Manawydan fab Llŷr: Trydedd Gainc y Mabinogi

Oddi ar Wicipedia
Manawydan fab Llŷr: Trydedd Gainc y Mabinogi
Dechrau'r drydedd gainc: Ac wedi darfot y seithwyr a dywedasom ni uchod, claddu pen Bendigeidfran yn y Gwynfryn yn Llundain a'i wyneb ar Ffrainc. Edrych a wnaeth manawydan ar y dref yn Llundain ac ar ei gydymdeithon a dodi ochenaid fawr.A chymryt diruawr alar a hiraeth ynddo...
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
Rhan oMabinogi Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1050 Edit this on Wikidata

Manawydan fab Llŷr yw Trydedd Gainc y Mabinogi, sef stori Gymreig ganoloesol a grewyd dim hwyrach na thua 1200 ac sy'n rhan o'r clasur y Mabinogi. Mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cynnig dyddiad rhwng 1050 a 1120[1]ar gyfer cyfansoddi'r Pedair Cainc yn eu ffurf bresennol (1060 yw awgrym Ifor Williams). Arwr y stori hon, y 3edd yn y gyfres, yw Manawydan fab Llŷr ac sy'n ymddangos hefyd yn yr ail gainc Branwen ferch Llŷr.

Crynodeb o'r chwedl[golygu | golygu cod]

Mae Manawydan yn frawd i Branwen a Brân Fendigaid, brenin Ynys Prydain. Pan gaiff Branwen ei chamdrin gan ei gŵr, Matholwch brenin Iwerddon, mae Manadwydan yn croesi i Iwerddon gyda'i frawd a'i fyddin i ddial ei cham. Wedi ymladd chwerw, mae Manawydan yn un o'r saith gŵr sy'n dychwelyd yn fyw o Iwerddon. Mae'n derbyn gwahoddiad gan Pryderi i ddod gydag ef i Ddyfed a phriodi ei fam, Rhiannon.

Manawydan, yr esgob a'r llygoden - llun o engrafiad yn "Mabinogion" yr Arglwyddes Charlotte Guest (1877)

Cyn hir mae hud yn disgyn ar Ddyfed ac mae ei phoblogaeth yn diflannu, heblaw am Manawydan, Rhiannon, Pryderi a Cigfa, gwraig Pryderi. Gorfodir hwy i symud i Loegr, lle mae Manawydan a Phryderi yn ennill bywoliaeth fel crefftwyr. Maent yn ymgymeryd a nifer o grefftau, ond mae eu gwaith mor dda nes bod y crefftwyr lleol yn elyniaethus ac yn eu gorfodi i symud o fan i fan.

Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwo mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog Llwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill Gwawl fab Clud ei gamdrin gan Pwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.

Manawydan Uab Llyr; golygwyd gan Ian Hughes

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Y testun[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]