Glandyfi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Glandyfi. Lleolir ger lan Afon Dyfi, ar ffordd yr A487 rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, a thri chwarter milltir i'r de o Orsaf Reilffordd Cyffordd Dyfi. Lleolir Castell Glandyfi gerllaw, a adeiladwyd ym 1810, yn agos i safle Castell Aberdyfi sy'n dyddio o 1156.[1]

Mae'n debyg mai Carreg neu Garreg oedd yr enw ar y cymuned hyd canol yr 19eg ganrif, ond fe mabwysiadodd enw'r castell.[1][2]

Datguddwyd cynlluniau er mwyn gwella'r ffordd yng Nglandyfi yn 2004,[3] ond mae'r gwaith eisioes yn disgwyl ei gychwyn, a dim ond yn 2007 y trefnwyd prynu gorfodol.[4] Mae llifogydd yn cau'r ffordd yn reolaidd i'r gogledd o'r pentref.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1  Castle for keeps. Telegraph.co.uk (10 Mawrth 2008).
  2.  Richard (Dick) Knight Williams. Garreg, Ysgubor-y-Coed, Llanfihangel Capel-Edwin and Glandyfi. Gwefan "Dyfi Valley".
  3.  Plans for A487 at Glandyfi to go on show. News Wales (11 Mai 2004).
  4.  A487, Glandyfi improvements Compulsory Purchase and Side Roads Orders 2007 (Saesneg yn unig). Llywodraeth Cynulliad Cymru (8 Mawrth 2007).

Dolenni allanol[golygu]