Trilliw Bach
| Trilliw Bach | |
|---|---|
| Oedolyn | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Nymphalidae |
| Genws: | Aglais |
| Rhywogaeth: | A. urticae |
| Enw deuenwol | |
| Aglais urticae (Linnaeus, 1758) |
|
| Cyfystyron | |
|
Nymphalis urticae |
|
Glöyn byw lliwgar o deulu'r Nymphalidae yw'r Trilliw Bach neu Iâr Fach Amryliw (Aglais urticae). Mae'n gyffredin mewn llawer o gynefinoedd ar draws Ewrasia. Mae'r oedolyn rhwng 45 a 62 mm ar draws yr adenydd. Mae ei uwchadenydd yn oren gyda marciau du a melyn a rhes o smotiau glas ger yr ymyl. Mae'r isadenydd yn frown gan fwyaf. Mae lliw'r lindysyn yn amrywio o ddu i felyn. Mae'r lindys ifainc yn byw mewn grwpiau mewn gwe, yn bwydo ar ddail danadl poethion neu ddanadl bach.
Cynnwys |
Cylch bywyd[golygu]
Mae ei dymor fel oedolyn ymhlith yr hwyaf o holl loynnod byw Ewrop: gan ymsetyn o'r gwanwyn cynnar hyd at ddiwedd yr hydref. Mae'n gaeafgysgu fel oedolyn, sy'n eithriadol o brin. Yng ngwledydd deheuol ei diriogaeth ceir dwy genhedlaeth.[1]
-
Siani flewog ifanc
-
Y cwd grisal (chwiler) ar fin deor
Cyffredinol[golygu]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r Trilliw Bach yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ E. Pollard and TJ Yates (1993) Monitoring butterflies for ecology and conservation. Chapman & Hall. ISBN 0 412 63460 0
- Lewington, Richard (2003) Pocket Guide to the Butterflies of Great Britain and Ireland, British Wildlife Publishing, Hampshire.
Gweler hefyd[golygu]
Dolenni allanol[golygu]
- (Saesneg) UK Butterflies: Small Tortoiseshell