Gerry Fitt
Gwleidydd o Ogledd Iwerddon ac arweinydd cyntaf y blaid SDLP oedd Gerard "Gerry" Fitt (9 Ebrill 1926 - 26 Awst 2005).
Ganed Fitt yn ninas Belffast, a bu'n llongwr rhwng 1941 a 1953. Etholwyd ef i Gyngor Dinas Belffast yn 1958 fel aelod o Blaid Lafur Iwerddon. Yn 1962 enillodd sedd yn Senedd Gogledd Iwerddon, gan gipio'r sedd oddi ar yr UUP. Yn 1964, roedd yn un o sylfaenwyr y Blaid Lafur Weriniaethol, ac enillodd sedd Gorllewin Belffast yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966.
Ym mis Hydref 1968, roedd gyda gorymdaith hawliau sifil pan gurwyd ef gan swyddogion yr RUC. Yn Awst 1970 daeth yn arweinydd cyntaf plaid newydd yr SDLP. Dan y Cytundeb Rhannu Grym, daeth yn ddirprwy arweinydd Senedd Gogledd Iwerddon yn 1973. Fodd bynnag, teimlai rhai o fewn yr SDLP nad oedd yn cynrychioli safbwynt y cenedlaetholwyr yn ddigonol, ac yn 1980 olynwyd ef fel arweinydd gan John Hume. Gadawodd y blaid wedi iddo gytuno i drafodaethau ar y cyfansoddiad gyda llywodraeth Prydain heb i lywodraeth Gweriniaeth Iwerddon dderbyn gwahoddiad. Ymddiswyddodd o'r blaid wedi i'w chynhadledd wrthdroi'r penderfyniad. Yn ddiweddarach, daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Fitt.
| Senedd Gogledd Iwerddon | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: William Oliver |
Aelod Seneddol dros Ddoc Belffast 1962 – 1972 |
Olynydd: prorogued 1972 dilewyd y Senedd 1973 |
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
| Rhagflaenydd: James Kilfedder |
Aelod Seneddol dros Orllewin Belffast 1966 – 1983 |
Olynydd: Gerry Adams |