Matholwch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Matholwch yw brenin Iwerddon yn yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi, 'Branwen ferch Llŷr'.

Cynnwys

Pedair Cainc y Mabinogi [golygu]

Branwen gyda'r drudwy yn llys Matholwch

Yn yr Ail Gainc, portreadir Matholwch fel brenin Iwerddon sy'n glanio yn Harlech gyda thair llong ar ddeg i geisio llaw Branwen, chwaer Bendigeidfran gyda'r bwriad o ffurfio cynghrair rhwng Iwerddon ac "Ynys y Cedyrn". Mae Bendigeidfran yn cydsynio ond mae gweithred ysgeler Efnysien yn difetha meirch Matholwch ac felly'n ei sarhau a dwyn gwarth ar Fendigeidfran yn ei ddigio ac mae'n hwylio yn ôl i Iwerddon. Er mwyn cymodi â Matholwch mae Bendigeidfran yn anfon dau anrheg arbennig iddo, sef y Pair Dadeni a meirch newydd.

Mae Matholwch yn priodi Branwen wedyn ac yn byw gyda hi yn ddedwydd yn ei lys yn Iwerddon. Genir mab iddo gan Branwen a enwir Gwern ond mae pobl Matholwch yn ddig wrtho am na ddialodd y sarhad a gafodd yn llys Bendigeidfran. Mae'n rhaid iddo ildio o'r diwedd ac yn wir mae'n digio ei hun ac yn taro Branwen (gweler isod) ac yn ei rhoi i weithio yn y gegin fel morwyn gyffredin, sy'n sarhad arni hi a Bendigeidfran. Mae Branwen yn dofi drudwy ac yn ei anfon i Gymru gyda neges i'w frawd am ei sefyllfa truenus.

 tair blynedd heibio. Yna daw Bendigeidfran, sy'n gawr, dros y môr o Gymru i Iwerddon gyda'i ryfelwyr i ddial sarhad Branwen. Mae Matholwch yn ceisio cymodi ac yn cynnig ymddeol a gosod Gwern, nai Bendigeidfran, yn ei le. Gwrthod y mae Bendigeidfran ond mae Branwen yn ei berswadio er mwyn cael heddwch. Ond unwaith yn rhagor mai Efnisien yn difetha popeth trwy ladd Gwern a cheir ymladdfa mawr rhwng y Gwyddelod a'r Cymry. Dim ond saith o ryfelwyr sy'n dianc, gyda Branwen a phen Bendigeidfran, yn ôl i Gymru. Ni cheir sôn am dynged Matholwch.

ffynonellau eraill [golygu]

Mae un o Drioedd Ynys Prydain yn cyfeirio at Fatholwch fel 'Matholwch Wyddel' ac yn disgrifio y dyrnod (palfod) a roes i Franwen fel un o 'Dair Gwyth ("niweidiol") Balfod Ynys Prydain'.

Ym Muchedd Collen (hanes Collen Sant) cyfeirir at Fatholwch fel 'Arglwydd Iwerddon' ac 'Arglwydd Cŵl (neu 'Rhwngcwc') yn Iwerddon'; mae'n daid i Gollen trwy ei ferch gordderch (ond ceir fersiwn arall o fuchedd Collen sy'n rhoi traddodiad gwahanol). Mae testun o ddiwedd yr Oesoedd Canol yn dweud fod Matholwch Wyddel yn un o'r penceirdd a roes ei gyngor wrth lunio'r Pedwar Mesur ar Hugain. Ceir sawl cyfeiriad yng ngwwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr yn ogystal.

Yr enw [golygu]

'Mallolwch' yw'r ffurf a geir yn y dryll cynnar o destun yr Ail Gainc sydd yn llawysgrif Peniarth 6. Ceir yr un ffurf mewn cerdd gan Cynddelw Brydydd Mawr yn ogystal. Ymddengys erbyn hyn mai Mallolwch oedd y ffurf gynharaf ar yr enw.

Mae rhai ysgolheigion, e.e. Proinsias Mac Cana, wedi ceisio uniaethu Matholwch â'r brenin Gwyddelig Milscothach a enwir yn y chwedl Togail Bruidne Da Derga, sy'n cynnwys pennod sy'n debyg iawn i ran o'r Ail Gainc.

ffynonellau a darllen pellach [golygu]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1961; argraffiad newydd 1991)
  • Proinsias Mac Cana, Branwen (Caerdydd, 1958)
  • Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad ers hynny)