Gerry Adams

Oddi ar Wicipedia
Gerry Adams
Ganwyd6 Hydref 1948 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
  • St. Mary's Christian Brothers' Grammar School, Belfast
  • St Finian's Primary School
  • Belleville High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
SwyddTeachta Dála, Leader of Sinn Féin, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 3rd Northern Ireland Assembly, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Teachta Dála Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSinn Féin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sinnfein.ie/contents/20204 Edit this on Wikidata

Gwleidydd Gwyddelig a llywydd plaid Sinn Féin yw Gerard "Gerry" Adams (Gwyddeleg: Gearóid Mac Ádhaimh) (ganed 6 Hydref, 1948).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Gerry Adams yn y Falls Road yng ngorllewin Belffast, i deulu o genedlaetholwyr Gwyddelig.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Wedi gadael yr ysgol, ymunodd â Sinn Féin a Fianna Éireann yn 1964. Dechreuodd y llywodraeth Brydeinig garcharu cenedlaetholwyr Gwyddelig heb achos llys yn Awst 1971, ac ym mis Mawrth 1972 carcharwyd Adams. Gollyngwyd ef yn rhydd ym mis Mehefin i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfrinachol yn Llundain, ond ym mis Gorffennaf 1973 carcharwyd ef eto yn Long Kesh.

Gerry Adams yn 2007

Yn 1983 etholwyd ef yn llywydd Sinn Féin, ac fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros y blaid, y cyntaf ers y 1950au. Yn unol â pholisi ei blaid, ni chymerodd ei sedd yn San Steffan. Ar 14 Mawrth 1984, clwyfwyd ef yn ddifrifol pan geisiodd rhai o aelodau'r UFF ei ladd. Collodd ei sedd yn San Steffan i Joe Hendron o'r SDLP yn etholiad 1992, ond enillodd hi yn ôl yn 1997.

Yn wahanol i arweinwyr blaenorol Sinn Féin, roedd Adams yn barod i roi blaenoriaeth i ymgyrchoedd gwleidyddol ac i drafod â phleidiau eraill. Ar ddechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng Gerry Adams a John Hume, arweinydd y Social Democratic and Labour Party (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, David Trimble, a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar 10 Ebrill 1998, arwyddwyd Cytundeb Belffast rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y Democratic Unionist Party (DUP).

Yn etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon ym mis Tachwedd 2003, o'r pleidiau cenedlaethol, Sinn Féin a enillodd y nifer fwyaf o seddi, gyda’r SDLP yn colli cefnogaeth. Gwelwyd yr un patrwm yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005. Ym mis Hydref, 2006, wedi trafodaethau yn St Andrews yn yr Alban, cafwyd Cytundeb St Andrews rhwng y pleidiau, yn cynnwys y DUP. Ar 8 Mai 2007 daeth Ian Paisley, arweinydd y DUP, yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a Martin McGuinness o Sinn Féin yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Falls Memories, 1982
  • The Politics of Irish Freedom, 1986
  • A Pathway to Peace, 1988
  • An Irish Voice
  • Cage Eleven, 1990
  • The Street and Other Stories, 1992
  • Free Ireland: Towards a Lasting Peace, 1995
  • Before the Dawn, 1996, Brandon Books, ISBN 0-434-00341-7
  • Selected Writings
  • Who Fears to Speak...?, 2001(Arg. gwreiddiol 1991), Beyond the Pale Publications, ISBN 1-900960-13-3
  • An Irish Journal, 2001, Brandon Books, ISBN 0-86322-282-X
  • Hope and History, 2003, Brandon Books, ISBN 0-86322-330-3
  • A Farther Shore, 2005, Random House
  • An Irish Eye, 2007, Brandon Books
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Gerry Fitt
Aelod Seneddol dros Orllewin Belffast
19831992
Olynydd:
Joe Hendron
Rhagflaenydd:
Joe Hendron
Aelod Seneddol dros Orllewin Belffast
19972011
Olynydd:
Paul Maskey
Cynulliad Gogledd Iwerddon
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad Deddfwriaethol dros Orllewin Belffast
19982010
Olynydd:
Pat Sheehan
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Ruairí Ó Brádaigh
Llywydd Sinn Féin
1983 – presennol
Olynydd:
deiliad