Cigfa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cigfa (Cymraeg Canol: Kigua) yw gwraig Pryderi fab Pwyll, brenin Dyfed, yn y Drydedd o Bedair Cainc y Mabinogi.

Cyfeirir at Gigfa ar ddiwedd y Gainc Gyntaf, Pwyll Pendefig Dyfed. Ar ôl marwolaeth ei dad mae Pryderi yn ehangu terfynau ei deyrnas i gynnwys Seisyllwg ac yn mynnu cael gwraig. Ei ddewis yw 'Cigfa, ferch [G]wyn Gohoyw, fab Gloyw Walltlydan, fab Casnar Wledig'.[1]

Ni cheir sôn amdani wedyn tan y Drydedd Gainc. Mae Pryderi yn gwahoddi ei gyfaill ffyddlon Manawydan i briodi ei fam weddw Rhiannon, sy'n hardd o hyd, a byw gydag ef a Chigfa yn Nyfed. Ond cyn bo hir mae rhyw hud dinistriol yn syrthio ar y deyrnas sy'n troi'n anialdir diffrwyth; diflanna pawb ac eithrio Pryderi, Cigfa, Manawydan a Rhiannon. Un diwrnod, wrth hela, mae Pryderi yn dilyn twrch gwyn (lliw anifeiliaid yr Arallfyd Celtaidd, fel yn achos helgwn Arawn) ac yn mynd ar goll. Â Rhiannon i chwilio amdano. Daw o hyd iddo yn eistedd yn llonydd wrth ymyl adeilad diarth a'i ddwylo ar bair euraidd ac wrth geisio ei ryddhau mae hithau yn cael fod ei dwylo'n ynghlwm wrth y pair ac yn methu symud. Erys Manawydan a Cigfa gyda'i gilydd a llwyddant o'r diwedd i ryddhau Rhiannon a Pryderi ar ôl iddynt dal lleidr yn rhith llygoden feichiog sy'n troi allan i fod yn wraig Llwyd fab Cil Coed, gelyn Rhiannon. Ar ôl iddynt bygwth crogi'r llygoden mae Llwyd yn codi'r hud oddi ar y wlad ac yn rhyddhau Pryderi a'i fam.

Cafwyd sawl cais i esbonio enw Cigfa. Yn Iwerddon ceir duwies Geltaidd o'r enw Cichmuine a gysytllir â dŵr ac mae cic- yn rhan o saw enw arall yn ogystal, e.e. Nant Cichmann. Mae'n bosibl mai "cig" yw'r cig- yn ei henw. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gytras â'r gair Gwyddeleg cích "bron" (mae bron ei hun yn digwydd mewn enwau ar ferched, e.e. Bronwen). Yn chwedlau Iwerddon ceir merch neu dduwies o'r enw Ciochba sy'n wraig i un o'r Partholon (dyna'r unig gyfeiriad ati). Mae W. J. Gruffydd yn dadlau fod cymeriad Cigfa yn ychwanegiad diweddarach i'r chwedl yn y Pedair Cainc.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1937; sawl arg. arall), t. 27.
  2. W. J. Gruffydd, Rhiannon (Caerdydd, 1953), t. 77.