Gorsaf reilffordd Cyffordd Dyfi
| Cyffordd Dyfi |
||
|---|---|---|
| Saesneg: Dovey Junction | ||
| Lleoliad | ||
| Lleoliad | Derwen-las | |
| Awdurdod lleol | Powys | |
| Gweithrediadau | ||
| Côd gorsaf | DVY | |
| Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru | |
| Nifer o blatfformau | 2 | |
|
gan National Rail Enquiries |
||
| Defnydd teithwyr blynyddol | ||
Gorsaf reilffordd ar lan ddeheuol Afon Dyfi ar Reilffordd y Cambrian yw Cyffordd Dyfi (Saesneg: Dovey Junction railway station). Dyma lle mae'r rheillffordd o Amwythig yn rhannu, a llinellau yn mynd i Aberystwyth a Phwllheli. Darperir gwasanaethau trenau gan Drenau Arriva Cymru.
Mae Cyffordd Dyfi yn agos iawn i'r pwynt lle mae Gwynedd, Ceredigion, a Phowys yn cyfarfod.
Mae'r orsaf hon yng nghanol gwarchodfa natur yn agos i arfordir Bae Ceredigion. Nid oes pentref yng Nghyffordd Dyfi ond yn groes i'r farn gyffredinol, nid yw'r orsaf yn unig: mae llwybr tri chwarter milltir o hyd yn gadael i deithwyr gerdded i Landyfi.
Cafodd yr orsaf hon ei hailadeiladu ddwywaith yn ystod y degawdau diwethaf. Adeilad gan Great Western Railway oedd yr adeilad gwreiddiol ond ailosodwyd yr adeilad gan adeilad gyda tho gwastad yn y saithdegau. Ond yn y nawdegau syrthiodd yr adeilad hwn mewn adfeiliad a chafwyd wared ohono. Yn awr, dim ond cysgod syml sydd yno a ailosod yr adeilad diwethaf.
Hefyd, mae enw'r orsaf hon yn cael ei defnyddio gan dîm pel droed yng nghynghrair "Aberystwyth Digs League". Cafodd y tîm ei greu yn 2003.