Ysgol Gyfun Rhydfelen
Oddi ar Wicipedia
Ysgol Uwchradd Gymraeg oedd Ysgol Gyfun Rhydfelen, wedi ei lleoli yn Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf. Agorwyd yn 1962 a hi oedd ail yr ail ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghymru.
Roedd adeiladau'r ysgol mewn cyflwr gwael gan i ran o'r ysgol gael ei adeiladu ar frys fel lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.[1]
Symudwyd yr ysgol o Rhydyfelin i adeilad newydd ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2006 ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg. Bu dadl ynglyn a'i hail-enwi i Ysgol Gyfun Gartholwg am fisoedd cyn penderfynu cadw'r enw newydd yn erbyn dymuniadau mwyafrif y disgyblion, athrawon a rhieni.[2][3]