SDLP

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon yw'r SDLP (Saesneg: Social Democratic and Labour Party, Gwyddeleg: Páirtí Sóisialta Daonlathach an Lucht Oibre). O'r 1970au ymlaen, yr SDLP oedd y blaid genedlaetholgar fwyaf yng Ngogledd Iwerddon, ond erbyn hyn mae Sinn Féin wedi ennill mwy o seddau a phleidleisiau.

Sefydlwyd y blaid yn 1970, pan ddaeth nifer o wleidyddion o wahanol bleidiau cenedlaethol y chwith at ei gilydd i greu plaid newydd. Arweinydd cyntaf y blaid oedd Gerry Fitt. Yn 1979, olynwyd ef gan John Hume, a barhaodd yn arweinydd hyd 2001. Dilynwyd ef gan arweinydd presennol y blaid, Mark Durkan.

Ar hyn o bryd mae gan yr SDLP dri Aelod Seneddol yn San Steffan, sy'n cymweryd chwip Plaid Lafur y DU, ac 16 aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon. Ar lefel Ewropeaidd, mae'r SDLP yn aelod o Blaid y Sosialwyr Ewropeaidd.