Merlyn y Carneddau

Oddi ar Wicipedia
Merlod yn pori yng Ngwarchodfa Natur Conwy

Mae Merlyn y Carneddau yn fath o ferlyn. Mae tua 300 ohonynt ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Maent yn wahanol yn enetig, a thipyn bach yn llai na Ferlod mynydd Cymreig eraill. Maent yn byw mewn ardal fynyddig, 20 milltir sgwâr rhwng Bethesda, Llanfairfechan, Capel Curig a Chonwy, wedi rheoli gan Gymdeithas Merlod y Carneddau, grŵp o ffermwyr lleol - 7 teulu ohonynt[1] - yn gweithio gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r merlod yn pori’n wahanol i ddefaid a merlod eraill, yn bwyta Brwyn, Eithin, a glaswellt y mynyddoedd. Er mwyn osgoi gor-bori, rhaid cadw'r niferoedd y merlod yn sefydlog. Yn hanesyddol, gwerthwyd rhai i byllau glo. Erbyn hyn, mae PONT, (Pori, Natur a Threftadaeth) yn cydweithio gyda’r ffermwyr i ddosbarthu’r merlod i safleoedd yr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, cyngorau lleol ac unigolion dros Gymru a Lloegr. Casglir y merlod bob mis Tachwedd er mwyn dosbarthu rhai ac yn sicrhau bod y merlod i gyd yn iach.[2] Yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, maent wedi byw ar wahan i ferlod eraill am ganoedd o flynyddoedd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]