 yn Chwarel y Penrhyn. Erbyn y streic fawr yn 1900-1903 nid oedd ganddo gysylltiad ffurfiol a'r undeb, ond cefnogodd y gweithwyr gyda llythyrau i'r wasg ac erthyglau. Arweiniodd un o'r rhain i achos enllib gael ei ddwyn yn ei erbyn gan Barwn Penrhyn. Cynhaliwyd yr achos yn Llundain, a dyfarnwyd iawndal o £500 a chostau o rai miloedd o bunnau i Penrhyn. Roedd hyn yn bygwth torri Parry yn ariannol, ond gwnaed apêl ymhlith ei gefnogwyr, a chodwyd yr arian. Yn 1915 roedd yn asiant lleol i gwmni o Lundain oedd yn ceisio ail-agor Chwarel Pantdreiniog.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn cynnwys Chwareli a chwarelwyr (1897). Roedd yn un o sylfaenwyr Y Werin ac yn olygydd iddi am rai blynyddoedd. Bu hefyd yn gadeirydd Cyngor Sir Gaernarfon. Ymhlith ei gyfeillion oedd y gwleidydd radicalaidd Tom Ellis, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Meirionnydd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Williams, J. Roose Quarryman's champion: the life and activities of William John Parry of Coetmor. Gwasg Gee, 1978.