Megan Lloyd George

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd y Fonesig Megan Arvon Lloyd George (22 Ebrill 1902 - 14 Mai 1966) yn wleidydd Cymreig a chynrychiolodd y Blaid Ryddfrydol a'r Blaid Lafur yn San Steffan.

Bywyd Cynnar[golygu]

Ganwyd Megan Arvon George yng Nghricieth, Sir Gaernarfon, yn drydedd ferch a phumed plentyn David Lloyd George a Margaret ei wraig gyntaf.

Cafodd ei haddysg gychwynnol gan diwtoriaid preifat, (gan gynwys Frances Stevenson, a ddaeth yn feistres i'w thad, ac ym 1943 ei ail wraig), ac yn ddiweddarach yn Garratts Hall, Banstead, ac yna mewn ysgol orffennu ym Mharis.

Treuliodd llawer o'i hieuenctid yng nghartrefi swyddogol ei thad yn rhif 11 a rhif 10 Stryd Downing. Ym 1919 fe aeth gyda'i thad i Gynhadledd Heddwch Paris, 1919, ac wedyn i gyfres o gynadleddau rhyngwladol ôl-rhyfel eraill. Yr oedd hi'n gydymaith i'w thad ar ei daith fuddugoliaethus i Ganada a'r Unol Daleithiau ym 1923.

Ym 1924 – 1925 treuliodd flwyddyn gyfan yn yr India fel gwestai'r Arglwydd Reading, Rhaglaw'r India.

Ar ddyrchafiad ei thad yn Iarll ym 1945 cafodd Ms Lloyd George yr hawl i ddefnyddio'r teitl cwrtais Y Fonesig

AS Môn[golygu]

Ym 1928, yn dilyn ymgyrch llechwraidd gan ei rhieni, cafodd Megan ei dewis yn ymgeisydd y Blaid Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth Sir Fôn yn lle'r deiliad Syr Robert Thomas, ac ar 30 Mai, 1929, cafodd ei hethol i Dŷ’r Cyffredin, y ferch gyntaf erioed i'w hethol yn AS o Gymru.

Yn ystod hydref 1931 yr oedd yn un o'r grŵp bach o bedwar AS (y cyfan yn aelodau o deulu Lloyd George) a oedd, yn wrthwynebus i ffurfio Llywodraeth Genedlaethol o dan y Brif Weinidog Llafur James Ramsay MacDonald.

Cafodd ei hail-ethol i Dŷ’r Cyffredin fel Rhyddfrydwr Annibynnol yn etholiadau cyffredinol 1931 ac 1935.

Ym 1936 bu Megan gyda'i thad ar ei ymweliad ag Adolf Hitler, er hynny yr oedd yn gwbl wrthwynebus i bolisi Neville Chamberlain o ddyhuddo ac yn un o'r ASau fu'n pwyso am ei ymddiswyddiad ym mis Mai 1940.

Yn etholiad 1945 gadwodd Megan Lloyd George sedd seneddol Môn o drwch blewyn, yn wyneb "tirlithriad" trwy wledydd Prydain tuag at y Blaid Lafur; yn un o ddim ond deuddeg AS Rhyddfrydol i'w cael eu hethol yn yr etholiad hwnnw. Ond yn ystod y cyfnod hwn roedd hi'n gweld ei hun fel yr unig un a oedd yn parhau i ddal yn dynn at wreiddiau Rhyddfrydol Radical ei thad yn yr hyn o blaid a oedd ar ôl. Yr oedd hi'n llawer mwy cyffyrddus yng nghwmni aelodau Llafur megis Clement Attlee a Herbert Morrison nag ydoedd at arweinydd ei phlaid a'i chyd AS Rhyddfrydol Gymreig Clement Davies AS Maldwyn ac Arweinydd y Blaid Ryddfrydol.

Mewn ymgais i gadw undod y Blaid Rhyddfrydol ac yng ngwyneb sїon ei bod am droi'i chot at y Blaid Lafur cynigiodd Clement Davies swydd iddi fel is-arweinydd y Blaid Rhyddfrydol. Camgymeriad mawr ar ei rhan, yn ôl rhai, oedd iddi dderbyn y swydd yn hytrach na throi'i chot. Er iddi gael ei hail-ethol gyda mwyafrif dechau o 1929 pleidlais ym 1950 pe bai hi wedi ymwrthod a'r swydd ac ymuno a'r Blaid Lafur, siawns y byddai wedi gallu sefyll yn ymgeisydd Llafur ym Môn a chadw ei sedd ym 1951. Gan sefyll fel y ddeiliad Ryddfrydol cafodd ei threchu gan yr ymgeisydd Llafur Cledwyn Hughes yn yr etholiad.

Gwrthododd Megan Lloyd George gynnig gan Gymdeithas Ryddfrydol Sir Fôn i gael ei henwebu fel eu darpar ymgeisydd ym 1952, ar gyfer yr etholiad a alwyd, yn y pendraw, ym 1955.

AS Caerfyrddin[golygu]

Safodd dros y Blaid Lafur yn Etholaeth Caerfyrddin ac ennill y sedd yn is-etholiad seneddol 1957, yn dilyn marwolaeth Rhys Hopkin Morris, a daliodd y sedd tan ei marwolaeth ym 1966.

Darllen Amgen[golygu]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert Thomas
Aelod Seneddol dros Ynys Môn
19291951
Olynydd:
Cledwyn Hughes
Rhagflaenydd:
Rhys Hopkin Morris
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin
19571966
Olynydd:
Gwynfor Evans
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.