Ian Paisley

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Parchedig a Gwir Anrhydeddus Ian Paisley ACD
Ian Paisley

Cyfnod yn y swydd
8 Mai 2007 – 5 Mehefin 2008
Dirprwy Martin McGuinness
Rhagflaenydd David Trimble
Olynydd Peter Robinson

Geni 6 Ebrill, 1926
Armagh, Gogledd Iwerddon
Plaid wleidyddol Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
Priod Eileen Paisley
Crefydd Presbyteraidd Rhydd

Gwleidydd unoliaethol a gweinidog Protestanaidd o Ogledd Iwerddon yw Ian Richard Kyle Paisley (6 Ebrill 192612 Medi 2014). Cydsefydlodd Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd a bu'n arweinydd arni; bu hefyd yn Aelod Seneddol Gogledd Antrim (18 Mehefin 1970 - 6 Mai 2010) ac yn aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon dros yr un etholaeth rhwng Mehefin 1998 – 25 Mawrth 2011. Daeth yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon ar 8 Mai 2007 hyd 5 Mehefin 2008. Ei nodwedd pennaf oedd ei allu i areithio'n uchel, yn ymfflamychol ac o'r galon; roedd hyn yn troi llawer yn ei erbyn, ac eraill (fel y 'Paisleyites') o'i blaid.

Ganwyd Ian Richard Kyle Paisley yn Armagh, Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon ac fe'i magwyd yn nhref Ballymena, Swydd Antrim, ble roedd ei dad James Kyle Paisley yn weinidog Protestanaidd a oedd hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o'r Ulster Volunteers o dan Edward Carson.[1] Astudiodd theoleg yn Ysgol Efengylaidd y Barri ym Mro Morgannwg ac yna am flwyddyn yn Neuadd Theoleg Belfast.

Y Pamffletîr[golygu]

Sefydlodd bapur newydd yn Chwefror 1966 y Protestant Telegraph, fel llais efengylaidd, unoliaethol iddo ef ei hun.[2] Ceir ei enw'n awdur ar sawl llyfr a phamffled a hynny ar faesydd gwleidyddol a chrefyddol gan gynnwys Epistle to the Romans.[3]

Ei ymgyrch gwrth-hoywon[golygu]

Pregethodd dro ar ôl tro yn erbyn hoywon[4] a chefnogodd ddeddfau i'w gwahardd. Roedd "Save Ulster from Sodomy" yn ymgyrch gwrth-hoywon a sefydlodd yn 1977 fel gwrthwynebiad i'r ymgyrch Campaign for Homosexual Law Reform (Northern Ireland), yn 1974.[5] Methodd yn ei ymdrech.[6]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Troubles: The background to the question of Northern Ireland, Downing, Taylor; tud 132, cyhoeddwyd gan Thames Macdonald
  2. T. Gallagher, "Religion, Reaction, and Revolt in Northern Ireland: The Impact of Paisleyism in Ulster", Journal of Church and State, 23.3 (1981), tud. 440
  3. Exposition of the Epistle to the Romans, Ian Paisley, Emerald House Group Inc, 1997
  4. Ian Paisley and politics of peace, Los Angeles Times, 24 Mawrth 2010
  5. "Paisley campaigns to 'save Ulster from Sodomy'". The Irish Times: p. 7. 20 Hydref 1977. http://www.irishtimes.com/newspaper/archive/1977/1020/Pg007.html#Ar00702:2070E82811412471B426D1D119A13A21D19418C1921BC1AF2B51B42DD1D11E12E12012F627056B29258024413D3191962EA1B532C1D129F0EA3491442771B42AC1D11893A61B33BB. Adalwyd 7 Mai 2008. Nodyn:Subscription required
  6. Stonewall timeline of Gay & Lesbian history available here [1].
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Maitland Clark
Aelod Seneddol dros Ogledd Antrim
1970 – 2010
Olynydd:
Ian Paisley, Jr.
Senedd Gogledd Iwerddon
Rhagflaenydd:
Terence O'Neill
Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon dros Bannside
1970 – 1972
Olynydd:
gohiriwyd swydd, 1972
diddymwyd senedd, 1973
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd Iwerddon
1979 – 2004
Olynydd:
Jim Allister
Cynulliad Gogledd Iwerddon
Rhagflaenydd:
sedd newydd
Aelod Cynulliad dros Ogledd Antrim
1998 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
swydd wedi'i gohirio, 2002–2007
(David Trimble, 2001–2002)
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
2007 – 2008
Olynydd:
Peter Robinson
Swyddi gwleidyddol pleidol
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
1971 – 2008
Olynydd:
Peter Robinson