Llywelyn ap Gruffudd Fychan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn Llanymddyfri

Sgwïer o Gaeo, Sir Gaerfyrddin, oedd Llywelyn ap Gruffudd Fychan (1341? - 9 Hydref 1401). Cynlluniodd fagl i dwyllo lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyndŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV iddo gael ei ddienyddio yn Llanymddyfri ym mis Hydref o'r un flwyddyn. Codwyd cerflun i'w goffáu ger Castell Llanymddyfri yn 2001, ar chwechan mlwyddiant ei ddienyddiad.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.