William Williams (Caledfryn)

Oddi ar Wicipedia
William Williams
FfugenwCaledfryn Edit this on Wikidata
Ganwyd6 Chwefror 1801 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 1869 Edit this on Wikidata
Caerffili Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, beirniad llenyddol, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Bardd a beirniad llenyddol oedd William Williams (enw barddol, Caledfryn, hefyd Gwilym Caledfryn) (6 Chwefror 1801 - 23 Mawrth 1869), a aned ym Mryn y Ffynnon, Dinbych. Roedd yn un o'r ffigyrau eisteddfodol amlycaf yn ei ddydd a gwnaeth lawer i godi safonau llenyddiaeth Gymraeg ei gyfnod.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Hanai Caledfryn o deulu o wehyddion ym Mryn y Ffynnon. Cafodd ei addysg uwch yng Ngholeg Rotherham cyn mynd yn ei flaen i gael ei ordeinio fel gweinidog gyda'r Annibynwyr yn 1829. Roedd yn Rhyddfrydwr a Radicalydd brwd a gefnogai achosion fel Y Gymdeithas Ymryddhau (Liberation Society) a geisiai wahanu'r eglwys oddi wrth y wladwriaeth. Ceisiodd amddiffyn yr Ymneilltuwyr rhag honiadau enllibus y Comisiynwyr Addysg a gyhoeddasant yn y Llyfrau Gleision yn 1847. Treuliodd ddyddiau olaf ei oes yn ne Cymru fel gweinidog yn Y Groes-wen, Morgannwg.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Roedd Caledfryn yn awdwr tair cyfrol o farddoniaeth, Grawn Awen (1826), Drych Barddonol (1839) a Caniadau Caledfryn (1856). Enillodd ei awdl ar ddrylliad y Rothesay Castle oddi ar arfordir Môn y Gadair iddo yn Eisteddfod Biwmares (1832).

Ceisiai safoni'r Gymraeg fel iaith lenyddol ac ysgrifennodd nifer o erthyglau a beirniadaethau eisteddfodol i geisio ryddhau barddoniaeth Gymraeg o'r arddull chwyddedig a ddaeth yn boblogaidd yn hanner cyntaf y 19g. Cyhoeddodd lyfr gramadeg pur bwysig yn 1851. Golygodd sawl cyfrol, gan gynnwys gwaith Eos Gwynedd a Robert ap Gwilym Ddu, a bu'n olygydd cylchgronau llenyddol yn ogystal.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Grawn Awen (Llanrwst, 1826). Cerddi.
  • Drych Barddonol (Caernarfon, 1839). Cerddi ac ysgrifau beirniadol.
  • Grammadeg Cymreig (1851)
  • Caniadau Caledfryn (1856). Cerddi
  • Cofiant Caledfryn, gol. Thomas Roberts (1877). Cyfrol gofianol, sy'n cynnwys cerddi ac ysgrifau.
  • Cerddi Caledfryn, gol. Owen M. Edwards (Cyfres y Fil, 1913). Gyda rhagymadrodd da ar fywyd yr awdwr.