Castell Llanymddyfri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Llanymddyfri

Castell adfeiliedig yn nhref Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, yw Castell Llanymddyfri. Saif ar fryncyn strategol ar lan Afon Brân.

Dechreuodd y Normaniaid godi'r castell yn y flwyddyn 1116, ond yn fuan ar ôl hynny ymosododd Cymry Deheubarth arno dan arweiniad y Tywysog Gruffudd ap Rhys a'i ddifetha'n rhannol. Llwyddodd y Normaniaid i gadw gafael ar y castell tan 1158 pan gafodd ei gipio gan Rhys ap Gruffudd, mab ieuaf Gruffudd ap Rhys. Bu sawl ymgiprys am ei feddiant ar ôl hynny a newidiodd ddwylo sawl gwaith.

Pan ymosododd Edward I, brenin Lloegr, ar Gymru yn 1277 syrthiodd y castell i'w ddwylo, ond fe'i cipiwyd yn ôl gan luoedd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, am gyfnod byr yn 1282. Ymosododd Owain Glyndŵr ar y castell yn 1403 a'i ddifetha'n sylweddol gan ei adael yn lled adfeiliedig. Dirywio fu ei hanes ar ôl hynny ac ni chafodd ei atgyweirio.

Gosodwyd cerflun trawiadol i'r arwr Llywelyn ap Gruffudd Fychan gyferbyn â'r castell. Cynlluniodd Llywelyn fagl i dwyllo'r lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyndŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV, brenin Lloegr, i Lywelyn gael ei ddienyddio yn Llanymddyfri ym mis Hydref o'r un flwyddyn. Codwyd y cerflun er ei gof yn 2001 ar chwechanmlwyddiant ei ddienyddiad.

Gellir cyrraedd adfeilion y castell yn hawdd o ganol tref Llanymddyfri.

Oriel[golygu]

Dolenni allanol[golygu]