Ysgol Dyffryn Teifi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ysgol Dyffryn Teifi
YDT.jpg
Arwyddair Oni heuir, ni fedir
Sefydlwyd 1984
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad Heol Llyn y Frân, Llandysul, Ceredigion, Cymru, SA44 4HP
AALl Cyngor Sir Ceredigion
Disgyblion 628 (2007)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Coch
Gwefan http://www.dyffrynteifi.org


Ysgol gyfun ddwyieithog a leolir yn Llandysul, Ceredigion yw Ysgol Dyffryn Teifi.

Sefydlwyd yr ysgol ar ei ffurf presennol, ar hen safle'r ysgol ramadeg, ym 1984 yn dilyn aildrefnu addysg yn Nyffryn Teifi.[2] Mae hanes yr ysgol yn dyddio'n ôl ir 19fed ganrif, pan adnabyddwyd fel Ysgol Ramadeg Llandysul neu Ysgol Ramadeg Dyffryn Teifi.

Mae'n gwasanaethu disgyblion ardaloedd canol Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin, sy'n dymuno dilyn addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn academaidd ceir cofnod da o gyrhaeddiad ar ran yr ysgol ar lefelau, lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol ac mae'r ysgol wedi dod yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth Gymraeg fel yr Urdd, er enghraifft. Rhoddir pwyslais o fewn yr ysgol ar werthoedd traddodiadol Gymreig, trwy gynnal gwasanaethau, gwersi a gweithgareddau eraill drwy gyfrwng yr iaith hynny a thrwy mentrau eraill o fewn y gymuned lleol.

Yn 2001 roedd 570 o ddisgyblion yn yr ysgol,[2] disgynodd y niferau hyn yn ddiweddarach, ond cynyddodd unwaith eto i 527 yn 2007, a disgwylid i'r niferau barhau i gynyddu'n raddol.[1] Daeth 78% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith yn 2001,[2] cynyddodd y canran hyn i 83% yn 2007, gyda 91% o'r holl disgyblion yn siarad yr iaith i safon iaith gyntaf.[1]

Cyn-ddisgyblion enwog[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2  Adroddiad Ysgol Dyffryn Teifi , 16 Ebrill 2007. Estyn (20 Mehefin 2007). Adalwyd ar 23 Gorffennaf 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2  Adroddiad yr Ysgol, 15-18 Hydref 2001. Estyn (2001-12-17). Adalwyd ar 12 Ionawr 2009.