Chwarel Pantdreiniog

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Pantdreiniog
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru

Chwarel lechi gerllaw Bethesda yng Ngwynedd oedd Chwarel Pantdreiniog.

Agorodd y chwarel tua 1825 gan bobl leol. Bu am gyfnod yn eiddo Overend, Gurney & Co, yna i John Williams, adeiladydd o Moss Bank, Lerpwl, fu'n ei gweithio am tua deugain mlynedd. Yn gynnar yn y 1890au gwerthodd ef y chwarel i gwmni o Gaerdydd, yna yn 1903 gwerthwyd y safle i gwmni o Lundain oedd wedi ei ffurfio i roi gwaith i chwarelwyr oedd ar streic yn ystod y Streic Fawr yn Chwarel y Penrhyn. Ni fu erioed yn chwarel fawr; yn 1882 cynhyrchwyd 245 tunnell o lechi gan 13 o weithwyr. Caewyd y chwarel yn 1911.

Yn 1915 ceisiodd y Minerals, Oil & General Exploration Company, Limited o Lundain, ail-agor y chwarel, gyda W. J. Parry, Coetmor fel asiant lleol, ond nid ymddengys iddynt lwyddo. Nid oes dim i'w weld ar y safle bellach.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alun John Richards, A Gazetteer of the Welsh Slate Industry (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)

Dolen allanol[golygu | golygu cod]