Llangrannog a Fi

Oddi ar Wicipedia
Llangrannog a Fi
AwdurSteff Jenkins a Elin Williams
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781785621284

Hunangofiant gan Steff Jenkins ac Elin Williams yw Llangrannog a Fi a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Ymddeolodd Steff Jenkins yn ddiweddar wedi cyfnod hir o wasanaeth yn gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog.

Yr awdur[golygu | golygu cod]

Un o'r Creunant yw Steff Jenkins yn wreiddiol.• Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen, ac yno y dechreuodd y daith tuag at Langrannog.• Mae'r Urdd wedi bod yn rhan annatod o fywyd Steff ers ei ddyddiau ysgol. Bu'n swog a staff haf am bum mlynedd cyn cael swydd llawn amser gyda'r Urdd fel Trefnydd Ardal Sir Benfro yn 1975. •Wedi cyfnod brysur o drefnu gigs, mabolgampau, eisteddfodau a chyfnodau preswyl daeth cyfle yn 1978 iddo fel Dirprwy Reolwr yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a dyma oedd dechrau ar gyfnod hapus a hir yn Llangrannog.

Yn Llangrannog y cyfarfu a'i wraig, Enfys Beynon Thomas, gan ymgartrefu gyda hi dafliad carreg o'r gwersyll a magu teulu yno.• Wedi dros 40 mlynedd o wasanaeth gyda Urdd Gobaith Cymru, ymddeolodd yn Awst 2015.• Mae Elin Williams yn dod o ardal Llanbedr Pont Steffan ac yn gyn-athrawes Gymraeg yn Ysgol Dyffryn Teifi.• Mae Steff ac Elin yn ffrindiau ac wedi cael hwyl fawr iawn ar gydweithio ar y gyfrol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]