Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales

Oddi ar Wicipedia

Dyma dudalen Wicibrosiect Llyfrau Gwales sef y fan i gydlynu'r gwaith o greu erthyglau ac ychwanegu delweddau o gloriau llyfrau oddi ar gwefan Gwales a nodir yn y Rhestr llyfrau Cymraeg.

Nod y WikiBrosiect ydy cydlynu'r gwaith o greu erthyglau ac uwchlwytho'r delweddau o gloriau llyfrau Cymraeg o wefan Gwales i Gomin Wicipedia. Gwnaed cais i Ddefnyddiwr:Faebot (Tudalen sgwrs y defnyddiwr) gydweithio gyda Defnyddiwr:BOT-Twm Crys i wneud y gwaith hwn. Bydd y delweddau, wedyn, yn cael eu defnyddio ar unrhyw erthyglau o lyfrau Cymraeg y dymunwn eu creu. Lluniwyd y dudalen brosiect hon er mwyn cynnull y trafodaethau a'r gwaith mewn un man.

Y camau a gymerwyd[golygu cod]

  • Mae'r hawl i'r gwaith hwn i'w weld mewn ebost a dderbyniodd Defnyddiwr:Llywelyn2000 gan D. Philip Davies phil.davies@cllc.org.uk Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo y Cyngor Llyfrau Cymraeg yn Y Caffi.
  • Trafodwyd creu rhai erthyglau o wefan Gwales yn fama: Sgwrs:Rhestr llyfrau Cymraeg. Fel y gwelir, gwelwyd rhai diffygion ac anhawsterau e.e. cyfresi a chwynwyd rhai 'papurau' nad oeddent yn gymwys ar gyfer enseiclopedia.
  • Crëwyd rhestri, wedi'u dosbarthu yn unol a themau'r gronfa ddata; dull thematig sy'n gydnaws â chategoriau Wicipedia Cymraeg. Mae'r fynegai i'r rhestri i'w gweld yma: Rhestr llyfrau Cymraeg.
  • Gofynwyd i fot gynaeafu'r delweddau o wefan Gwales ar drwydded rhydd i Gomin Wicipedia Cymraeg. Treialwyd un dosbarth o lyfrau sef: Rhestr llyfrau Cymraeg llenyddol a gellir gweld y delweddau a uwchlwythwyd ar ffurf tabl neu mewn categori Categori:Prosiect Llyfrau Gwales.
  • Crewyd 280 o egin erthyglau yn y dosbarth 'Cofiannau' ac uwchlwythwyd y lluniau perthnasol. Grwp darllen i brawfddarllen yr erthyglau a'u cywiro. Sefydlwyd gweithdy prawddarllen er mwyn cywiro ac ehangu erthyglau. Ceir tiwtorial sut i wneud hyn yma, sy'n canolbwyntio ar brawfddarllen llyfrau Cymraeg (cofiannau), er y gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw erthygl sy'n ymwneud â llyfrau ar wefan Gwales.

Pethau i'w gwneud[golygu cod]

  • Creu ailgyfeiriad o'r teitl hir i'r teitl crynno, ar gyfer yr holl lyfrau.
  • Dw i wedi cwtogi / chwynu llawer o'r gronfa ddata: dileu'r holl lyfrau ayb o dan y teitl "Deunydd Addysgol" a lleihau'r llyfrau plant yn arw. Does run teitl dwyieithog (gobeithio!) yn bodoli bellach. Mae'r Categoriau priodol hefyd yn eu lle a chrynodeb ar gyfer bron pob llyfr. Yr unig waith sydd heb ei wneud ydy dileu'r ansoddeiriau hufenog sydd oddi fewn y crynodebau hyn e.e. 'awdur craff', 'chwip o nofel' ayb. Mi gymerith hyn ychydig ddyddiau eto. Awgrymaf eu creu yn nhrefn yr wyddor, fel ein bod yn medru monitro samplau o bob genres. Mae jyst dros 4,000 ohonyn nhw'n weddill.

Datblygiadau pellach[golygu cod]

  • Creu erthyglau ar bob awdur (haeddiannol)
  • Cynnwys rhestr lyfrau ar erthygl yr awdur
  • Grwpiau llyfrau mewn llyfrgelloedd i ychwanegu gwybodaeth

Y drafodaeth a fu (symudwyd o'r Caffi)[golygu cod]

Adolygiadau Llyfrau Cymraeg Gwales[golygu cod]

Dw i wedi derbyn ebost gan Gyngor Llyfrau Cymru yn cadarnhau eu parodrwydd i Wicipedia gyhoeddi eu hadolygiadau o lyfrau Cymraeg.

Dyma'r ymateb:

Annwyl Robin

Sut hwyl sydd?

Diolch yn fawr am y neges.

Roedd hi'n ddiddorol iawn i glywed yr hyn a ddywedwyd am Comin Creu/Creative Commons yn y cyfarfod yng Nghaerdydd, ac mae'n cyd-fynd i raddau gyda'n polisi fel Cyngor o ganiatáu cyhoeddiadau print ac ar-lein i atgynhyrchu yr adolygiadau sydd ar wefan Gwales yn ddi dâl.

Mae 6077 adolygiad ar wefan Gwales, 3249 ohonynt yn adolygiadau o lyfrau Cymraeg neu ddwyieithog. Gellir eu bachu o'r wefan yn ddidramgwydd.

Disgwylir i'r cyhoeddiad gynnwys y neges isod fel cydnabyddiaeth, ac i gynnwys yr adolygiad yn llawn (gan gynnwys enw'r adolygydd):

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol:

Adolygiad oddi ar www.gwales.com (dolen ac ISBN), trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae disgwyl i wefannau droi'r www.gwales.com yn ddolen i wefan Gwales, ond gan gyfeirio at dudalen lyfryddol y teitl unigol yn hytrach na thudalen croeso'r wefan, gan ddefnyddio'r ddolen isod (a'r ISBN yn newid fesul teitl)

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780862434946

Er enghraifft 'Dan Gadarn Goncrit' Mihangel Morgan.

Gobeithio fod hyn yn ateb yr ymholiad am y tro. Os os angen gwybodaeth ychwanegol mae croeso i ti anfon gair ataf.

Phil

D. Philip Davies phil.davies@cllc.org.uk Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo

Mae hyn, unwaith eto'n gam ymlaen, cam mawr. Mae'n golygu y bydd eu hadolygiadau'n cael eu gweld a'u darllen gan lawer mwy o bobl a phlant. Bydd angen Categori i'w casglu'n daclus ac awgrymaf: [[Categori:Adolygiadau Gwales]]. Gallwch hefyd, wrth gwrs, uwchlwytho clawr y llyfr ar drwydded "Defnydd Teg". Er bod hawl i atgynhyrch adolygiadau unigol yn bodoli cyn hyn, mae'r caniatad a dderbyniwyd yn rhoi yr hawl i Wicipedia gyhoeddi'r cwbwl lot ar drwydded CC-BY-SA.

- Llywelyn2000 (sgwrs) 04:52, 17 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Bendigedig! Wna i greu'r categori rwyt ti'n awgrymu. Un pwynt sydd gen i, fodd bynnag: mae'n bwysig fod mwy na dim ond adolygiad gan rywun ar wefan Gwales sydd ar y tudalennau - gwaith pum munud i sgwennu'r cyflwyniad arferol ('Nofel gan... ayyb') a rhoi'r adolygiad mewn adran e.e. ==Adolygiad gan X ar wefan Gwales== neu rywbeth tebyg. Fel arall, newyddion gwych sy'n dangos potensial Wici. Anatiomaros (sgwrs) 17:57, 17 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Pwynt arall ydy'r gallu / hawl i ychwanegu at yr adolygiad ee barn arall, ehangu ayb. Er mwyn hyn, awgrymaf adael y pennawd yn fwy agored ee ==Adolygiad== Neu: dy awgrym di ("Adolygiad Gwales") ac ychwanegu unrhyw farn arall neu sylwadau ychwanegol yn y rhan gyffredinol ar frig y ddalen. Y naill neu'r llall. Yn ail, efallai y gall Wici Cymru wneud cais am nawdd i wneud y gwaith hwn yn sydyn. Mae dros 3,200 o adolygiadau i'w hychwanegu, ac erthyglau i'w creu. Gallem naill ai barhau i'w copio / creu'r erthyglau newydd dros gyfnod hir o amser (10 mlynedd!) neu ofyn i'r Llywodraeth am nawdd, fel mae nhw'n ei wneud yng Nghatalonia. Does na ddim elfen o paid editing yma, gan mai gwaith llafurus, undonnog o fan arall ydyw, yn fy marn bach i, ond efallai y bydd eraill yn anghytuno? Amcangyfrif o amser i un person llawn amser wneud y gwaith: 3 mis. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:24, 18 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Tra dw i wrth fy modd bod corff arall yn fodlon i ni ail-ddefnyddio eu cynnwys yn ei gyfanrwydd, a diolch eto Robin am y gwaith o'u cyfarfod a'u darbwyllo, d wi ddim yn 100% sicr os yw'r cynnwys yma'n addas ar gyfer gwyddoniadur, am ddau reswm:
1. Mae lot o'r adolygiadau yn cynnwys barn yr adolygydd. Wrth ddarllen yr enghraifft Dan Gadarn Gonctit yn gyflym, sylwais ar y frawddeg "Mae hon yn nofel gymhleth, a dryslyd ar adegau yn y penodau agoriadol."
2. Pa mod ddiduedd ydy'r Cyngor Llyfrau, achos gwerthu llyfrau yw nod nhw yn y lle cyntaf!
Mae cael synopsis o unrhyw nofel yn dderbyiol ac yn ddefnydidol wrth gwrs.
Cynnig arall a fyddai'n gweddu'r prosiect ariannu o bosib: Rhywbeth defnyddiol a hawdd i'r Cyngor Llyfrau ddarparu fyddai taenlen blynyddol yn rhestru holl lyfrau a gyhoeddwyd y flwyddyn honno. (Pethau fel: Teitl, Awdur, Genere, Iaith (Cymraeg neu Saesneg), Synopsis (o'r adolygiad), Dyddiad cyhoeddi, ISBN, Dolen at adolygiad Gwales). Yn ogystal a gosod y rhain yn eu categoriau perthnasol (e.e. Categori:Nofelau Cymraeg) ond hefyd eu gosod ar dudalennau, megis Llenyddiaeth yn 2012 ayyb. Byddai hyn yn rhoi cyhoeddusrwydd i lyfrau Cymraeg/Cymreig. --Rhyswynne (sgwrs) 09:37, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Tynerwyd dy orfoledd, Rhys gan ddau faen tramgwydd nad ydynt yn bod!:

1 Mae ein polisi ar Wicipedia:Safbwynt niwtral yn cyfeirio at farn a rhagfarn awduron Wicipedia (safbwynt golygyddol niwtral), nid at yr awduron safonol, dibynadwy a gyfeiriwn atynt. Mae adolygwyr y nofelau hyn yn arbenigwyr yn eu maes ac fe ddisgwylir iddyn nhw draethu eu barn, ac mae'n hollol gywir i ni ddyfynu eu barn. Ac os down ar draws adolygiad neu farn arall, yna mae'n ddyletswydd i ni gyhoeddi hwnnw hefyd, fel y dywedais uchod (...ac ychwanegu unrhyw farn arall neu sylwadau ychwanegol yn y rhan gyffredinol ar frig y ddalen.) Mae'r adolygiad yn fath o gyfeiriad, yn ffynhonnell ac mae barn yn y fan honno yn beth iach a chywir i'w mynegi.

2 Rwyt yn gofyn: Pa mod ddiduedd ydy'r Cyngor Llyfrau? NID y CLL sydd wedi sgwennu'r darn. Nid eu barn nhw ydy'r adolygiad. Barn sgwennwyr / beirniaid proffesiynol, safonol ydy'r adolygiad (neu o leia fe ddylai fod!) Ac fel dw i'n dweud yn rhif un - mae'n ddyletswydd arnom i gyhoeddi barn y bobl yma; dyna Golofn cyntaf Wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:49, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Dau sylw bach yn gyflym (rhy boeth i feddwl!):
1. Does dim problem efo dyfynnu'r adolygiadau cyn belled â'n bod ni'n gwneud hi'n hollol glir mai barn adolygydd ydyw, nid barn Wici (fel arfer mae hynny'n amlwg wrth ddyfynnu awdwr gyda'r dyfyniad rhwng dyfynodau a chyfeiriad gyda'r ffynhonnell, wrth gwrs).
2. Rwyt ti'n sôn uchod am dros 3,000 o adolygiadau o lyfrau, Llywelyn, ond ydy pob un o'r llyfrau hynny'n haeddu lle ar Wici? Yn fy marn i dydy llyfr bach am deithiau cerdded lleol gan 'awdwr-un-llyfr-yn-unig' neu ryw lyfr testun ysgol di-nod ddim yn cwrdd â gofynion amlygrwydd Wicipedia. Rhywbeth i'w ystyried wrth fynd ati i greu'r erhyglau hyn: os ydy hynny'n golygu cael "dim ond" 2,000+ o erthyglau yn lle 3,000+ ta waeth. Anatiomaros (sgwrs) 19:58, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
1 Cytuno. Dyna ddywedais i.
2 Mater arall ydy hyn, ond dw i'n cytuno'n llwyr. Mae llawer o'r llyfrau a gyhoeddir (ar bapur) yn Gymraeg yn sothach, a dylid eu didol yn ofalus. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:51, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Mae'n wych bod y Cyngor Llyfrau yn fodlon gwneud hyn, ond dwi'n cytuno â phwyntiau cyntaf Rhys ac Anatiomaros bod adolygiadau yn dangos barn, ac nid wyf yn credu y dylem dyfynnu'r holl adolygiad mewn erthygl wyddoniadurol. Beth am gyhoeddi holl destun yr adolygiadau ar Wicidestun? Gallwn dyfynnu rhannau o'r adolygiadau mewn erthyglau Wicipedia (mewn adran "Adolygiadau/Barn y beirniaid/Derbyniad beirniadol"), gyda dolen Nodyn:Wicidestun i'r holl adolygiad perthnasol o Gwales? —Adam (sgwrscyfraniadau) 00:53, 20 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Adam: ble mae Anatiomaros yn son bod adolygiadau yn dangos barn? Os wyt yn credu bod rhoi barn arbenigwyr ar Wicipedia yn anghywir, yna bydd yn rhaid dileu holl ddyfyniadau arbenigol sydd gennym! Er enghraifft yn yr erthygl ar bapurau bro dyfynir Leighton Andrews: Mae'r Papurau Bro yn draddodiad pwysig yng Nghymru. Hollol dderbyniol. Yn dy erthygl ar Leni Riefenstahl, dywedi Ei ffilm enwocaf yw Triumph des Willens (1935) ac mae barn fel hyn yn hollol dderbyniol gan dy fod yn cynnwys cyfeiriad at y farn arbenigol, wreiddiol. Mae pob erthygl gwerth ei halen yn rhoi barn gwrthrychol, ond barn arbenigwr yn y pwnc ydyw, nid ein barn ni fel golygyddion. Mae medru gwahaniaethu rhwng y ddwy farn yma'n hanfodol - ym mhob gwyddoniadur. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:05, 21 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Os yden ni'n crynhoi'r adolygiad at ei gilydd fel hyn, yna mae'n gwbwl amlwg mai barn yr adolygydd ydyw ac nid barn golygyddion Wici. Be da chi'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:02, 21 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
"Barn adolygydd", ac os ydyn ni'n dyfynnu'r holl adolygiad mae fel petai ein bod ni'n ystyried adolygiadau Gwales yn bwysicach nag adolygiadau eraill, ac mewn ffordd bydd y categori Llyfrau Cymraeg yn "ddrych" o wefan Gwales. Yn fy marn i, dim ond dyfynnu rhannau o adolygiadau y dylem ei wneud. —Adam (sgwrscyfraniadau) 03:05, 22 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Anghytuno'n llwyr. Mae Wici'n ddigon mawr i ymgorffori erthyglau gan arbenigwyr yn eu pwnc. Os ydym yn cyfieithu erthygl o en, ydy hynny'n ein gwneud yn "ddrych" o en? Os y daw yr holl erthyglau i ni o'r Bywgraffiadur ar lein - yden ni wedyn yn mynd i ddweud "Na! Dim diolch!" a'u hail-sgwennu mewn crynodeb tila o baragraff bychan? Edrychwch ar y peth o safbwynt y darllennydd - pa un fyddai'r gorau ganddo? Yr erthygl gyfan, yn fy marn i. Ac os daw ail adolygiad o ffynhonnell arall ee Golwg, ychwaneger ef! Mae hyn yn cryfau'r erthygl, nid yn ei wanhau. Gorau pob fwyaf o farn gwahanol sydd gennym. Mae Gwyddoniadur Cymru'n ystyried o ddifri rhoi eu herthyglau ar drwydded agored gan ddefnyddio WiciSource (neu Wici Fynnhonnell os fydd wedi aeddfedu digon. Os nad oes erthygl yn bodoli gennym ni ar Wici, yna byddai ychwanegu'r erthgl gyfatebol yn llenwi'r bylchau'n fendigedig! A'r rheiny wedi'u sgwennu gan arbenigwyr yn eu maes. Os yw'n bodoli'n barod yna mi fyddem yn medru crynhoi, dyfynu ac ychwanegu, fel rydym yn ei wneud rwan. Holl bwrpas CC BY ydy medru defnyddio'r wybodaeth air am air, a does dim o'i le ar hynny. Dw i hefyd wedi dechrau trafodaethau efo CBAC i roi rhannau o lawlyfrau TGAU ar Wici - ac unwaith eto, o ran y darllenydd mi fyddai'r wybodaeth mae'n ei geisio'n llawer mwy hygyrch mewn un lle - Wici. Fiw i ni wrthod erthygl ar Wici rhag ofn i ni fod yn "ddrych" arall o wefan arbenigol. Da ni'n ddigon mawr i dderbyn unrhyw a phob gwybodaeth a barn.

Os mai danfon ein darllenwyr allan i wefannau eraill yw ein bwriad; gwefanau heb y 'cyd-destun' eang sydd gennym ni, yna mi rydan ni'n gwneud cam efo Wicipedia a'r darllenydd. Mae "cynnwys holl wybodaeth yr hil ddynol" yn rhan o'n raison d'être. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:10, 22 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Dw i'n dal ddim wedi fy llwyr argyhoeddi. Dof yn ol gyda esboniad pellach pan fydd mwy o amser gyda fi, ond yn fras:
Hoffwn wybod beth yw 'polisi' Gwales ar gyfer adolygiadau? (Sut maen nhw'n dweis adolygwyr? Ydyn nhw'n cael eu talu?) Tra mae enwau rhai adolygwyr yn adnabyddus, does gen i ddim syniad pwy ydy eraill a sut allwn fod yn sicr eu bod yn arbennigwyr yn eu maes?
Ydy Gwales yn ailgyhoeddi adolygiadau o ffynhonellau eraill (e.e. o wefan y BBC, cylchgrawn Barn, Y Cymro), ac os ydynt, ydyn nhw'n cynnwys adolygiadau negyddol?
Gan gymryd bod ni'n cytuno i gynnwys yr adolygiadau hyn ac yna'n llwyddo i osod nhw at bob erthygl (unai drwy gyflogi rhywun neu drwy BOT) sut allwn sicrhau bod barn arbennigwyr llenyddol eraill hefyd yn cael ei roi'n gytbwys? Er mwyn cydbwysedd, falle dylwn gynnwys o leiaf dau adolygiad gwahanol at pob erthygl.
Hepgor "'awdwr-un-llyfr-yn-unig' neu ryw lyfr testun ysgol di-nod" - Dw i'n gweld hyn yn rhyfedd - baswn i'n meddwl byddai'n fwy o ddyletswydd arnom gyhoeddi rhestr/cofnod cylfawn o bob llyfr Cymraeg gyheoddwyd, dim ots gan bwy nac am ba bwnc.

Atal "danfon ein darllenwyr allan i wefannau eraill". Falle mod i'n cam-ddehongli beth ti'n ddeud yma Llywelyn ynglyn a chynnwys, ond dw i'n meddwl bod ganddom ni system da yma'n barod o roi dolen allanol drwy'n cyferiiadau. Dw i ddim yn meddwl bod eisiau i ni weithredu mewn unrhyw ffordd sy'n atal/rhwystro darllenwr rhag clicio at wefan arall. Mae enw ar y math hyn o beth, sef Walled Garden.
Wedi dweud yr uchod i gyd, dw i yn credu ei bod hi'n addas ein bod yn gallu copio gwybodaeth o wefannau yn eu cyfanrwydd dan drwyddedau agored, dw i jyst ddim 100% yn siwr os mai adolygidau fel hyn ydy'r math o gynnwys y dylid ei gopio. Sori os ydw 'n ymddangos fel mod i'n trio hel bwganod, ond dw i'n meddwl bod eisiau meddwl hyn drwyddo o ddifri cyn gwneud mwy arno am y tro. 22:16, 23 Gorffennaf 2013‎ Defnyddiwr:Rhyswynne
(Ateb i Rhys) "Hepgor "'awdwr-un-llyfr-yn-unig' neu ryw lyfr testun ysgol di-nod" - Dw i'n gweld hyn yn rhyfedd - baswn i'n meddwl byddai'n fwy o ddyletswydd arnom gyhoeddi rhestr/cofnod cylfawn o bob llyfr Cymraeg gyheoddwyd, dim ots gan bwy nac am ba bwnc." Dwi'n meddwl dy fod wedi camddeall be ddywedais. Does gen i ddim byd yn erbyn cael rhestrau (fesul blwyddyn neu bwnc, mae'n debyg) "o bob llyfr Cymraeg gyheoddwyd, dim ots gan bwy nac am ba bwnc", ond dwi'n gwrthwynebu cael erthyglau am bob wan jac ohonon nhw yma ar Wici am y rhesymau a nodwyd uchod (yn fyr: polisi Amlygrwydd Wicipedia). Anatiomaros (sgwrs) 20:17, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Mae penderfynu ar amlygrwydd wastad wedi bod yn broblem, a ti'n iawn mai dilyn trefn arferol (beth bynnag ydy/fydd hwnnw!) dylem wneud gyda llyfr. Mond gweld hi'n od o'n i y byddem falle'n gwrthod cynnwys un llyfr oherwydd ei amlygrwydd ond y byddem yn derbyn unrhyw adolygiad, gan bob wan jac, cyn belled ei fod wedi ei gyhoeddi ar gwales.com. Gweld hyn yn od am nad oes sicrwydd o arbennigedd yr adolygydd (nid mod i'n cynnig ffordd o fesur hyn) ac yn arbennig yn sgil ymateb isod gan y Cyngor Llyfrau sy'n cadarnau mai "darllenwyr cyffredin" ydy rhai ohonynt. --Rhyswynne (sgwrs) 21:06, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Dw i newydd ddanfon dy ymholiad at y Cyngor Llyfrau a dof nol gynted ac y caf ateb. Rwyt yn awgrymu: Hepgor "'awdwr-un-llyfr-yn-unig' neu ryw lyfr testun ysgol di-nod". Cytuno, wrth gwrs (gweler fy sylw 19 Gorff, uchod)! O ran danfon y darllenwyr o wici i Gwales, efallai nad oedd fy mharagraff olaf ddim yn ddigon eglur. I ehangu: mae'r opsiwn a awgrymi o beidio a chynnwys yr adolygiad o fewn wici - a rhoi dolen i'r darllenydd i wefan gwales - i mi'n opsiwn salach na rhoi'r adolygiad ei hun ar wici. Mae gennym ni ar wici gant a mil o ddolennau i esboniadau ar eiriau / erthyglau dieithr, gwybodaeth pellach ayb - a hynny am yr holl fyd a'i gynnwys. Mae hyn yn wahanol i Gwales, er enghraifft sy'n gyfyngedig i'r byd llyfrau ac heb y cyd-destun ehangach hwnnw sydd gennym ni. Felly hefyd gyda Gwyddoniadur Cymru - sy'n gyfyngedig i Gymru. Mae cynnwys adolygiad llawn ar wici yn ein galluogi i ddolennu i fanau eraill ar wici lle ceir esboniad o ystyr gair. Ac i'r darllenydd, mae hyn yn gryfder mawr ac yn ddefnyddiol iawn. Pan ychwanegwn (o dan bennawd "Dolen allanol" ddolen) i fan arall fe wneir hyn gan nad yw'r wybodaeth ddim ar wici. Ond os medrwn gynnwys yr wybodaeth, yna, wrth gwrs dydyn ni ddim yn danfon y darllenydd allan o wici, eithr yn ei gadw yma, lle gall fanteisio ar y dolennau esboniadol a allwn eu cynnig. Mae walled garden yn gysyniad arall, gwrthyn.
OK, mae'n debyg bod hi'n beth od i mi ei awgrymu ein bod ni'n osgoi rhoi cynnwys yma a ninau efo perffaith hawl drwy ganiatad i wneud hynny.--Rhyswynne (sgwrs) 21:06, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Rhys, dydw i ddim gant y cant yn hapus efo hyn ychwaith, yn bennaf oherwydd ein bod yn nwylo trydydd person, dy bryder fwyaf dithau hefyd. Ond mae gen i ffydd eu bont yn gwybod eu stwff, yn eitha niwtral: cawn weld o atebion Phil. O ran cynnwys adolygiadau eraill - wrth gwrs y dylem! Ac fel y dont i'r fei - copier hwynt! Ond bydd yn rhaid trafod gyda'r cyhoeddwr i gael yr hawl i'w rhoi ar CC BY SA, wrth gwrs.
Drwg hyn ydy na chaiff unrhyw adolygiad/farn gwahanol yr un sylw/triniaeth os nad yw ei drwydded cyhoeddi yn addas, tra gall fod rheswm dilys ganddynt dros beidio ei roi ar CC BY SA - bydd adolygiad gwales o fenw erthygl tra dim ond dolen fydd i'r llall. --Rhyswynne (sgwrs) 21:06, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Cytunaf a thi hefyd y byddai basdata cynhwysfawr o'r holl lyfrau'n ddefnyddiol iawn, a dw i wedi cynnwys y cais hwnnw yn fy ebost at y Cyngor Llyfrau. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:51, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Bois bach, mae'r CLl yn effeithiol! O fewn hanner awr i fy nghwestiwn, dyma ateb cynhwysfawr! -
Parthed yr adolygiadau, mae gennym dri golygydd allanol yn comisiynu adolygiadau annibynnol a byddwn yn talu'r adolygwyr am eu cyfraniadau. Mae'n siwr y medrir disgrifio'r adolygwyr yn 'arbenigwyr' lle mae llyfrau ffeithiol yn y cwestion ond efallai y ceir mwy o groestoriad wrth edrych ar y rhai sy'n adolygu ffuglen (rhai yn ddarllenwyr, rhai yn awduron eu hunain ag ati). Nid ydym wedi gwrthod yr un adolygiad am ei fod yn feirniadol, ond mae rhyw hanner dwsin o enghreifftiau prin lle rydym wedi comisiynu ail adolygiad, a chyhoeddi'r ddau er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad lle mae dwy farn yn bodoli am gynnwys cyfrol.
Nid ydym yn atgynhyrchu adolygiadau o ffynonellau eraill. Weithiau bydd cyhoeddwyr yn eu dyfynnu a chynhwysir y deunydd hyn o dan bennawd arall (sef Gwybodaeth Ychwanegol) yn hytrach na'r pennawd 'Adolygiadau'.
Ynglŷn â'r cais am wybodaeth, yr ydym yn barod iawn i rannu cynnwys ein cronfa ddata, ar gyfer y defnydd a nodir yn dy gais...
Mae nhw'n rhydd o adolygiadau gan y cyhoeddwyr eu hunain, felly, ac mae hyn yn beth da! Ond mae yma ddarllenwyr cyffredin hefyd yn ogystal ag arbenigwyr. Ydy hynny'n beth da neu'n beth drwg!? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Cwestiwn anodd. Dwi ddim eisiau dweud nad ydy barn 'darllenwr cyffredin' mor bwysig a dilys a barn academydd neu gyd-awdur, ac mae digon o enghreifftiau mewn sawl maes ble mae person ametur yn gallu gwneud gwell job na'r person proffesiynol. Sut mae diffinio arbennigwr?--Rhyswynne (sgwrs) 21:06, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn awgrymmu i mi mai mond chwilio am second opinion maen nhw pan nad yw'r adolygiad cyntaf yn un ffafriol, ond byth fel arall. I mi, mae'n codi cwestiwn ynglyn a pha mor niwtral ydy'r adolygiadau yn eu cyfanrwydd.--Rhyswynne (sgwrs) 21:06, 24 Gorffennaf 2013 (UTC) Symudwyd y sylw yma o ganol y dyfyniad uchod (reit o flaen: Nid ydym yn atgynhyrchu adolygiadau..) gan Defnyddiwr:Llywelyn2000; 25-07-2013.[ateb]

Fy sylw olaf (addo). Wna i ddim gwrthynebu'r syniad yma ymhellach gan mod i wedi cael dweud fy nweud, ond rhaid i ni feddwl o ddifrif am sut bydd yn ymddangos ar yr erthygl - mae'r opsiwn 'cuddio' fel sydd yn Yr Erlid ar hyn o bryd yn un ffordd, ond falle bod awgrym gwahanol gan eraill ar sut i gyflyno hyn?--Rhyswynne (sgwrs) 21:06, 24 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Torriad am seibiant a meddwl

Cyn mynd rhagom i drafod ymhellach awgrymaf seibiant i gnoi cil. Un mater o drefn: (i Rhys yn bennaf): fedrwn ni gadw'r sgwrs yn llifo o ran amser / yn gronolegol? Mae gwthio sylwadau yma ac acw (ee i ganol dyfyniad gan y CLl) yn ei gwneud hi'n anodd iawn dilyn y sgwrs. Mae hyn hefyd yn golygu fod peth amwysedd pwy sgwennodd be. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:43, 25 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Efallai mai'r gyfaddawd yma ydy: creu gwybodlen o fanylion y llyfr / cyhoeddi ayb, creu crynodeb / erthygl gennym ni ar y llyfr, ac yna erthygl Gwales ar y diwedd gydag enw'r adolygydd, dolen i'r ffynhonnell wreiddiol a nodyn mai barn un adolygydd ydy hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:58, 2 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Dwi'n gweld syniad Adam o roi'r adolygiadau ar Wicidestun ac yna defnyddio'r rhannau ohonynt sy'n ateb anghenion Wicipedia yma yn un da. Ni fyddem chwaith yn gorfod ystyried a yw'r llyfr a adolygir yn haeddu erthygl gyfan ar Wicipedia. Lloffiwr (sgwrs) 21:43, 8 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Mae rhan cyntaf dy argymhelliad yn hawdd ei weithredu: drwy fot. Mae'r ail yn peri problem: gan fod copio a phastio o Wicidestun i Wicipedia'n mynd i gymryd 10 mlynedd (oni bai fod pethau'n prysuro'n arw)! Lloffiwr: beth ydy dy farn am y dull a ddefnyddiwyd yn Yr Erlid? Llywelyn2000 (sgwrs) 23:35, 8 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Tips darganfod URL oarhaol ar gwales.com[golygu cod]

"Mae disgwyl i wefannau droi'r www.gwales.com yn ddolen i wefan Gwales, ond gan gyfeirio at dudalen lyfryddol y teitl unigol yn hytrach na thudalen croeso'r wefan, gan ddefnyddio'r ddolen isod (a'r ISBN yn newid fesul teitl) http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780862434946"
Newydd greu Yr Erlid ac am roi dolen at adolygiad Gwales. O chwilio'r wefan aethpwyd a fi i dudalen wybodaeth am y llyfr, ond doedd ddim yn rhoi dolen barhaol fel y gofynir amdano uchod. I gael hyn, rhaid wedyn clicio ar unai fersiwn clawr caled, clawr meddal neu e-lyfr, gan bod gan y tri eu ISBN eu hunain.--Rhyswynne (sgwrs) 15:04, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Edrych ar y ddwy erthygl a wnaed hyd yma: I Ble'r Aeth Haul y Bore? a Dan Gadarn Goncrit. Mae'r cyfeiriadau at y ffynhonnell (Gwales) yn gyfeirio at dudalen lyfryddol y teitl unigol yn hytrach na thudalen croeso'r wefan. Y dull hawsaf ydy copio'r URL ble mae'r adolygiad! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:49, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Wicibrosiect Llyfrau Gwales[golygu cod]

Bydd y trafod a'r cynllunio'n digwydd o hyn ymlaen ar Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales. Diolch i bawb am eu sylwadau gwerthfawr. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:10, 26 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Rhestr o luniau clawr sydd wedi'u tadogi i erthyglau[golygu cod]

Gellir gweld yr holl delweddau o gloriau mewn categori bach del yn fama. Mae'r data byw canlynol yn dangos sawl delwedd sydd wedi'u huwchlwytho (yr ail ffigwr) a sawl un sydd wedi'u tadogi i erthygl (y ffigwr cyntaf), a'r canran:

Canlyniad byw
3266 / 5685 (57.4%)
Erthygl ar hap (i'w creu)

Llyfrau Saesneg wedi'u hargraffu yng Nghymru ers 1996[golygu cod]

Mae Bot-Twm Crys newydd greu 4 egin erthygl; mae un yn cynnwys delwedd o glawr y llyfr; bydd y delweddau eraill yn cael eu huwchlwytho'r pnawn ma. Wneith rhywun wiro'r manylion os g yn dda:

Mae na tua'r un faint ac a wnaed o lyfrau Cymraeg i ddod. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 29 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Edrych yn dda i mi. Bendigedig os yw'n bosib creu llawer mwy debyg. Cymrodor (sgwrs) 13:56, 29 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Diolch. Angen dileu: Dragon Has Two Tongues, The (yn bodoli'n barod). Erthyglau newydd i'w gweld yma. BOT-Twm Crys (sgwrs) 18:00, 29 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Bydd y manylion ar y dudalen yn cael eu cyfieithu o fewn chydig ddyddiau - na phoener am hyn! BOT-Twm Crys (sgwrs) 20:26, 29 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Ambell sylw caredig
Dwi wedi symud 4U2read.Ok Series: Living with Vampires i Living with Vampires. Hefyd, dwi'n sylwi dy fod wedi creu'r Categori:Nofelau Saesneg i bobl ifanc. Dydy hynny ddim yn ffitio i mewn gyda'r categori:Nofelau plant sydd yma'n barod (na'r uwch-gategori Categori:Llenyddiaeth plant chwaith. Dylem fod yn gyson gyda'r enwau categoriau (waeth pa un 'dan ni'n dewis yn yr achos yma).
Hefyd, wnes i ddim sylwi tan rwan fod gennym ni'r Categori:Nofelau Cymraeg i oedolion. Does dim uwch-gategori 'Nofelau i oedolion' (na 'Llenyddiaeth i oedolion' chwaith) ond yn bwysicach na hynny, oes angen un yn y lle cyntaf? Mae'n iawn cael categori i lyfrau plant ond yn fy marn i does dim angen y categoriau "i oedolion" o gwbl (yn ogystal, mae'n awgrymu efallai eu bod yn "adult material"...).
Categori:Llyfrau hanes yn y Saesneg: oni fyddai 'Llyfrau hanes Saesneg' yn symlach ac yn asio'n well gyda'r categoriau llyfrau eraill, e.e. 'Nofelau ditectif Cymraeg' (a'r cat newydd 'Bywgraffiadau Saesneg', o ran hynny)?
Categori:Bywgraffiadau Saesneg. Fel rheol dylai pob categori fod mewn o leiaf ddau uwch-gategori. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain am Gymry ond dydyn nhw ddim yn y categori 'Bywgraffiadau Cymreig' neu rywbeth tebyg (mae gennym 'Cofiannau' - cadwer hynny gan fod cofiant yn fath arbennig o fywgraffiad a chreu cat newydd 'Bywgraffiadau Cymraeg' >> 'Bywgraffiadau Cymreig'?).
Rhaid ystyried sawl peth wrth greu categoriau newydd, yn cynnwys dolenni rhyngwici priodol. Oes rhai newydd eraill yma? 'Dan ni angen fod yn siwr eu bod yn iawn o ran eu henwau a'u lle yn y goeden categorïau cyn eu llenwi â channoedd o lyfrau. Anatiomaros (sgwrs) 23:48, 29 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Sylw arall, eitha pwysig
Wrth gael cipolwg sydyn ar 'Categori:Llyfrau hanes yn y Saesneg' dwi'n gweld bod sawl un (faint?) o'r llyfr ar wefan Gwales yn llyfrau a gyhoeddwyd yn Lloegr nid Cymru. E.e. Fantasy Masterworks: The Mabinogion; cyhoeddwr = Gollancz (cwmni Seisnig adnabyddus iawn) = Llundain (gwales [1]). Mae rhai sy' ddim yn llyfrau hanes fel y cyfryw chwaith, e.e. mytholeg. Anatiomaros (sgwrs) 00:30, 30 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Enghraifft arall sy'n awgrymu faint o waith gwirio a golygu sydd ei angen: The History of the Kings of Britain. 1. Dydy o ddim yn "Llyfr hanes yn yr iaith Saesneg gan Geoffrey of Monmouth" o gwbl ond yn gyfieithiad i'r Saesneg (un o sawl cyfieithiad Saesneg dan yr un enw hefyd) o ffug-hanes enwog Sieffre o Fynwy, sy'n waith Lladin Canoloesol. 2. Dydy o ddim yn perthyn yn y categori "llyfrau Cymreig 2004 chwaith: cyhoeddwyd gan y cyhoeddwyr Seisnig cyfarwydd 'Penguin Books'. Anatiomaros (sgwrs) 00:42, 30 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Diolch Anatiomaros. Mater bach ydy newid y cats, a diolch am dy gymorth! Yr unig un dw i'n wirioneddol gredu fod lle iddo ydy'r grwp 'pobl ifanc', ac efallai y gallem gynnwys hwn gan y gall fod o ddefnydd i ddarllenwyr Wici; byddai eu rhoi o dan 'plant' yn eu sarhau. Cytunaf a dileu 'oedolion'. Wela i ddim mantais o'u huno, wedyn, a'r grwp cyffredinol (oedolion), gan eu bont wedi'u grwpio'n daclus ar gyfer yr oedran priodol. Am y gweddill, efallai mai'r ffordd gorau fyddai i mi eu rhestru, ac i tithau awgrymu enw newydd? Dyma nhw:
Parthed 'cyhoeddwyd yng Nghymru' - mi gymerais yn ganiataol, gan mai Gwales / Cyngor LLyfrau Cymru oedd yn ariannu'r llyfrau, mai casgliad o lyfrau wedi'u cyhoeddi yng Nghymru oeddent i gyd, waith ble argraffwyd y llyfrau. Os nad, yna dwi'n anghywir, a gallaf roi rhestr yma i ni nodi pa rai sydd heb eu cyhoeddi yng Nghymru a gallaf newid hynny mewn chwap. Bydd angen, wedyn, nodi mai llyfr sy'n ymwneud a Chymru ydyw, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Mae'r pwynt ola gen ti'n anoddach, gan y bydd rhaid gwiro geirwirdeb gwybodaeth Gwales gyda llygad a llaw! Dydw i heb ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar y db y tro hwn, ac mae'r erthyglau o leiaf hanner maint y rhai Cymraeg. Ond gellir gwneud hynny rywbryd eto, yn ddidrafferth, o gywiro tuedd y disgrifiadau. Unrhyw awgrymiadau, dewch a nhw! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:48, 30 Awst 2014 (UTC)[ateb]
Wedi mynd yn frysiog iawn trwy'r rhestr cats uchod (wedi treulio mwy o amser na'r disgwyl gyda'r Rhestr o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru newydd - angen gwiro enwau fan'na hefyd...). Gyda llaw, nid cael ei hargraffu yn Lloegr ydy'r broblem ond eu cyhoeddi yno gan gyhoeddwyr Seisnig. Dwi'n meddwl am greu gategoriau 'Llyfrau am Sir X' i fynd yn Categori:Llyfrau am Gymru, ond nid heno: mae'n hwyr las ac felly mi adawaf unrhyw atebion/sylwadau eraill tan nos fory Hwyl tan hynny, Anatiomaros (sgwrs) 01:47, 1 Medi 2014 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr yr hen goes! Gret wyrc! Bydd y swp nesa'n cynnwys dy awgrymiadau gwerthfawr, grymys, diddorol... Ar y diwedd - cywiro'r cats a wnaed hyd yma; cofia f'atgoffa i os nad yw wedi'i wneud o fewn wythnos! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:46, 2 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Mwy nag un dyddiad cyhoeddi[golygu cod]

Yn erthyglau y tri lyfr diweddaraf i'w cynnwys yma The Hidden Inns of Wales, The Golfer's Guide to Wales a The Golfer's Guide to Wales, ceir dau neu dri dyddiad cyhoeddi gwahanol. Falle mai ailargraffiadau sy'n gyfrifol am hyn, ond tydy hynny ddim yn amlwg. Oes nam ar y Bot, neu mwy na thebyg ar ffynhonell y wybodaeth?! --Rhyswynne (sgwrs) 07:48, 4 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Haia. Fel yr awgrymi, dyddiad yr adargraffiad ydy'r un mwyaf newydd; dyma'r dyddiad sy'n cydfynd efo'r rhif isbn. Mae'r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol yno hefyd ee 2001. Ond mae'r trydydd dyddiad yn anghywir, mae'r golofn yn y gronfa wedi llithro un i lawr, ond gellir cywiro hyn. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:27, 8 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Delweddau coll[golygu cod]

Dwi wedi darganfod ychydig o ddelweddau coll ar rai erthyglau ddaeth o Gwales ac yn trwsio lle mae'n bosib. O'n i'n meddwl falle bo nhw wedi ei dileu, ond mae'n debyg fod rhai delweddau yna gyda enw ffeil ychydig yn wahanol i'r enw yn y wybodlen. Ac yna mae rhai erthyglau lle nad oes delwedd o gwbl i'w weld e.e. Y_Daliwr_Lladron. Dau gwestiwn felly:

  • Os yw delwedd ar goll, oes hawl llwytho'r llun o Gwales i fan hyn, ac unrhyw glawr arall yn y dyfodol? (dwi'n sylwi fod trwydded Non-free book cover')
  • Oes unrhyw ffordd o weld tudalennau gyda delweddau coll, rhyw dudalen arbennig falle? O'n i methu dod o hyd i unrhywbeth.

--Dafyddt (sgwrs) 18:55, 13 Mai 2016 (UTC)[ateb]

@Dafyddt: Uwchlwytho delweddau o Gwales - Oes; rhoddwyd caniatad ganddyn nhw ar ran y cyhoeddwyr (gweler uchod). Tudalennau gyda delweddau coll - wrth i John Cummings eu cynaeafu o Gwales, newidiwyd yr acen grom ayb i symbolau eraill, ac felly torrwyd y ddolen oeddwn wedi ei rhoi ar yr erthygl - dolen oedd yn cynnwys yr acen grom ayb. Felly, yn aml, mae'r ddelwedd yma ar Wicipedia Cymraeg, ond gydag enw ychydig yn wahanol. Y ffordd arall, wrth gwrs ydy eu copio o Gwales, yn ffresh. Dw i ddim yn gwybod am ddalen Arbennig sy'n eu rhestru, ond mae'r gwrthwyneb yn bod. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:52, 31 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]