Rhyg

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Rhyg

Rhywogaeth o laswelltyn a dyfir ar gyfer y grawn yw Rhyg (Secale cereale). Mae'n aelod o deulu'r ŷd (Triticeae), ac yn perthyn yn agos i haidd a gwenith. Defnyddir y grawn ar gyfer blawd, bara, chwisgi a fodka, ac fel bwyd anifeiliaid.

Daw rhyg yn wreiddiol o ganolbarth a dwyrain Twrci. Tyfir rhyg heddiw yn bennaf yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop.

[golygu] Prif gynhyrchwyr Rhyg

Prif gynhyrchwyr Rhyg 2005
(miliwn o dunnelli metrig)
Rwsia 3.6
Gwlad Pwyl 3.4
Yr Almaen 2.8
Bwlgaria 1.2
Wcrain 1.1
China 0.6
Canada 0.4
Twrci 0.3
Unol Daleithiau 0.2
Awstralia 0.2
Cyfanswm 13.3
Ffynhonnell:
FAO
[1]
  1. Major Food And Agricultural Commodities And Producers - Countries By Commodity
Dahlia redoute.JPG Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato