Poaceae
Oddi ar Wicipedia
| Poaceae Amrediad amseryddol: Cretasaidd Diweddar – Holosen, 65.5–0 Ma |
|
|---|---|
| Cynffonwellt y maes (Alopecurus pratensis) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
| Ddim wedi'i restru: | Comelinidau |
| Urdd: | Poales |
| Teulu: | Poaceae Barnhart |
| Is-deuluoedd[1] | |
Teulu mawr o blanhigion blodeuol yw Poaceae neu Gramineae (teulu'r gwir weiriau/glaswelltau). Mae'n cynnwys tua 10,000 o rywogaethau mewn tua 675 genws a 12 is-deulu.[1][2] Mae ganddynt flodau bach wedi'u trefnu mewn "sbigolion" (spikelets). Mae'r blodau'n cael eu peillio gan y gwynt. Ceir y teulu ledled y byd ac mae glaswelltiroedd yn ffurfio tua 25% o lystyfiant y byd.[2] Mae'r teulu'n cynnwys y grawnfwydydd megis gwenith, indrawn a reis a chnydau eraill megis cansen siwgr.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: