Llewpart y cyrs

Oddi ar Wicipedia
Phragmataecia castaneae
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Cossidae
Genws: Phragmataecia
Rhywogaeth: P. castaneae
Enw deuenwol
Phragmataecia castaneae
(Hübner, 1790)
Cyfystyron
  • Phalaena castaneae Hübner, 1790
  • Phragmatoecia castanea Teich, 1884
  • Phragmataecia castanea sicca Dannehl, 1829
  • Phragmataecia castaneae f. fusca Lempke, 1961
  • Phragmataecia castaneae leonadae Gomez Bustillo, 1977
  • Phragmataecia meloina Gomez Bustillo & Fernandes-Rubio, 1976
  • Phragmataecia sica Gomez bustillo & Fernandes-Rubio, 1976

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Cossidae[1] yn urdd y Lepidoptera yw llewpart y cyrs, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy llewpartiaid y cyrs; yr enw Saesneg yw Reed Leopard, a'r enw gwyddonol yw Phragmataecia castaneae.[2][3] Mae i'w ganfod yng nghanol a de Ewrop, y Dwyrain Canol, y Cawcasws, Tyrcmenistan, Casachstan, gogledd-orllewin Iran, Irac, Syria, Libanus, Twrci, gorllewin Tsieina, de-orllewin Siberia, yr Aifft, Tiwnisia a Morocco.[4]

27–50 mm ydy lled yr adenydd, er bod adain y fenyw yn fwy na'r gwryw. Mae'n hedfan rhwng Mai a Gorffennaf.

Prif fwyd y siani flewog ydy Phragmites australis.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae llewpart y cyrs yn lindysyn sy'n bwydo tu fewn i wreiddiau a choesynnau cyrs, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Reed Leopard Phragmataecia castaneae". UKMoths. Cyrchwyd 2011-12-19.
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. Description of two new species of Cossidae (Lepidoptera) from China