Thomas Jones (bu farw tua 1559)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Jones
Ganwyd1492 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1542-44 Parliament, Aelod o Senedd1547-1552, Aelod o Senedd 1558 Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.

Roedd Syr Thomas Jones (tua 1492 - tua 1559) yn ŵr cyhoeddus amlwg yng ngorllewin Cymru yn ystod teyrnasiad Harri VIII a wasanaethodd mewn sawl swydd gan gynnwys Siryf ac Aelod Seneddol.[1]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones tua 1492 yn fab i Siôn ap Thomas ap Gruffydd, Abermarlais ac Eleanor merch Thomas Vaughan Brodorddyn Caerfyrddin. Roedd Siôn ap Thomas yn frawd i Rhys ap Thomas a fu'n brwydro ar faes Bosworth ac, o bosib, a lladdodd Rhisiart III yn y frwydr honno.

Ym 1531 cafodd cyfyrder Jones, Rhys ap Gruffydd, ei ddienyddio am frad yn erbyn Harri VIII; sefydlwyd comisiwn i ail ddosbarthu ei diroedd ar ran y Brenin ac roedd Jones yn aelod o'r comisiwn ac yn un o brif fuddiolwyr y fforffed gan ennill ystadau Abermarlais a Llansadwrn iddo'i hun.

Bu'n briod dwywaith ei wraig gyntaf oedd Elizabeth, merch Syr Edward Done Cydweli bu iddynt dwy ferch; ar ôl ei marwolaeth hi priododd (tua 1532) Mary, merch James Berkeley o Thornbury, Swydd Gaerloyw a gweddw Thomas Perrot, Haroldston, Sir Benfro bu iddynt o leiaf tri mab gan gynnwys Henry Jones a Richard Jones llysfab iddo trwy'r ail briodas oedd John Perrot a oedd yn honni ei fod yn blentyn siawns i Harri VIII[2] bu Henry Richard a John oll yn Aelodau Seneddol Sir Gaerfyrddin.

Dyrchafwyd Jones yn farchog ym 1542

Gwasanaeth cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Bu'n gwasanaethu mewn nifer fawr o swyddi brenhinol a chyhoeddus gan gynnwys:

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Profwyd ewyllys Syr Thomas ar 26 Mehefin 1559, sydd yn awgrymu y bu farw'r flwyddyn honno

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
neb
Aelod Seneddol Sir Benfro
1542
Olynydd:
John Wogan
Rhagflaenydd:
John Wogan
Aelod Seneddol Sir Benfro
1547
Olynydd:
John Wogan
Rhagflaenydd:
Richard Jones
Aelod Seneddol Sir Gaefyrddin
1558
Olynydd:
Richard Jones