John Hume
Cyn-wleidydd o Ogledd Iwerddon fu yn arweinydd y blaid SDLP o 1970 hyd 1979 yw John Hume (ganed 18 Ionawr 1937). Ystyrir ef yn un o brif arweinyddion y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Ganed ef yn Derry, ac aeth i Goleg Sant Padrig, Maynooth i hyfforddi i fod yn offeiriad Catholig. Ni chwblhaodd ei astudiaethau ar gyfer yr offeiriadaeth, ond cafodd radd M.A. gan y coleg, cyn mynd yn athro. Daeth yn ffigwr amlwg yn y mudiad hawliau sifil yn Derry yn niwedd y 1960au. Etholwyd ef i senedd Gogledd Iwerddon fel Cenedlaetholwr Annibynnol yn 1969.
Roedd yn un o sylfaenwyr plaid yr SDLP yn 1970, ac yn 1979 olynodd Gerry Fitt fel ei harweinydd. Bu'n rhan o drafodaethau gyda'r llywodraeth Brydeinig a Sinn Féin, y credir iddynt arwain at gytundeb rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon yn 1985, ac yna gadoediad yr IRA yn 1994.
Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a David Trimble o'r UUP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ymddeolodd fel arweinydd yr SDLP yn 2001, a chyhoeddodd ei ymddeoliad o wleidyddiaeth yn 2004.
| Senedd Gogledd Iwerddon | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Eddie McAteer |
Aelod Seneddol dros Foyle 1969 – 1972 |
Olynydd: prorogued 1972 dilewyd y Senedd 1973 |
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Foyle 1983 – 2005 |
Olynydd: Mark Durkan |