Stryd Downing

Oddi ar Wicipedia
Stryd Downing
Mathstryd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSyr George Downing, Barwnig 1af Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Cysylltir gydaWhitehall Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1680 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5033°N 0.1275°W Edit this on Wikidata
Map

Stryd yn Ninas Westminster yng nghanol Llundain sy'n gartref i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw Stryd Downing (Saesneg: Downing Street). Lleolir y stryd yn Westminster ger y Whitehall, cartref Gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig. Yma ceir cartref swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn rhif 10 Stryd Downing a chartref Canghellor y Trysorlys y drws nesaf, yn 11 Stryd Downing. Cafodd y stryd enwog ei henwi ar ôl y gwladweinydd o Sais Syr George Downing (1623–1684). Ar lafar mae'r ymadrodd "Downing Street" bron yn gyfystyr â Llywodraeth y DU.

Credir fod mynediad i rwydwaith mawr o dwneli a siambrau tanddaearol yn Stryd Downing, ar gyfer y llywodraeth a phwysigion eraill mewn amser argyfwng.

Ar un adeg bu'n bosibl i ddinasyddion cyffredin gael mynediad i'r stryd, ond ers dechrau'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth mae cordon metal o'i chwmpas a chyfyngir yn llym ar yr hawl i brotestio yn y cyffiniau.

Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.