Thomas Herbert Parry-Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd, ysgrifwr, ysgolhaig ac athro prifysgol oedd Thomas Herbert Parry-Williams (21 Medi 1887 - 3 Mawrth 1975). Mae'n cael ei adnabod yn aml fel T.H. Parry-Williams neu T.H.. Ef yw awdur y gerdd enwog 'Hon'.

Gyrfa[golygu]

Ganed T.H. Parry-Williams yn Rhyd-ddu, Arfon, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr; ysgrifennodd soned enwog i 'Dŷ'r Ysgol'. Roedd yn gefnder i'r bardd R. Williams Parry. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1908, ac yna cymerodd radd arall, mewn Lladin, y flwyddyn wedyn. Aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen ac yna i Brifysgolion Freiburg a Pharis i astudio ymhellach. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth ym 1920, ac ar ôl ymddeol ym 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth ym 1975.

Gwaith llenyddol[golygu]

Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond ym 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ag astudiaethau academaidd.

Roedd yr ysgrif, ffurf gymharol newydd yn y Gymraeg, yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir Ysgrifau (1928), Olion (1935), Lloffion (1942), O'r Pedwar Gwynt (1944), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.

Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: Cerddi (1931), Olion (1935), Synfyfyrion (1937), Ugain o Gerddi (1949) a Myfyrdodau (1957). Cyhoeddwyd Detholiad o Gerddi ym 1972 a Casgliad o Gerddi ym 1987.

Ymwneud â bywyd mae ei gerddi fynychaf: mae diffyg ystyr bywyd i'w weld fel thema drwyddynt. Ef yw "brenin y soned Gymraeg"; dyma enghraifft allan o'r gerdd 'Llyn y Gadair':

Ni wêl y teithiwr talog mono bron
Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gŵr
Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan...

gan ddiweddu gyda'r cwpled canlynol sy'n dweud nad oedd dim yno:

Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau,
Dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau.

Llyfryddiaeth[golygu]

Barddoniaeth[golygu]

Cyhoeddwyd y cerddi i gyd yn y gyfrol Casgliad o Gerddi ym 1987.

Cyfieithiadau[golygu]

  • Ystorïau Bohemia. Cyfres y Werin.
  • Chwech o ganeuon enwog Schubert
  • Chwech o ganeuon enwog Brahms

Ysgrifau[golygu]

DS Mae rhai o'r cyfrolau hyn yn cynnwys adran o gerddi hefyd.

Cyhoeddwyd yr ysgrifau i gyd yn y gyfrol Ysgrifau T.H. Parry-Williams (1984)

Ysgholheictod[golygu]

  • The English element in Welsh (1923)
  • (cyd-olygydd) Llawysgrif Hendregadredd
  • (golygydd) Carolau Richard White (1931)
  • (golygydd) Llawysgrif Richard Morris o Gerddi
  • (golygydd) Canu Rhydd Cynnar (1932)
  • (golygydd) Pedair Cainc y Mabinogi. Diweddariad.
  • Elfennau Barddoniaeth
  • (golygydd) Hen Benillion (1940)
  • (golygydd) Ystorïau Heddiw

Ffynonellau[golygu]

  • Meic Stephens (gol.) (1986) Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)