Lewis Edwards

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lewis Edwards

Gweinidog, athro, athronydd a phennaeth cyntaf Coleg y Bala oedd Lewis Edwards (27 Hydref 1809 - 19 Gorffennaf 1887).

Bywgraffiad[golygu]

Ganed ef ym Mhwllcenawon, Pen-llwyn, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi. Bu'n ddisgybl mewn nifer o ysgolion yn y cylch, ac yn 1827 agorodd ysgol ei hun yn Aberystwyth. Yn fuan wedyn daeth yn athro yn ysgol Llangeitho.[1]

Yn 1829 derbyniwyd ef yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Aeth i goleg yn Llundain, a ddaeth yn ddiweddarach yn Brifysgol Llundain, ond bu raid iddo adael ar ôl blwyddyn. Aeth yn genhadwr cartrefol i Dalacharn, yna aeth i Brifysgol Caeredin lle graddiodd yn D.D. yn 1835.[2]

Yn 1836, priododd Jane Charles, ŵyres Thomas Charles o'r Bala, a'r flwyddyn wedyn agorodd ysgol yn y Bala a ddatblygodd i fod yn Goleg y Bala, athrofa i bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd.[3]

Ystyrid ef yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, ac roedd yn awdur toreithiog. Gyda Roger Edwards a Thomas Gee, dechreuodd Y Traethodydd yn 1845. Ef oedd arweinydd amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd erbyn rhan olaf ei oes, a daeth dan feirniadaeth Emrys ap Iwan am ei gefnogaeth i'r "Achosion Saesneg". Mab iddo oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.[4]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyhoeddiadau[golygu]

  • Athrawiaeth yr Iawn
  • Traethodau Llenyddol (1867)
  • Traethodau Duwinyddol
  • Hanes Duwinyddiaeth
  • Person Crist

Llyfrau amdano[golygu]

  • T. C. Edwards Bywyd a Llythyrau Lewis Edwards (1901)
  • G. Tecwyn Parry Cofiant a Gweithiau Dr. Edwards (1892)
  • T. R. Jones Lewis Edwards, D.D., y Bala (1909).
  • T. Lloyd Evans Lewis Edwards, ei fywyd a'i waith (1967)

Cyfeiriadau[golygu]