Gwaith John Thomas

Oddi ar Wicipedia
Gwaith John Thomas
Llun wynebddalen

Mae Gwaith John Thomas yn llyfr yng Nghyfres y Fil[1] a olygwyd gan Syr Owen Morgan Edwards. Argraffwyd y llyfr ym 1905 gan R E Jones a'i Frodyr, Conwy ac fe gyhoeddwyd gan Lyfrau Ab Owen, Llanuwchllyn.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae Gwaith John Thomas yn hunangofiant o fywyd cynnar Y Parch Dr John Thomas, Lerpwl (1821—1892).[3] Roedd John Thomas, yn awdur, yn olygydd cylchgronau Cymraeg ac yn un o weinidogion amlycaf yr Annibynwyr yn ei gyfnod.[4]

Ganwyd John Thomas yng Nghaergybi ym 1821. Ysgrifennodd ei hunangofiant i nodi ei ben-blwydd yn 65, felly tua 1886. Cadwyd copïau o'r llawysgrif o'r hunangofiant gan ei feibion y Parch Owen Thomas a'r Parch Josiah Thomas. Cafodd O. M. Edward fenthig y llawysgrif i'w trawsysgrifio ar gyfer Cyfres y Fil.

Mae copi o'r llyfr wedi ei osod ar Wicidestun.[5]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr yn cychwyn gyda rhagymadrodd gan O. M. Edwards. Ar ôl y rhagymadrodd mae Thomas yn rhoi cyflwyniad i'w hanes teuluol sy'n cynnwys rhoi llinach dadol sy'n mynd yn ôl i 1472. Mae'r hunangofiant go iawn yn cychwyn gyda geni Thomas yng Nghaergybi. Pan mae o tua chwech oed mae'r teulu yn symud i Fangor. Cawn hanes magwraeth ac addysg y gwrthrych ym Mangor. Pan oedd Thomas yn 10 mlwydd oed bu farw ei dad a bu'n rhaid i'r bachgen ifanc ymadael a'r ysgol i chwilio am waith. Mae'n gweithio yn gyntaf mewn siop groser, ar ôl 9 mis yn siop y groser mae'n symud i weithdy a siop crydd o'r enw Dafydd Llwyd. Roedd cymdeithasfa yn y gweithdy lle fu trafod mawr ar bynciau llosg y dydd. Yn ogystal â dysgu sut i wneud sgidiau mae John hefyd yn dysgu sut i gyflwyno ac amddiffyn ei farn am grefydd a gwleidyddiaeth.

Methodistiaid Calfinaidd oedd y teulu Thomas, a fu John yn gwrando ar rai o gewri'r pulpud Methodistaidd pan ymwelant â Bangor: John Jones, Talysarn, John Elias; Henry Rees, Dr Lewis Edwards, John Hughes, Pontrobert a llawer mwy. Ymunodd John Thomas a'r achos dirwest oedd newydd ei gyflwyno i Gymru pan oedd yn ŵr ifanc.

Wedi methu cael gwaith fel crydd ar ôl gorffen ei brentisiaeth mae Thomas yn symud i Brestatyn i gadw ysgol. Tua'r un cyfnod dechreuodd areithio mewn cyfarfodydd dirwest. Gan ei fod yn cael cydnabyddiaeth ariannol da am ei areithiau penderfynodd mynd ar daith areithio hir, gyda'r gobaith o fynd yr holl ffordd i lawr i'r deheubarth. Ar y ffordd cyfarfu a'r Parch Roger Edwards yn Aberhonddu. Gan ei fod yn areithiwr derbyniol awgrymodd Edwards y gwnâi pregethwr derbyniol hefyd. Ond cyngor Edwards oedd bod raid iddo gael cartref sefydlog i ddod yn bregethwr yn hytrach na bod yn grwydryn. Penderfynodd troi yn ôl i Fangor.

Gan fod rhai o Fethodistiaid Bangor wedi awgrymu ei fod yn hyf ac ymffrostgar am gyd-areithio gyda rhai o gewri'r pulpud Cymreig ac yntau'n glaslanc dibrofiad, teimlai na chai ei godi'n bregethwr ganddynt hwy. Roedd yr Annibynwyr yn gyffredinol, a Dr Arthur Jones, gweinidog Annibynnol Bangor, yn benodol, wedi bod yn gefnogol iddo penderfynodd newid enwad, er siom i'w deulu. Dechreuodd pregethu i'r Annibynwyr ym 1839. Symudodd i Dabor, ger Rhoslan, Sir Gaernarfon i gadw ysgol yn yr wythnos ac i bregethu ar y Sul. Mae'r llyfr yn rhoi llawer o sylw i'r rhwyg ymysg yr Annibynwyr rhwng cynulleidfawyr traddodiadol fel Dr Arthur Jones a'r cyfundrefnwyr Emrys a Caledfryn. O herwydd cysylltiad John Thomas â Dr Jones mae'r rhwyg yn cael effaith andwyol ar yrfa gynnar Thomas fel pregethwr er ei fod o wedi penderfynu peidio cymryd ochr. Ar ôl blwyddyn yn Nhabor mae'n penderfynu gwella ar ei addysg ei hun ac mae o'n sôn yn y llyfr am ei gyfnodau yn ysgol Marton ger Croesoswallt ac Athrofa Ffrwd y Fâl, Llansawel, Sir Gaerfyrddin lle fu'n ymbaratoi am y weinidogaeth. Wedi gorffen ei addysg ragbaratoawl dydy Thomas ddim yn cael galwad yn syth, ac mae'n cael ei siomi pan fo capeli sydd wedi awgrym y cai alwad yn ei adael i lawr. Yn y pendraw mae'n cael ei ordeinio yn weinidog ar gapel Bwlch Newydd, Aber-nant. Mae'r llyfr yn darfod gydag adroddiad am daith pregethu i'r gogledd gan y gweinidog ifanc newydd.

Penodau[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr yn cynnwys rhagymadrodd ac ugain o benodau. (Y sillafu fel y mae yn y llyfr)

Yn fab pum mlwydd a thri ugain.
Llanddeiniolen. Owen Thomas y Lliniwr. Clochydd Llanfihangel Ysceifiog. Ellen Jacobs. Etifeddiaeth Cadnant
Caergybi. John Elias. Bangor. Ysgolion, chware, seiat. Cymylau. Owen fy mrawd.
Dysgu crefft. Dadleuwyr y siop. Beirdd Eifionnydd. Arfonwyson. Hogi haearn.
Cymdeithas Cymedroldeb. Eben Fardd. Pregethwyr yr oes. Ty'r Capel. Owen Thomas yn dechreu pregethu. Y glustog felfed. Eglwys ystormus. Corfannydd.
Taith hyd y Dyffryn. Aros yn Lerpwl. Yn gyflawn aelod.
Gwyl Bethesda. Cymdeithasfa Llanrwst. Taith ddirwestol. Prestatyn. Williams o'r Wern.
Taith i'r De. Oerni Methodistiaid Bangor. Meddwl terfysglyd. Ymuno â'r Anibynwyr.
Henglawdd. Y bregeth gyntaf, Dr. Arthur Jones a'r lleill.
Perthynas pell. Barn am y Methodistiaid. Pregethu.
Sion Wyn. Ceidwaid athrawiaeth. Diwygiad tanllyd. Cynllwyn Caledfryn.
Gwlad dda. Y Myfyrwyr. Ieuan Gwynedd. Y joe dybaco.
Cyngor S. R. Azariah Shadrach. Cymraeg yn Rhaiadr, Rhys Dafis a Williams Troedrhiwdalar.
Crug y Bar. Yr ysgol a'r ysgolfeistr. Digalonni am fynd i'r Coleg.
Pregethwyr Cynorthwyol. Dillad newydd. Si. Ymadael.
Mr. Rees Llanelli. Sarah Maesteg. Gwr o'r Bwlch Newydd.
  • [[s:Gwaith John Thomas/Bwlch Newydd|Pennod XVII. BWLCH NEWYDD.
Ymsefydlu. Yr Hen Anibynwyr. "Nadredd cochon," Yr urddiad ym Maenclochog.
Anfantais. Davies, Pant Teg. J. Breese. D. Hughes. Joshua Lewis. D. Rees, Llanelli. Joseph Evans. D. Evans. Williams Llandeilo. Eraill ieuainc, selog.
Taith i'r Gogledd. Ben Evans. Sasiwn y Bala. Dywediad Ambrose. Gogledd a De.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "WELSHBOOKS - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1910-03-04. Cyrchwyd 2021-11-13.
  2. Thomas, John (1905). Gwaith John Thomas. Llanuwchllyn: Llyfrau Ab Owen.
  3. "THOMAS, JOHN (1821 - 1892) gweinidog gyda'r Annibynwyr, gwleidyddwr, a hanesydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-13.
  4. "YPARCH JOHN THOMAS LERPWL - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1892-06-29. Cyrchwyd 2021-11-13.
  5. "Gwaith John Thomas - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2021-11-13.